O ddydd Mercher 15 Ionawr 2020 ymlaen, bydd Adran Briffyrdd Cyngor Sir Wrecsam yn cau Queen Street yng Nghefn Mawr am 3 wythnos fel bod modd gosod prif bibell nwy newydd yn lle’r hen un.
Oherwydd hynny, bydd gwasanaeth 5C yn cael ei ddargyfeirio.
Bydd y dargyfeiriad fel a ganlyn:
Llwybr 5C – Wrecsam i Ysgol Llangollen
Bydd bysiau’n gweithredu yn ôl yr arfer hyd at gylchfan Tesco Cefn Mawr (heb wasanaethu Ystâd Cae Gwilym, Cefn Mawr), yna’n dychwelyd ar hyd Rock Road a Hampden Way, heibio i Fynedfa Ystâd Plas Madoc a thrwy Acre-fair a Threfor, ac yna’n dilyn eu llwybr arferol i Langollen.
Llwybr 5C – Ysgol Llangollen i Wrecsam
Bydd bysiau’n gweithredu yn ôl yr arfer hyd at Drefor, yna’n cael eu dargyfeirio drwy Acre-fair, heibio i Fynedfa Ystâd Plas Madoc, ar hyd Hampden Way a Rock Road hyd at gylchfan Tesco Cefn Mawr (heb wasanaethu Ystâd Cae Gwilym, Cefn Mawr), yna’n dychwelyd ar hyd Rock Road, Hampden Way, heibio i’r safle sgipiau a thrwy Riwabon, ac yna’n dilyn eu llwybr arferol i Wrecsam.