Problemau teithio

Bws Caerdydd

Bydd Heol Penarth, y tu cefn i orsaf Caerdydd Canolog (i gyfeiriad y gogledd tuag at ran isaf Heol Eglwys Fair) ar gau dros dro nes y nodir yn wahanol.

Bydd gwasanaeth 2 a gwasanaeth Baycar yn teithio ar hyd tanffordd rhan isaf Heol Eglwys Fair i Lôn y Felin (gwasanaeth 2) a Heol y Tollty (gwasanaeth Baycar).

  • Gwasanaeth 2 – gall cwsmeriaid sydd fel rheol yn gadael y bws yng ngorsaf Caerdydd Canolog wneud hynny yn Canal Street.
  • Gwasanaeth Baycar – gall cwsmeriaid sydd fel rheol yn dal/yn gadael y bws yng ngorsaf Caerdydd Canolog wneud hynny yn Heol y Tollty.

Nid yw’r trefniadau hyn yn effeithio ar fysiau sy’n teithio i gyfeiriad y de, a fydd yn teithio heibio i du cefn gorsaf Caerdydd Canolog yn ôl yr arfer.

Yn ôl