Problemau teithio

Bws Caerdydd

Oherwydd gwaith sy’n cael ei wneud ar y brif bibell nwy yn Heol Pant-y-Gored rhwng Pentyrch a Chreigiau, bydd gwasanaeth 63 yn cael ei ddargyfeirio bob dydd Sul rhwng dydd Sul 16 Chwefror a dydd Sul 26 Ebrill.

Dim ond hyd at Bentyrch y bydd y bysiau’n teithio ar ddydd Sul, ac ni fyddant yn gallu gwasanaethu Creigiau.

Wrth gyrraedd Pentyrch bydd y bysiau’n teithio ar hyd Heol y Pentre, Lôn y Fro, Bronhaul, Penuel Road a Bronllwyn hyd at siopau Pentyrch lle byddant yn gorffen eu taith o gyfeiriad y ddinas.

Oherwydd y dargyfeiriad uchod, nodwch y bydd gwasanaeth 63 yn cyrraedd arosfannau Bronllwyn a’r Fynwent ym Mhentyrch tua 12 munud yn gynharach na’r amser a hysbysebwyd.

Yn ôl