Problemau teithio

Bws Caerdydd

Bydd Bridge Road, Llandaf ar gau dros dro oherwydd bod angen rhoi wyneb newydd ar ddarnau o’r ffordd, rhwng 20:00 nos Wener 28 Chwefror a 05:00 ddydd Sadwrn 29 Chwefror.

Bydd bws 20:25 gwasanaeth 25 o Heol y Porth yn dilyn ei lwybr arferol i Penhill Road, yna’n cael ei ddargyfeirio ar hyd Cardiff Road, Rhodfa’r Gorllewin, Gabalfa Avenue a Gabalfa Road i Station Road lle bydd yn ailymuno â’i lwybr arferol.

Ni fydd yr arosfannau bysiau ar hyd Pencisely Road, Palace Road, Cardiff Road (y Black Lion a’r Heathcock) a Bridge Road yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau ar hyd llwybr y dargyfeiriad yn lle hynny.

Bydd bws 20:53 gwasanaeth 24 o Aberporth Road yn cael ei ddargyfeirio o College Road ar hyd Gabalfa Avenue, Western Drive, Cyfnewidfa Gabalfa, Rhodfa’r Gorllewin, Mill Lane a Cardiff Road i Penhill Road lle bydd yn ailymuno â’i lwybr arferol.

Ni fydd yr arosfannau bysiau ar hyd Gabalfa Ave (rhwng College Road a’r Cow & Snuffers), Bridge Road a Cardiff Road (y Black Lion) yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau ar hyd llwybr y dargyfeiriad yn lle hynny.

Yn ôl