Problemau teithio

Bws Caerdydd

Bydd Sloper Road a Virgil Street, Caerdydd ar gau er mwyn cyflawni gwaith ffordd rhwng yr amserau canlynol ar y dyddiadau canlynol:

  • Rhwng 07:30 ddydd Llun 23 Mawrth a 20:30 ddydd Gwener 17 Ebrill.

Bydd gwasanaethau 92/93/94 yn cael eu dargyfeirio rhwng Virgil Street a Heol Penarth ar hyd Sloper Road, Bessemer Road a Hadfield Road.

Ni fydd yr arosfannau ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas wrth ymyl Ysgol Parc Ninian a Sloper Road (ar Heol Penarth) ac wrth ymyl y Swyddfa Ddosbarthu yn cael eu gwasanaethu.

Ni fydd yr arosfannau ar gyfer bysiau i gyfeiriad canol y ddinas wrth ymyl y Swyddfa Ddosbarthu, ar Heol Penarth (wrth ymyl Sloper Road) ac wrth ymyl City Gardens yn cael eu gwasanaethu.

Dylech ddefnyddio’r arosfannau bysiau ar hyd llwybr y dargyfeiriad ar hyd Virgil Street, Bessemer Road a Hadfield Road yn lle hynny.

 

Yn ôl