Problemau teithio

Brodyr Richards

Oherwydd gwaith ffordd ar y Stryd Fawr yn Abergwaun, a ddechreuodd ddydd Llun 18 Mai, ni fydd gwasanaeth T5 yn gallu gwasanaethu Gorsaf Fysiau Ffordd Gyswllt Chimneys nac arhosfan bysiau Pendre tua’r de i gyfeiriad Hwlffordd.

Dylech ddefnyddio’r arhosfan bysiau dros dro yn Sgwâr Abergwaun nes y bydd y Stryd Fawr yn cael ei hailagor.

Ni fydd y newid hwn yn effeithio ar wasanaethau tua’r gogledd i gyfeiriad Aberteifi.

Yn ôl