Problemau teithio

Heol y Gogledd ar gau i gyfeiriad canol y ddinas er mwyn gosod wyneb newydd ar frys ar rannau o’r ffordd (rhwng Ffordd y Goron a Blackweir Terrace).

O 20:00 nos Wener 5 Mehefin tan 05:00 ddydd Sadwrn 6 Mehefin.

Bydd gwasanaethau 21, 23 a 27 i gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu dargyfeirio rhwng Ysgol Uwchradd Cathays a Heol Corbett ar hyd Ffordd y Goron, Whitchurch Road, Cathays Terrace a Heol Corbett.

Ni fydd arosfannau bysiau i gyfeiriad canol y ddinas ar hyd Heol y Gogledd rhwng Ffordd y Goron a Heol Corbett yn cael eu gwasanaethu.

Dylech ddefnyddio arosfannau bysiau ymhellach ymlaen ar hyd Heol y Gogledd neu ar hyd llwybr y dargyfeiriad yn lle hynny.

Yn ôl