Problemau teithio

Er mwyn i Gyngor Dinas a Sir Abertawe roi wyneb newydd ar ffyrdd, bydd yn rhaid i rai o ffyrdd canol y ddinas gael eu cau dros dro gyda’r nos i gerbydau tra bydd y gwaith arfaethedig yn mynd rhagddo.

Nos Iau 9 Gorffennaf 2020 o 18:00 ymlaen

  • Bydd Stryd Mansel (i’r dwyrain o Page Street), Stryd Christina, Stryd De La Beche, Stryd Craddock, Mount Pleasant a Ffordd Belle Vue AR GAU.
  • Bydd pob gwasanaeth i gyfeiriad y gogledd ALLAN O’R DDINAS yn teithio ar hyd Stryd y Santes Fair a’r Stryd Fawr a bydd pob gwasanaeth I MEWN I’R DDINAS yn teithio ar hyd y Stryd Fawr, Stryd y Castell, Stryd Caer a Ffordd y Dywysoges.

Bydd gwasanaethau 12 ac 16 yn teithio ar hyd Heol Caerfyrddin a Gors Avenue er mwyn ailymuno â’u llwybr arferol I’R DDAU GYFEIRIAD.

Bydd gwasanaethau 20 a 21A ALLAN O’R DDINAS yn cael eu dargyfeirio ar hyd Stryd Nicholl, ac I MEWN I’R DDINAS yn cael eu dargyfeirio ar hyd Stryd Henrietta.

Ewch i wefan First Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Yn ôl