Problemau teithio

Trafnidiaeth Cymru

Mae Trafnidiaeth Cymru yn dechrau gweithio ar greu rhwydwaith trafnidiaeth gwell yn ne Cymru, a gallai hynny olygu newidiadau dros dro i’ch cynlluniau teithio.

Lle bo’n bosibl bydd yn trefnu bod y gwaith trawsnewid yn digwydd yn ystod cyfnodau tawelach er mwyn tarfu cyn lleied ag y bo modd ar wasanaethau, a bydd yn cynnig cysylltiadau rhwng gwasanaethau trên a gwasanaethau bws.

03 Awst – Mai 2021

Bydd prif elfen y cam hwn yn dechrau ddydd Llun 3 Awst 2020 pan fydd rheilffyrdd Treherbert, Aberdâr a Merthyr yn cael eu gwella o orsaf Radur i gyfeiriad y gogledd.

Bydd y gwaith yn digwydd yn hwyr gyda’r nos a thros nos o ddydd Sul i ddydd Iau yn ystod y cyfnod dan sylw, sy’n golygu y bydd rhan hon o’r rhwydwaith ar gau o 2000 tan 0500.

  • Bydd gwasanaethau bws yn cymryd lle gwasanaethau trên yn ôl ac ymlaen i’n cyfnewidfa gwasanaethau bws/trên yng ngorsaf Radur.
  • Bydd yr amserlen arferol ar gyfer gwasanaethau trên yn dal i weithredu rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a gorsaf Radur tan amser y trên olaf.
  • Ni fydd y gwaith yn effeithio ar wasanaethau trên cyntaf y bore a bydd y rheini yn gweithredu’n ôl yr arfer.
    Ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth cyn i chi deithio.
Yn ôl