Problemau teithio

Dylech nodi bod bws y T9 yn wasanaeth cyflym i Faes Awyr Caerdydd, sy’n golygu na fydd modd i deithwyr gael eu gadael mewn arosfannau bysiau ar hyd y llwybr tuag at y maes awyr.

Efallai y byddwch yn sylwi bod y cynlluniwr taith yn cynnig llwybr i chi o Gaerdydd i’r maes awyr ar y T9, ac yna’n awgrymu eich bod yn dal y bws T9 nesaf yn ôl i’ch arhosfan chi.

Mae hwn yn gynllun taith dilys, a bydd y daith yn cymryd tua’r un faint o amser ag opsiynau eraill ar gyfer y llwybr. Fodd bynnag, dylech nodi y gallai fod yn opsiwn mwy costus, oherwydd bydd yn golygu y bydd angen i chi brynu dau docyn sengl ar gyfer y T9.

Os nad ydych yn siŵr, neu os ydych yn dymuno cael rhagor o wybodaeth, ffoniwch ni ar 0800 464 0000.

Yn ôl