Bydd rhan o Waterloo Road yn y Rhath ar gau o ddydd Llun 10 Gorffennaf tan fis Mawrth 2018 oherwydd gwaith i osod pont newydd yn lle hen un ger Waterloo Gardens.
Yn ystod y cyfnod hwn ni fydd modd i wasanaethau 1 a 2 Bws Caerdydd wasanaethu pen deheuol Waterloo Road, a byddant yn cael eu dargyfeirio drwy Marlborough Road a Blenheim Road i’r ddau gyfeiriad.
Gall cwsmeriaid sy’n dymuno dal y bws yn yr ardal hon wneud hynny o arosfannau bysiau ar Blenheim Road.