Problemau teithio

Ffordd yr A465 ar gau dros dro rhwng Brynmawr a Gilwern

3 – 4 Chwefror 2018

Bydd ffordd blaenau’r cymoedd ar gau i bob cerbyd o nos Wener 2 Chwefror (ar ôl y bws olaf), a thrwy gydol dydd Sadwrn 3 Chwefror a dydd Sul 4 Chwefror rhwng BRYNMAWR a GILWERN (cylchfan Glanbaiden). (Mae’r achosion eraill o gau ffyrdd a gyhoeddwyd yn flaenorol wedi’u canslo.)

Gwasanaethau Stagecoach Bus yr effeithir arnynt:

Dydd Sadwrn 3 Chwefror 2018 

NI FYDD Gwasanaeth 3 Brynmawr – Y Fenni yn rhedeg ond bydd y contractwr yn darparu gwasanaeth rhannol yn ei le gan ddefnyddio cerbyd bach. 

Gwasanaeth X4: Bydd modd teithio rhwng Brynmawr a’r Fenni ar fysiau bach. Bydd yn ofynnol i deithwyr sy’n teithio o’r gorllewin i’r dwyrain neu o’r dwyrain i’r gorllewin ar hyd Brynmawr newid o fws mawr i fws bach. Mae’r dargyfeiriad yn un hir, a bydd angen i gwsmeriaid sy’n teithio o’r Fenni neu i’r Fenni ddechrau ar eu taith yn gynharach.

Bydd contractwyr yn darparu gwasanaeth ar gyfer y rhan fwyaf o Wasanaeth 3 ar ddydd Sadwrn – cliciwch ar y ddolen gyswllt yma.

Gweler y ddolen gyswllt ar gyfer amserlen Gwasanaeth X4.

Dydd Sul 4 Chwefror 2018

Mae’n flin gennym, ond ni fydd Gwasanaeth X4 yn rhedeg rhwng Brynmawr a’r Fenni. 

Fodd bynnag, bydd bysiau X4 ar ddydd Sul yn rhedeg rhwng Brynmawr - Merthyr Tudful a Chaerdydd fel arfer (mae’r rhain wedi’u cynnwys yn y ddolen gyswllt ar gyfer Gwasanaeth X4 uchod).

Ewch i wefan Stagecoach Bus yma i gael rhagor o wybodaeth.

Yn ôl