Problemau teithio

Oherwydd gwaith peirianyddol sy’n parhau, bydd pont Splott Road ar gau o’r bws cyntaf ddydd Sul 4 Chwefror am hyd at 3 wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd bysiau Bws Caerdydd ar wasanaeth 61 yn cael eu dargyfeirio fel a ganlyn:

61 i gyfeiriad Pengam Green
Bydd y bysiau’n dilyn y llwybr arferol i Sgwâr Adamsdown, ac yna’n mynd ar hyd Moira Place, Moira Terrace, Windsor Road, Sanquuhar Street a Carlisle Street cyn dychwelyd i’r llwybr arferol yn Splott Road (Eglwys St Saviours).

61 o Bengam Green
Bydd y bysiau’n dilyn y llwybr arferol i Splott Road (arhosfan Eglwys St Saviours), ac yna’n mynd ar hyd Carlisle Street, Sanquuhar Street, Windsor Road, Moira Terrace a Moira Place cyn dychwelyd i’r llwybr arferol yn Sgwâr Adamsdown/Meteor Street.

Bydd y bysiau’n aros wrth arosfannau dros dro ar Carlisle Street wrth ymyl y gyffordd ag Adeline Street. Ni fydd arosfannau bysiau ar Constellation Street, Tin Street a Pearl Street yn cael eu gwasanaethu yn ystod y cyfnod hwn.

Ewch i wefan Bws Caerdydd yma i gael rhagor o wybodaeth.

Yn ôl