Problemau teithio

Cau Stryd y Gwynt, Abertawe. Gemau Rygbi Rhyngwladol a Gwyliau Banc. Gwasanaethau First Cymru. 3 Chwefror – 27 Mai 2018

Disgwylir y bydd llawer o bobl yn mynychu’r amryw safleoedd trwyddedig sydd yn ardal Stryd y Gwynt yn ystod y gemau rygbi rhyngwladol a’r Gwyliau Banc sydd ar ddod. Felly, mae Cyngor Abertawe a’r heddlu wedi penderfynu ymestyn y trefniadau presennol ar gyfer atal cerbydau rhag defnyddio Stryd y Gwynt a rhan o Sgwâr y Castell, er mwyn lleihau’r perygl tebygol i’r cyhoedd.

Felly, ni fydd bysiau First Cymru yn aros yn Sgwâr y Santes Fair o’r amseroedd isod ymlaen ar y dyddiadau a restrir isod.

Mae cwmni First Cymru yn awgrymu y dylai cwsmeriaid ymuno â’i wasanaethau yn yr Orsaf Fysiau yn ystod y cyfnodau dan sylw.

  • 1200 (canol dydd) ddydd Sadwrn 3 Chwefror 2018.
  • 1200 (canol dydd) ddydd Sadwrn 10 Chwefror 2018.
  • 1200 (canol dydd) ddydd Sadwrn 24 Chwefror 2018.
  • 1200 (canol dydd) ddydd Sadwrn 17 Mawrth 2018.
  • 1800 ddydd Sul 1 Ebrill 2018.
  • 1800 ddydd Sul 6 Mai 2018.
  • 1800 ddydd Sul 27 Mai 2018.

Ewch i wefan First Cymru yma i gael rhagor o wybodaeth.

Yn ôl