Problemau teithio

Ffyrdd ar gau dros dro. Brynmawr – Gilwern a Gofilon – Llan-ffwyst. Gwasanaethau Stagecoach Bus rhif X4, 3, 47

BRYNMAWR – GILWERN

Dydd Sadwrn 17 a 24 Mawrth
Dydd Sul 18 a 25 Mawrth

Bydd yr A465 ar gau rhwng Brynmawr a Gilwern yn ystod dau benwythnos, sef 17/18 a 24/25 Mawrth 2018. Dydd Sadwrn: Bydd gwasanaeth rhif X4 yn dilyn y dargyfeiriadau a ddefnyddiwyd o’r blaen ac ni fydd gwasanaeth rhif 3 yn gweithredu o gwbl. Dydd Sul: Ni fydd gwasanaeth rhif X4 Brynmawr – Y Fenni yn gweithredu o gwbl.

GOFILON – LLAN-FFWYST

15 i 26 Mawrth 2018

Tra bydd y ffordd hon ar gau, ni fydd gwasanaeth rhif X4 yn gwasanaethu Llan-ffwyst a bydd yn gwasanaethu Gofilon ar ddydd Sadwrn yn unig. Bydd gwasanaeth rhif 3 yn gwasanaethu Gofilon ond ni fydd yn gwasanaethu Llan-ffwyst. Bydd gwasanaeth rhif 47 yn gwasanaethu Llan-ffwyst fel arfer.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.stagecoachbus.com/southwales

Yn ôl