Problemau teithio

Llwybr D
Caerffili - Pwll-y-pant - Pen-yr-heol

O ddydd Llun, 11 Mehefin 2018 am oddeutu mis, bydd rhai newidiadau i Lwybr D oherwydd cyflwyniad system unffordd dros dro ar gyffordd cylchfan Heol Pwll-y-pant a Phontygwindy.

Bydd y bysiau ar y llwybr D o Gaerffili i Ben-yr-heol yn gweithredu fel arfer hyd at gylchfan Pwll-y-pant, yna byddant yn defnyddio'r A468 hyd at gylchfan Trecenydd, yna bydd y llwybr yn parhau fel a ganlyn: Y Bowls, Heol Aneurin, i'r dde i'r Cilgant, i'r chwith i Heol Las, i'r chwith i Ben-y-bryn ac i Derminws Pen-yr-heol. Yna bydd y bysiau'n dychwelyd i Gaerffili fel Llwybr C felly ni fyddant yn mynd i Heol Pwll-y-pant.

Ni fydd y cynllun diwygiedig yn effeithio ar fysiau Llwybr D o Ben-yr-heol tuag at Gaerffili.  

Dylai teithwyr sy'n dymuno dychwelyd o Gaerffili i Heol Pwll-y-pant ddefnyddio bysiau llwybr C yn gadael Caerffili am 08:00 a phob awr tan 18:00. Mae'r bysiau hyn yn dychwelyd drwy Bwll-y-pant fel llwybr D ar ôl gwasanaethu terminws Pen-yr-heol.

Yn ôl