Problemau teithio

Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. 3 – 11 Awst 2018. *Newidiadau sylweddol i wasanaethau.* Mae’r wybodaeth ar ein tudalen ynghylch problemau teithio.


NODER:
NI FYDD modd defnyddio arosfannau bysiau ym Mae Caerdydd yn ystod yr Eisteddfod, a bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio. Mae’r manylion llawn i’w gweld isod.


Cau ffyrdd

Ceir gwybodaeth isod am y ffyrdd a fydd ar gau yn ystod y digwyddiad. Bydd hynny’n angenrheidiol oherwydd nifer y bobl a ddisgwylir yn y digwyddiad.

Dyma’r ffyrdd a fydd ar gau bob awr o’r dydd a’r nos rhwng y dyddiadau uchod:

  • Rhodfa’r Harbwr a Chei Britannia ar eu hyd
  • Plas Bute o’r gyffordd â Chei Britannia i’r gyffordd â James Street
  • Stryd Pen y Lanfa ar ei hyd o’r gyffordd â Falcon Drive
  • Rhodfa Lloyd George o’r gyffordd â Heol Hemingway (i’r ddau gyfeiriad), felly bydd y Flourish ar gau’n gyfan gwbl o amgylch Crefft yn y Bae.

Bath Bus Company

Byddant yn gweithredu’r gwasanaeth teithiau bws to agored o’r arosfan yn y Bae ac o ben Stryd Bute.

Bws Caerdydd

Bydd y dargyfeiriadau canlynol yn berthnasol i lwybrau 6 (baycar a gwasanaethau ychwanegol yr haf), 8, 13 a 91 o 06:00 ddydd Sadwrn 28 Gorffennaf tan 06:00 ddydd Iau 16 Awst.

Baycar: Bydd yn dechrau ac yn gorffen yn Neuadd y Ddinas ac ni fydd yn gwasanaethu Canolfan y Mileniwm, Rhodfa’r Harbwr na Phorth Teigr.

Gwasanaeth 8: Bydd yn dechrau ac yn gorffen yng Nghei’r Fôr-forwyn ac ni fydd yn gwasanaethu Neuadd y Ddinas, Stryd Pen y Lanfa na Chanolfan y Mileniwm. Ar gyfer teithiau i Fae Caerdydd bydd yn dilyn y llwybr arferol i James Street, yna’n parhau YN SYTH YMLAEN ac yn troi i’r DDE i mewn i New George Street ac yn stopio wrth yr arhosfan ar gyfer bysiau sy’n mynd i gyfeiriad canol y ddinas.

13 i’r Pentref Chwaraeon: Bydd yn dilyn y llwybr arferol i Stryd Bute, yna’n troi i’r CHWITH i mewn i Rodfa Lloyd George; i’r DDE i mewn i Heol Hemingway (Neuadd y Ddinas); yna Queensgate; yna Twnnel Butetown i’r A4232 / Cyfnewidfa Cogan, ac yn dilyn y llwybr arferol wedyn i’r Pentref Chwaraeon.

13 i Ganol y Ddinas a’r Ddrôp: Bydd yn dilyn y llwybr arferol i’r A4232, yna’n parhau YN SYTH YMLAEN i Dwnnel Butetown; yna Queensgate; yna Heol Hemingway (Neuadd y Ddinas); yna’n troi i’r CHWITH i mewn i Rodfa Lloyd George; yna’n troi i’r DDE i mewn i Stryd Bute ac yn ailymuno â’r llwybr arferol.

91 i Benarth: Bydd yn dilyn y llwybr arferol i Rodfa Lloyd George, yna’n troi i’r CHWITH i mewn i Heol Hemingway (Neuadd y Ddinas); yna Queensgate; yna Twnnel Butetown i’r A4232 / Cyfnewidfa Cogan, ac yn dilyn y llwybr arferol wedyn i Benarth.

91 i Ganol y Ddinas: Bydd yn dilyn y llwybr arferol i’r A4232, yna’n parhau YN SYTH YMLAEN i Dwnnel Butetown; yna Queensgate; yna Heol Hemingway (Neuadd y Ddinas); yna’n troi i’r DDE i mewn i Rodfa Lloyd George ac yn ailymuno â’r llwybr arferol.

Bydd yr uchod yn golygu na fydd unrhyw fysiau’n gwasanaethu’r arosfannau bysiau ar Stryd Pen y Lanfa, y Flourish (Canolfan y Mileniwm), Rhodfa’r Harbwr na Phorth Teigr.

 

Edwards Coaches

400: Tydi’r bws on yn gwasanaethau Bae Caerdydd ar y Sul, ac am gyfnod y digwyddiad bydd yn diweddau yn Greyfriars Road. 

 

First Group

X10: Ni fydd y bws yn gwasanaethu Bae Caerdydd a byddant yn defnyddio Ffordd Lecwydd i mewn i’r Ddinas.


NAT Group

T9: Yn gweithredu yn ôl yr arfer
89: Ailgyfeirir ar hyd Dumballs Road
303/304: Ailgyfeirir ar hyd Dumballs Road


Stagecoach Bus

Bydd bysiau 25 a 132 yn gweithredu i/o Hoel Hemingway, Swyddfeydd y Cyngor Caerdydd ym Mae Caerdydd.

Yn ôl