Problemau teithio

Dargyfeiriadau Stagecoach Bus, Canol Caerdydd. Dydd Iau 9 Awst 2018

Bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio oherwydd bod ffyrdd yn cael eu cau ar gyfer y digwyddiad i groesawu Geraint Thomas adref (enillydd y Tour de France).

Bydd pob un o fysiau Stagecoach yn dechrau ac yn gorffen yn Heol y Brodyr Llwydion ar ôl 14:30 ac am weddill y dydd.

Ar ôl 14.30 ac am weddill y dydd, ni fydd bysiau 122 a 124 yn gwasanaethu Heol y Gadeirlan. Yn hytrach, byddant yn mynd ar hyd Heol y Gogledd wrth deithio’n ôl ac ymlaen i Heol y Brodyr Llwydion.

Ar ôl 14.30, ni fydd bysiau 132 a 25 yn gwasanaethu Bae Caerdydd.

Yn ôl