Diogelwch ar y rheilffyrdd

 

Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (Cymru)

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (Cymru) yn wasanaeth heddlu cenedlaethol ar gyfer gweithredwyr trenau, eu staff a’u teithwyr ledled Cymru.

Os byddwch yn dyst i drosedd, yn dioddef trosedd neu’n gweld unrhyw beth amheus yn ystod eich taith, mae’n bwysig rhoi gwybod am hynny.

  • Dros y ffôn: 0800 40 50 40, neu 999 mewn argyfwng
  • Drwy neges destun: 61016 (mewn argyfwng dylech bob amser ffonio 999)
  • Drwy ebost: 61016@btp.pnn.police.uk 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.

 

 

Ymgyrch ‘Cymerwch amser i siarad’ Trafnidiaeth Cymru

Beth bynnag yr ydych yn mynd drwyddo, mae yna rywun a fydd yn barod i’w wynebu gyda chi. Dim ond un alwad ffôn y mae’n ei chymryd i ofyn am gymorth. Isod ceir rhestr o fudiadau sydd yno i wrando arnoch chi neu ar rywun yr ydych yn ei adnabod y gallai fod angen cymorth arno:

Y Samariaid (maent yn darparu cymorth i unrhyw un sydd dan straen emosiynol, sy’n ei chael yn anodd ymdopi neu sy’n ystyried cyflawni hunanladdiad)

Ffôn: 116 123 
Ebost: jo@samaritans.org
Llinell Gymraeg: 0808 164 01 23

C.A.L.L. (Llinell Gymorth Iechyd Meddwl i Gymru)

Ffôn: 0800 132 737 
Neges destun: 81066

Meic (Cymorth i bobl ifanc hyd at 25 oed)

Ffôn: 0808 802 34 56 
Neges destun: 84001

Llinell Gymorth Papyrus (Atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc)

Ffôn: 0800 068 41 41 
Ebost: pat@papyrus-uk.org 

NSPCC Childline (Cymorth i blant a phobl ifanc hyd at 19 oed)

Ffôn: 0800 11 11

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Network Rail a phartneriaid eraill i wneud popeth posibl i atal achosion o hunanladdiad ar y rheilffyrdd a chynorthwyo’r sawl y mae achosion o’r fath yn effeithio arnynt.

Peidiwch byth â’ch rhoi eich hun mewn perygl, ond gall gweithred fach wneud gwahaniaeth enfawr i rywun sy’n ystyried cyflawni hunanladdiad.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen ‘Cymerwch amser i siarad’ Trafnidiaeth Cymru ar y we.

 

 

Trais domestig ac ymddygiad rhywiol nas dymunir

Rheilffordd i Loches

Mae Rheilffordd i Loches yn fenter ar y cyd rhwng gweithredwyr trenau ledled y DU a’r elusen Cymorth i Fenywod. Mae gweithredwyr trenau’n talu pris tocynnau trên i fenywod, dynion a phlant sy’n ffoi rhag camdriniaeth ddomestig ac yn teithio i loches.

Sut y mae’r cynllun yn gweithio:

  • Mae unigolyn sydd wedi goroesi camdriniaeth ddomestig yn ceisio cymorth gan wasanaeth cam-drin domestig sy’n rhan o Gymorth i Ferched Cymru, Cymorth i Fenywod, Cymorth i Fenywod yr Alban neu Imkaan (gan gynnwys Llinell Cyngor i Ddynion Respect).
  • Os yw’n briodol, caiff yr unigolyn ei gyfeirio at loches a chaiff wybod pan fydd lle gwag mewn lloches wedi’i gadarnhau ar ei gyfer.
  • Bydd y lloches yn trefnu tocyn trên am ddim i’r unigolyn.
  • Gall y lloches anfon y tocyn a’r manylion casglu at yr unigolyn drwy ffôn symudol. Yna, gall yr unigolyn ddefnyddio e-docyn a anfonwyd i’w ffôn symudol neu gasglu’r tocyn o’r orsaf gan ddefnyddio unrhyw gerdyn debyd neu gredyd; byddant yn gallu teithio fel teithiwr cyffredin heb orfod dweud bod y tocyn yn un rhad ac am ddim neu’u bod yn ffoi rhag camdriniaeth ddomestig.

I gael gwybod mwy am y cynllun Rheilffordd i Loches, ewch i wefan Cymorth i Fenywod.

 

Rhoi gwybod am ymddygiad rhywiol nas dymunir

Bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac sy’n gweithio arni yn ddiogel. Fodd bynnag, gall troseddau ddigwydd ar drafnidiaeth gyhoeddus ac, yn anffodus, gall achosion o ymddygiad rhywiol nas dymunir ddigwydd ar y rhwydwaith rheilffyrdd.

Mae’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig wedi ymrwymo i sicrhau bod y sawl sy’n dioddef ac yn goroesi achosion o ymddygiad rhywiol nas dymunir yn cael gwasanaeth cyson a chefnogol. Gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn cymryd yr hyn yr ydych yn ei ddweud o ddifrif bob amser.

Gallwch roi gwybod am ddigwyddiad yr ydych wedi’i weld neu’i brofi yn bersonol:

  • Dros y ffôn: 0800 40 50 40, neu 999 mewn argyfwng
  • Drwy neges destun: 61016 (mewn argyfwng dylech bob amser ffonio 999)
  • Drwy ebost: 61016@btp.pnn.police.uk 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.

 

Cymorth ychwanegol:

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn (sy’n darparu cymorth a chyngor ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol)

Ffôn: 0808 80 10 800

Ebost: info@livefearfreehelpline.wales

Neges destun: 07860 077333

Galop (Llinell Gymorth Genedlaethol ynghylch Cam-drin Domestig i Bobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsryweddol+)

Ffôn: 0800 999 5428

Ebost: help@galop.org.uk

Prosiect DYN (sy’n darparu cymorth i ddynion heterorywiol, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol sy’n dioddef camdriniaeth ddomestig gan bartner)

Ffôn: 0808 801 0321

Ebost: dyn@saferwales.com

 

 

Ymgyrch I Am Train Safe

Bob blwyddyn mae tua 13,500 o achosion o dresmasu’n digwydd ar reilffyrdd Prydain, sy’n arwain at oddeutu 20-30 o farwolaethau, ac yn ystod y degawd diwethaf mae 69 o bobl wedi’u lladd â thrydan ar y rheilffyrdd. 

Cafodd yr ymgyrch ‘I Am Train Safe’ ei lansio gan Network Rail, a’i fwriad yw helpu i wneud dysgu am ddiogelwch ar y rheilffyrdd yn hwyl ac yn ddiddorol i blant o oedran ifanc.

Gallwch wylio fideo’r ymgyrch sy’n cynnwys yr actores Joanna Page a seren rygbi Cymru Gareth Thomas, cwblhau’r cwis a gwneud adduned i fod yn ddiogel ar y rheilffyrdd ar wefan ‘I Am Train Safe’.

  • Mae Network Rail hefyd wedi datblygu cyfres o adnoddau addysgol am drydan ar y rheilffyrdd, croesfannau rheilffyrdd a diogelwch ar y rheilffyrdd.
  • Mae gan wefan Network Rail ‘You vs. Train’ fwy o wybodaeth am beryglon tresmasu ar draciau rheilffyrdd.