Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn cadw’n ddiogel wrth deithio, felly rydym wedi crynhoi rhai dolenni cyswllt a rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol er mwyn eich helpu i deimlo’n ddiogel a chadw’n ddiogel yn ystod eich taith.
Bydd gofalu bod amseroedd eich trenau a’ch bysiau gennych wrth law yn rhoi hyder i chi, oherwydd byddwch yn gwybod ble mae angen i chi fod a byddwch yn lleihau’r perygl o fynd ar goll.
O ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith i gynllunio eich taith, fe welwch fod modd i chi argraffu manylion y daith er mwyn mynd â nhw gyda chi ar y diwrnod.
Yn yr un modd, gallwch weld fersiynau PDF o’n hamserlenni a’u hargraffu er mwyn mynd â nhw gyda chi ar eich taith.
Gallwch hefyd ein ffonio’n rhad ac am ddim ar 0800 464 0000 lle bydd asiantiaid cyfeillgar ein canolfan alwadau ddwyieithog wrth law i’ch helpu gydag unrhyw ymholiadau a allai fod gennych am drafnidiaeth.
Gweler y wybodaeth isod neu cliciwch ar y dolenni cyswllt canlynol i gael gafael ar y wybodaeth y mae arnoch ei hangen:
Yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yw’r gwasanaeth heddlu cenedlaethol ar gyfer y rheilffyrdd. Mae’n gwasanaethu gweithredwyr trenau, eu staff a’u teithwyr ledled Cymru, Lloegr a’r Alban.
Diogelwch personol
Cliciwch yma i weld cyngor yr heddlu ynghylch diogelwch personol ac ynghylch bod yn wyliadwrus wrth deithio.
Eiddo personol
Cliciwch yma i weld cyngor yr heddlu ynghylch gofalu am eich eiddo personol wrth deithio ac ynghylch cadw eich bagiau a’ch dyfeisiau’n ddiogel.
Plant sy’n teithio heb oedolyn
Cliciwch yma i weld cyngor yr heddlu ynghylch paratoi plant i deithio heb oedolyn ac ynghylch y wybodaeth y bydd arnynt ei hangen.
Y sawl sy’n ymddiddori mewn trenau
Cliciwch yma i gael cyngor yr heddlu ynghylch cadw’n ddiogel wrth ymweld â gorsafoedd rheilffyrdd a thynnu lluniau.
Gweler y dolenni cyswllt isod i gael gwybodaeth gan weithredwyr trafnidiaeth am deithio’n ddiogel:
Beth gallwch chi ddod gyda chi ar y trên
Cyngor ynghylch diogelwch ar drenau
Cynghorion ynghylch diogelwch personol. Mae’r dudalen hon ar y we’n cynnwys rhestr hefyd o’r nodweddion diogelwch sydd i’w cael ar wasanaethau National Express.
Gwybodaeth am ddiogelwch ac osgoi damweiniau
Gwybodaeth am ddiogelwch a beth sydd ar gael ar wasanaethau Stagecoach.
Gweler isod y wybodaeth sydd gan awdurdodau lleol am ddiogelwch ar y ffyrdd yn eich ardal.
Canolfan Diogelwch ar y Ffyrdd. Mae’r wefan hon yn cynnig cyngor ac arweiniad ynghylch ystod o faterion sy’n ymwneud ag addysg am ddiogelwch ar y ffyrdd, yn ogystal â gwybodaeth am hyfforddiant a chyrsiau.
Cliciwch yma i weld gwybodaeth gan Gyngor Sir Caerfyrddin am gludiant a diogelwch ar y ffyrdd yng nghyswllt cludiant ysgol.
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am ddiogelwch ar y ffyrdd gan Gyngor Abertawe.
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am ddiogelwch ar y ffyrdd gan Gyngor Bro Morgannwg.
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am ddiogelwch ar y ffyrdd gan Lywodraeth Cymru.
Tudalen wybodaeth Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.
Isod ceir gwybodaeth am gwmnïau tacsis yn eich ardal.
Cliciwch yma i weld rhestr o wasanaethau tacsi gan Gyngor Sir Ynys Môn.
Cliciwch yma i weld gwybodaeth am dacsis gan Gyngor Caerdydd.
Cliciwch yma i weld gwybodaeth am dacsis a manylion am wasanaethau tacsi gan Gyngor Dinas Casnewydd.
Mae safleoedd tacsis i’w cael yn yr orsaf reilffordd, Queensway ac ar Stryd y Bont, ac mae safleoedd i’w cael hefyd yn Sgwâr Maendy ac ar Stow Hill rhwng 6pm a 6am.
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am dacsis yn Sir Benfro.
Cliciwch yma i gael cyngor gan Gyngor Dinas Abertawe ynghylch cadw’n ddiogel wrth deithio mewn tacsi, gan gynnwys manylion am gwmnïau tacsis trwyddedig a chyngor ynghylch sut i adnabod eich tacsi.
Gallwch weld lleoliadau safleoedd tacsis yn Abertawe trwy glicio yma. Mae safleoedd tacsis i’w cael yng nghanol y ddinas, yn Nhreforys ac yn y Mwmbwls ac mae nifer ohonynt yn gweithredu 24 awr y dydd.
Cliciwch yma i weld rhestr o gwmnïau tacsis a cherbydau hurio preifat gan Gyngor Bro Morgannwg.
Mae rhannu car yn ffordd wych o deithio’n gynaliadwy ac arbed arian drwy leihau cost eich taith.
Mae ShareCymru, y cynllun rhannu ceir yng Nghymru, wedi darparu cynghorion ynghylch diogelwch er mwyn sicrhau eich bod yn cadw’n ddiogel wrth deithio gydag eraill. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Brake, yr elusen diogelwch ar y ffyrdd
Newyddion am draffig a theithio gan BBC Cymru Wales
Gwefan ESOL Nexus y Cyngor Prydeinig – cadw’n ddiogel ar drafnidiaeth gyhoeddus