I gael gwybodaeth gynhwysfawr gan Lywodraeth Cymru am y gwasanaethau sydd ar gael i deithwyr ag anawsterau symud, ewch i wefan y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig.
I gael rhagor o gyngor a chymorth, ffoniwch ni ar Radffôn 0800 464 0000; mae’r llinell ar agor rhwng 7:00 ac 20:00 bob dydd.
Hygyrchedd ar wasanaethau
Pan fyddwch yn defnyddio’r cynlluniwr taith, fe welwch chi fod logo hygyrchedd glas yn cael ei ddangos gyda’r canlyniadau, sy’n nodi a yw’r gwasanaeth hwn yn hygyrch i gwsmeriaid sy’n cael anhawster symud ac sydd â chadair olwyn, cadair wthio, bygi ac ati.
Mae’r wybodaeth hon ar gael ar gyfer y gwasanaethau yr ydym wedi cael gwybodaeth yn eu cylch, ac mae’n gywir hyd y gwyddom ni. Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i ddarparu gwybodaeth ar ran cwmnïau bysiau a threnau yng Nghymru, ni allwn sicrhau y bydd gennym yr holl wybodaeth, a gallai newid ar fyr rybudd. Byddem yn cynghori teithwyr i gysylltu â’r cwmni bysiau neu’r cwmni trenau cyn teithio, er mwyn cadarnhau unrhyw wybodaeth. Isod ceir dolenni cyswllt â gwefannau gweithredwyr.
Logo Glas: Ar sail y wybodaeth yr ydym wedi’i chael, dylai’r gwasanaeth hwn fod yn hygyrch i bob teithiwr.
Logo Croes: Ar sail y wybodaeth yr ydym wedi’i chael efallai na fydd y gwasanaeth hwn yn hygyrch i gwsmeriaid sy’n cael anhawster symud.
Cynhelir profion ar y wefan hon i sicrhau ei bod yn cydymffurfio â lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We.
Mae Canolfan Gyswllt Traveline Cymru yn defnyddio system ‘BT Typetalk’, ac mae’r holl asiantiaid wedi’u hyfforddi i ddefnyddio’r cyfleuster.
Os oes gwybodaeth am hygyrchedd arosfannau a gwasanaethau ar gael, bydd y Ganolfan Gyswllt yn gallu ei rhoi i chi.
Gweler y dolenni isod i gael gwybodaeth am hygyrchedd i bobl anabl gan y gweithredwyr canlynol:
Bysiau Arriva
Bws Caerdydd
First Cymru
Newport Bus
Stagecoach
Mae’r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer teithwyr sy’n defnyddio sgwteri i bobl anabl ac sy’n dymuno defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a gallwch weld y canllawiau yn y fan hon.
Cysylltwch â’ch gweithredwr o flaen llaw er mwyn gwneud yn siŵr y bydd cerbydau â llawr isel yn cael eu defnyddio ar gyfer eich taith. Gellir gweld manylion cyswllt y gweithredwyr yma.
I gael gwybodaeth am ddefnyddio sgwteri i bobl anabl ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, cliciwch yma.
Mae’r elusen sy’n ymwneud â cholli golwg, RNIB Cymru, wedi cynhyrchu’r canllaw ‘Dewch gyda ni’ sy’n ymdrin â’r ystod eang o broblemau y mae pobl â nam ar eu golwg yn dod ar eu traws yn rheolaidd. I gael rhagor o wybodaeth am y canllaw ‘Dewch gyda ni’, ewch i wefan RNIB Cymru.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth ardderchog i’w holl gwsmeriaid. Mae’n argymell y dylech archebu cymorth o leiaf 24 awr cyn i chi deithio (gallwch archebu cymorth ymhellach ymlaen llaw os yw’n well gennych).
Gallwch drefnu cymorth:
Mae’r adnodd rhyngweithiol ‘Stations Made Easy’ gan National Rail yn cynnwys cynlluniau llawr, ffotograffau a gwybodaeth am hygyrchedd yn ein gorsafoedd. Gallwch wirio oriau agor, gweld a oes toiledau hygyrch ar gael a gweld a oes staff wrth law i’ch helpu.
Yn rhai o’n gorsafoedd, dim ond pan fydd staff ar y platfform y bydd y lifftiau’n gweithio.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru.
Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cynnig y mentrau canlynol:
I gael gwybodaeth am doiledau hygyrch wrth ymyl gorsafoedd bysiau, gorsafoedd trenau a’r prif gyfnewidfeydd bysiau:
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Anabledd Cymru
Y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr
Yr Adran Drafnidiaeth
Y Gymdeithas Cludiant Cymunedol
Cerdyn Rheilffordd Person Anabl
Epilepsy Action
You’re Able
Pembrokeshire Access
RNIB Cymru
Bus Users UK
Bwcabus