Teithio hygyrch

 

Hygyrchedd ar wasanaethau

Wrth ddefnyddio ein Cynlluniwr Teithio, fe welwch chi logo hygyrchedd glas ar y canlyniadau ar gyfer eich taith. Bydd y logo’n dangos a yw’r gwasanaeth dan sylw’n hygyrch ar gyfer pobl anabl, gan gynnwys y sawl sy’n defnyddio cadair olwyn, ac ar gyfer cwsmeriaid sydd â chadeiriau gwthio a bygis.

Mae’r wybodaeth hon ar gael ar gyfer y gwasanaethau yr ydym wedi cael gwybodaeth yn eu cylch, ac mae’n gywir hyd y gwyddom ni. Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i ddarparu gwybodaeth ar ran cwmnïau bysiau a threnau yng Nghymru, ni allwn sicrhau y bydd gennym yr holl wybodaeth, a gallai newid ar fyr rybudd. Byddem yn cynghori teithwyr i gysylltu â’r cwmni bysiau neu’r cwmni trenau cyn teithio, er mwyn cadarnhau unrhyw wybodaeth. Isod ceir dolenni cyswllt â gwefannau gweithredwyr.

Logo Glas: Ar sail y wybodaeth yr ydym wedi’i chael, dylai’r gwasanaeth hwn fod yn hygyrch i bob teithiwr.

Logo Croes: Ar sail y wybodaeth yr ydym wedi’i chael efallai na fydd y gwasanaeth hwn yn hygyrch i gwsmeriaid sy’n cael anhawster symud.

I gael rhagor o ganllawiau gan Lywodraeth Cymru ynghylch teithio hygyrch o amgylch Cymru gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ewch i wefan y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig.

 

 

Cael gafael ar wybodaeth Traveline Cymru

Cynhelir profion ar y wefan hon i sicrhau ei bod yn cydymffurfio â lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We.

Os oes gwybodaeth am hygyrchedd arosfannau a gwasanaethau ar gael, bydd y Ganolfan Gyswllt yn gallu ei rhoi i chi.

 

 

Gwybodaeth am hygyrchedd i bobl anabl sy’n defnyddio bysiau

Gweler isod ddolenni cyswllt â thudalennau gweithredwyr ar y we, sy’n darparu canllawiau ynghylch teithio ar gyfer pobl anabl sy’n defnyddio eu gwasanaethau bws. Os nad yw gweithredwr wedi’i gynnwys yn y rhestr, dylech gysylltu’n uniongyrchol ag ef i gael rhagor o wybodaeth.

Gweler y dolenni cyswllt isod i gael gwybodaeth gan y cynghorau lleol canlynol am drafnidiaeth i bobl anabl:

 

Pobl sy’n defnyddio sgwteri i bobl anabl

Mae’r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer teithwyr sy’n defnyddio sgwteri i bobl anabl ac sy’n dymuno defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a gallwch weld y canllawiau yn y fan hon.

Cysylltwch â’ch gweithredwr o flaen llaw er mwyn gwneud yn siŵr y bydd cerbydau â llawr isel yn cael eu defnyddio ar gyfer eich taith. Gellir gweld manylion cyswllt y gweithredwyr yma.

I gael gwybodaeth am ddefnyddio sgwteri i bobl anabl ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, cliciwch yma.

*Nodwch mai rhif ffôn Traveline UK sydd ar y daflen hon gan y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr. Gallwch ffonio Traveline Cymru ar 0800 464 00 00.

 

 

Teithwyr â nam ar eu golwg

Mae’r elusen sy’n ymwneud â cholli golwg, RNIB Cymru, wedi cynhyrchu’r canllaw ‘Dewch gyda ni’ sy’n ymdrin â’r ystod eang o broblemau y mae pobl â nam ar eu golwg yn dod ar eu traws yn rheolaidd. I gael rhagor o wybodaeth am y canllaw ‘Dewch gyda ni’, ewch i wefan RNIB Cymru.

 

 

Teithio â Chymorth gyda Trafnidiaeth Cymru

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth ardderchog i’w holl gwsmeriaid. Mae’n argymell y dylech archebu cymorth o leiaf 24 awr cyn i chi deithio (gallwch archebu cymorth ymhellach ymlaen llaw os yw’n well gennych).

Gallwch drefnu cymorth:

  • Ar-lein pan fyddwch yn archebu eich tocynnau: dewiswch yr help y mae arnoch ei angen o’r ystod o opsiynau
  • Ar-lein ar wefan Passenger Assist
  • Dros y ffôn: ffoniwch y tîm Passenger Assist ar 03330 050 501 (0800-2000)
  • Dros ffôn testun: 08457 585 469 (ar gyfer pobl sydd â nam ar eu clyw

Mae’r adnodd rhyngweithiol ‘Stations Made Easy’ gan National Rail yn cynnwys cynlluniau llawr, ffotograffau a gwybodaeth am hygyrchedd yn ein gorsafoedd. Gallwch wirio oriau agor, gweld a oes toiledau hygyrch ar gael a gweld a oes staff wrth law i’ch helpu.

Yn rhai o’n gorsafoedd, dim ond pan fydd staff ar y platfform y bydd y lifftiau’n gweithio.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cynnig y mentrau canlynol:

  • Cynllun Waled Oren- Mae ar gyfer unrhyw un a fyddai’n hoffi cael cymorth i gyfathrebu â staff wrth deithio ar fws neu drên.
  • Canllaw Sain- Mae’r canllaw sain dwyieithog yn cynorthwyo cwsmeriaid sydd â phroblemau gweld i gynllunio eu teithiau ar drên.  
  • Cynllun Teithio â Chŵn Cymorth- Mewn partneriaeth ag Assistance Dogs (UK).
  • Sgyrsiau Ymwybyddiaeth o Gymorth wrth Deithio- Gall Trafnidiaeth Cymru drefnu ymweliad codi ymwybyddiaeth i grwpiau lleol er mwyn trafod pa gymorth sydd ar gael yn eu gorsafoedd ac ar ein trenau, sut mae prynu tocyn a threfnu cymorth, pa gyfleusterau sydd gan orsafoedd a threnau a pha fathau o ddisgownt sydd ar gael
  • Laniard Blodau’r Haul- Mae Laniard Blodau’r Haul yn galluogi’r sawl sy’n ei wisgo i ddangos yn dawel bach y gallai fod ganddynt anghenion ychwanegol nad ydynt yn amlwg yn syth. Nid oes yn rhaid i gwsmeriaid ddweud beth yw eu hanabledd; caiff y staff i gyd eu hyfforddi i adnabod y laniard a sylweddoli y gallai fod angen help ychwanegol arnoch. Gellir anfon laniard atoch yn uniongyrchol drwy’r post.

 

 

Toiledau hygyrch yng Nghymru

  • Mae lleoliadau toiledau sy’n agored i’r cyhoedd ynghyd â manylion am fynediad pobl anabl iddynt i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.
  • Mae’r Cynllun Allwedd Cenedlaethol yn cynnig i bobl anabl fynediad annibynnol i doiledau cyhoeddus sydd dan glo o amgylch y wlad. Mae toiledau â chloeon y Cynllun Allwedd Cenedlaethol i’w cael yn awr mewn canolfannau siopa, tafarnau, caffis, siopau adrannol, gorsafoedd bysiau a threnau, a llawer o leoliadau eraill yn y rhan fwyaf o’r wlad.
  • Os ydych yn teithio ar y trên, gallwch edrych ar dudalen National Rail Enquiries ar gyfer gorsafoedd a chyrchfannau a nodi enw neu god tair llythyren yr orsaf yr ydych yn galw ynddi, er mwyn cael manylion y cyfleusterau sydd ar gael yn yr orsaf honno.

 

 

Gwasanaeth Cludo Cleifion mewn Achosion nad ydynt yn rhai Brys

Mae’r Gwasanaeth Cludo Cleifion mewn Achosion nad ydynt yn rhai Brys yn wasanaeth i gleifion ledled Cymru nad ydynt, am resymau meddygol, yn gallu trefnu eu ffordd eu hunain o deithio’n ôl ac ymlaen i’w hapwyntiadau ysbyty.

Mae’n adnodd hanfodol i helpu’r cleifion hynny y mae arnynt angen y gwasanaeth ac sy’n dibynnu arno, ac ni ddylai gael ei ddefnyddio yn lle ffyrdd eraill o gyrraedd apwyntiadau.

Nodwch nad yw angen am driniaeth yn gyfystyr ag angen am gludiant. Mae’n rhaid i bob claf fynd drwy broses cadarnhau cymhwystra, er mwyn sicrhau bod modd cynnig y gwasanaeth iddynt. Cliciwch yma i weld a ydych yn gymwys

Os gwelir nad yw cleifion yn gymwys, gall y Tîm Cludiant Amgen drafod opsiynau o ran trafnidiaeth sydd ar gael yn eich ardal ac a allai eich helpu.

 

 

Dolenni defnyddiol