Teithio llesol

 

Beth yw teithio llesol?

“Mae teithio llesol yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio cerdded a beicio ar gyfer teithiau pwrpasol i gyrchfan, neu ar y cyd â thrafnidiaeth gyhoeddus. Er bod cerdded a beicio’n weithgareddau sy’n iach o’u hanfod ac y dylid eu hyrwyddo, drwy gymryd lle siwrneiau mewn car y bydd y gweithgareddau hyn yn dod â buddion sylweddol i iechyd a llesiant Cymru.

Mae teithio llesol yn flaenoriaeth allweddol yn Llwybr Newydd – sef Strategaeth Drafnidiaeth Cymru – ac mae ar frig yr hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy sy’n arwain ein holl weithgareddau ym maes trafnidiaeth.” Canllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol, Gorffennaf 2021

 

Cynllunio eich teithiau ar feic ac ar droed

Gall dewis opsiynau teithio llesol, megis beicio a cherdded, ar gyfer rhan o’ch taith neu’ch taith gyfan leihau eich ôl troed carbon a helpu i warchod yr amgylchedd. Gall hefyd hybu eich iechyd corfforol a’ch iechyd meddwl.

Mae ein Cynllunwyr Beicio a Cherdded pwrpasol yma i’ch helpu i gynllunio’n hwylus y teithiau y byddwch yn eu gwneud gan ddefnyddio opsiynau teithio llesol.

Cynlluniwr Beicio

I gynllunio eich teithiau ar feic yng Nghymru, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw:

Byddwch wedyn yn gweld map o’r llwybr beicio mwyaf cyfleus rhwng y ddau leoliad, yn ogystal â chyfarwyddiadau cam wrth gam ar gyfer eich taith. Bydd ein Cynlluniwr Beicio hefyd yn dangos: lefelau’r traffig sy’n debygol ar hyd eich llwybr; nifer y calorïau yr ydych yn debygol o’u llosgi; faint o CO2 fydd yn cael ei osgoi wrth wneud y daith hon ar feic; proffil y llwybr o ran uchder y tir, a llawer mwy!

Cynlluniwr Cerdded

I gynllunio eich taith ar droed, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw:

  • Mynd i Gynlluniwr Taith Traveline Cymru
  • Clicio ar yr eicon cerdded
  • Nodi’r lleoliadau perthnasol yn y blychau ‘O’ ac ‘I’, ac yna clicio ar ‘Anfon’.

Bydd ein Cynlluniwr Cerdded wedyn yn dangos y llwybr cerdded mwyaf cyfleus rhwng y ddau leoliad a nodwyd gennych, yn ogystal ag amcangyfrif o’r amser y bydd y daith yn ei gymryd.

 

Cwmni llogi beiciau Brompton

Mae cwmni llogi beiciau Brompton yn cynnig gwasanaethau hygyrch ar gyfer llogi beiciau, gan gynnig dull iach o deithio sy’n garedig i’r amgylchedd.

Mae gan Brompton orsaf llogi beiciau y tu allan i brif fynedfa Gorsaf Fysiau Caerfyrddin. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw creu cyfrif ar-lein gyda chwmni llogi beiciau Brompton; archebu beic y mae modd ei blygu, naill ai ar-lein neu drwy neges destun; casglu eich beic o’r tu allan i Orsaf Fysiau Caerfyrddin; a’i ddychwelyd i’r orsaf llogi beiciau pan fyddwch wedi gorffen! Gallwch logi beic am awr, am ddiwrnod neu hyd yn oed am benwythnos cyfan.

 

Beiciau ar fysiau

Gan fod nifer fawr o wahanol weithredwyr yn rhedeg gwasanaethau bws yng Nghymru, mae’r rheolau ynghylch mynd â beic ar fws yn amrywio.

At ei gilydd, gall beiciau y mae modd eu plygu gael eu cludo’n ddiogel yn y man storio bagiau ar y bws, cyhyd â bod y gyrrwr yn fodlon. Mae ystyriaethau o ran lle a diogelwch yn golygu na chaiff beiciau safonol nad oes modd eu plygu eu caniatáu ar fysiau fel rheol.

Cysylltwch â gweithredwr eich gwasanaeth bws yn uniongyrchol i weld a oes modd i chi fynd â beic ar ei fysiau.

 

Beiciau ar drenau

Mae gan Wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru nifer gyfyngedig o leoedd i feiciau ar eu trenau.

Cadw lle ar gyfer beic

Ar rai gwasanaethau, gofynnir i gwsmeriaid gadw lle ar gyfer beic wrth iddynt brynu eu tocyn (gymaint ag sy’n bosibl ymlaen llaw, ac o leiaf 24 awr cyn teithio).

Mae modd cadw lle’n rhad ac am ddim trwy ffonio 0333 3211 202. Mae’r llinellau ar agor rhwng 08:00 a 20:00 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a rhwng 11:00 a 20:00 ar ddydd Sul. 

Ar wasanaethau lle nad oes modd cadw lle, mae’r lleoedd i feiciau ar gael ar sail y cyntaf i’r felin. Nid oes lle ar gael i feiciau yn ystod oriau brig ar rai o lwybrau lleol Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn y Cymoedd a Chaerdydd.

Sylwer:

  • Hyd yn oed os ydych wedi cadw lle ar gyfer eich beic, dim ond yn ôl disgresiwn staff y trên y caiff beiciau eu cludo
  • Ni all Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru gludo beic ar unrhyw drên oni bai bod y sawl sy’n gyfrifol am y beic yn teithio ar y trên hwnnw
  • Ni chaiff beiciau modur, mopeds, sgwteri modur, beiciau â motor na beiciau tandem eu caniatáu ar unrhyw wasanaeth
  • Os oes gwaith peirianyddol yn digwydd ar y rheilffordd, gyrrwr y bws sy’n gweithredu yn lle’r gwasanaeth trên fydd yn penderfynu a oes modd i chi fynd â’ch beic ar y bws ai peidio

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.

 

Mae Great Western Railway a CrossCountry hefyd yn argymell y dylai teithwyr gadw lle ar gyfer beic cyn teithio ar eu gwasanaethau:

 

Mudiadau beicio a cherdded

Sustrans

Sustrans yw prif elusen y DU ym maes teithio llesol a chynaliadwy, sy’n darparu gwybodaeth ynghylch sut mae teithio ar feic neu ar droed. Mae hefyd yn gweithio i wella seilwaith, megis y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, er mwyn galluogi pobl i deithio mewn ffyrdd mwy cynaliadwy.

Ramblers Cymru

Ramblers Cymru yw gwarcheidwaid y rhwydwaith llwybrau yng Nghymru. Maent yn helpu pobl Cymru ac ymwelwyr i fwynhau cerdded, ac yn gwarchod y mannau lle’r ydym i gyd yn dwlu cerdded. Mae Ramblers Cymru am i Gymru gynnig mynediad o’r radd flaenaf i’r awyr agored, gan gynnwys rhwydwaith o lwybrau sy’n dangos ôl gofal a gwaith cynnal a chadw.