Blog

Cyclist in Cardiff

Deddf Drafnidiaeth bwysig yn sicrhau bod beicwyr ar hyd a lled y byd yn gwybod am Gymru

08 Tachwedd 2013

Ceir dulliau eraill o deithio bob amser, nad ydym efallai’n oedi i’w hystyried. Gall beicio yn enwedig apelio’n fawr; gall fod yn ffordd wych o weld rhai o olygfeydd y wlad, ac mae’n fwy iach na dulliau eraill o deithio. Ymddengys fod awydd yng Nghymru i wella’r cyfleusterau sydd ar gael er mwyn helpu i wneud beicio’n fwy cyffredin, a gan hynny mae Gweinidogion y Cynulliad bellach wedi pasio deddf bwysig a fydd yn mynnu bod cynghorau yng Nghymru yn cynyddu nifer y rhwydweithiau cerdded a beicio y maent yn eu creu. Bydd gofyn i awdurdodau lleol wneud y canlynol:

  • Llunio rhwydweithiau a safonau dylunio newydd ar gyfer llwybrau
  • Mynnu dadleuon ac adroddiadau blynyddol yn y Senedd er mwyn sicrhau bod cynnydd wedi’i wneud.

Y gobaith yw y bydd cyflwyno’r ddeddf hon yn dechrau annog rhagor o bobl i feicio neu gerdded yn lle defnyddio’r car, ac mae’r manteision iechyd sy’n gysylltiedig â’r newid hwn yn hynod o werthfawr. Yn ddiweddar bu i ddwy elusen - Cymdeithas y Cerddwyr a Chymorth Canser Macmillan - gyhoeddi’r adroddiad ‘Walking Works’, sy’n esbonio sut y gallai’r weithred syml o gerdded drawsnewid bywydau ac iechyd pobl er gwell. Gallwch ddarllen rhagor am y stori hon ar ein tudalen newyddion yma.

Yn ôl Rheolwr Polisi ac Eiriolaeth Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru, Delyth Lloyd, bydd y ddeddf hon yn helpu i’w gwneud yn haws beicio neu gerdded i’r gwaith ac i’r ysgol, ac mae’n gam pwysig ymlaen tuag at helpu pobl yng Nghymru i fod yn fwy egnïol.

Drwy gyflwyno llwybrau newydd a gwell, y gobaith yw y bydd manteision beicio yn cael eu hamlygu. Bydd modd i feicwyr fwynhau’r golygfeydd yn yr ardal o’u cwmpas a phrofi dulliau eraill o deithio y bydd modd iddynt barhau i’w defnyddio yn rhan o’u trefn ddyddiol arferol. Yn ogystal â bod yn ddewis rhatach, gall beicio fod yn fwy cyfleus hefyd gan olygu bod modd i chi osgoi prysurdeb traffig y bore ar y ffordd i’r gwaith neu’r ysgol. Fodd bynnag, gall beicio fod yn fwy na dull o deithio’n ôl ac ymlaen i’r gwaith. Gall fod yn hobi, neu’n ffordd o gael ychydig o awyr iach. Mae Cymru yn enwog am ei thirweddau ysblennydd a’i golygfeydd godidog, a bydd cyflwyno llwybrau beicio newydd a gwell yn golygu y bydd modd i ni ddarganfod mwy o’n hamgylchedd. Mae sicrhau ei bod yn haws cerdded a beicio yn sicr yn gam a ddylai weld rhagor o bobl yn defnyddio’r dull hwn o deithio. Gall hynny fod o fudd i rieni a theuluoedd yn enwedig, a fydd efallai’n cael eu hannog i ddefnyddio’r llwybrau am eu bod yn hwylus ac yn ddiogel.

Beiciwr yn Caerdydd

Mae pryderon wedi’u codi ynghylch effeithiolrwydd y ddeddf oherwydd diffyg ymrwymiad i roi cyllid uniongyrchol i gynghorau er mwyn iddynt weithredu unrhyw gynlluniau. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod £12 miliwn eisoes ar gael ar gyfer ariannu llwybrau o’r fath.

Meddai llefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, “Byddai sicrhau mai beicio a cherdded yw’r dulliau mwyaf dymunol o wneud teithiau byr yn cael effaith sylweddol ar iechyd y boblogaeth ac ar leihau tagfeydd.”

Mae gwella cyfleusterau beicio a cherdded y wlad yn cynnig sawl mantais bwysig, nid yn unig ar gyfer iechyd pobl, ond ar gyfer iechyd yr ardaloedd gwledig o’n cwmpas. Drwy ystyried dulliau mwy cynaliadwy o deithio, bydd lleihau tagfeydd traffig yn cael effaith gadarnhaol ar yr ardal o gwmpas, gan ostwng lefelau llygredd. Mae’r ddeddf newydd hon yn gam i’r cyfeiriad cywir o safbwynt denu pobl i ddefnyddio dulliau amgen o deithio a ddylai gael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd a’r modd yr ydym yn ymwneud â’n hamgylchedd.

Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.



Pob blog Rhannwch y neges hon