Blog

Merry Christmas from Traveline Cymru

Nadolig Llawen oddi wrth Traveline Cymru – Crynodeb o 2013

20 Rhagfyr 2013

Mae’r Nadolig yn nesáu, a hoffem achub ar y cyfle hwn i ddymuno Nadolig Llawen iawn i bob un ohonoch chi!

Mae 2013 wedi bod yn flwyddyn wych i ni yma. Felly, roeddem yn meddwl y byddai’n braf rhoi crynodeb o rai o uchafbwyntiau’r flwyddyn ddiwethaf i chi cyn i flwyddyn newydd ddechrau.

Mae ein canolfan alwadau wedi gweld rhai newidiadau dros y flwyddyn ddiwethaf. Ym mis Mawrth, dathlodd y staff y ffaith bod blwyddyn wedi pasio ers iddynt ddechrau gweithio yn eu swyddfa newydd ym Mhenrhyndeudraeth; mae pawb wedi ymgartrefu yno bellach, a byddant yn dathlu pen-blwydd y swyddfa’n ddwy oed yn fuan. Ym mis Ebrill hefyd, lansiwyd y cyfleuster ‘Help ar unwaith’ ar ein gwefan. Mae’r asiantiaid cyfeillgar yn ein canolfan alwadau wrth law yn ystod oriau agor y ganolfan i ymdrin â’ch holl ymholiadau, ac mae’r cyfleuster yn ffordd arall y gall ein cwsmeriaid gael gwybodaeth amser real pan fydd arnynt ei hangen. Yn fwy diweddar, fodd bynnag, mae oriau agor ein canolfan alwadau wedi newid ychydig. Mae’r ganolfan yn dal i agor am 07:00 ond mae’n cau yn gynharach erbyn hyn, am 20:00 yn lle 22:00.

Gwelodd y tîm yng Nghaerdydd lawer o newid hefyd ym mis Mehefin, wrth i ni symud i’n swyddfeydd newydd. Mae symud wedi bod yn fanteisiol iawn i ni, oherwydd mae mwy o le ar gael yn awr ar gyfer ein tîm sy’n parhau i dyfu, ac rydym mewn man sy’n llawer mwy hygyrch ar y llawr gwaelod. Er mwyn dathlu’r ffaith ein bod wedi symud, cafodd y swyddfeydd newydd eu hagor yn swyddogol ddechrau mis Rhagfyr, ac yn rhan o’r digwyddiad cynhaliwyd bore coffi Macmillan. Buodd ein staff yn coginio llawer o gacennau blasus, a helpodd hynny ni i godi £181.70 ar gyfer achos gwych!

Bydd haf 2013 yn aros yn ein cof am resymau eraill hefyd, gan i ni lansio ein hymgyrch Arwyr Traveline. Roedd gweld cynifer o blith ein cynulleidfa’n cymryd rhan yn galonogol iawn; cymerodd dros 4,000 o bobl ran yn y gystadleuaeth, gan roi gwybod i ni sut y maent yn defnyddio Traveline Cymru yn eu bywyd o ddydd i ddydd. Mae bob amser yn wych clywed gan ein cwsmeriaid a darganfod pa wasanaethau sy’n ddefnyddiol ac yn gyfleus iddynt, ac roedd ymgyrch Arwyr Traveline yn ffordd dda o glodfori a gwobrwyo ein cwsmeriaid presennol.

Yn ystod yr haf mynychodd tîm Traveline Cymru sawl gŵyl haf, gan gynnwys yr Ŵyl Un Blaned yng Nghaerdydd a Gŵyl Haf y Coed-duon. Aethom hefyd i Ŵyl y Caws Mawr yng Nghaerffili, yn rhan o ŵyl fach ‘Dihangfa Fawr’ Sustrans, lle cawsom gyfle i hyrwyddo gwasanaethau Traveline yn ogystal â chlodfori dulliau cynaliadwy o deithio. Roedd Sioe Frenhinol Cymru hefyd yn un o uchafbwyntiau’r haf i ni. Roedd yn ddigwyddiad prysur iawn, a llwyddwyd i sgwrsio â llawer o bobl. Roedd ein llysgennad, Iolo Williams, yn bresennol ac wrth law i siarad ag ymwelwyr am y gwasanaethau y mae Traveline Cymru yn eu cynnig. Gellir gweld ein holl luniau o ddigwyddiadau’r haf y buom ynddynt ar ein tudalen Facebook yma!

Ym mis Medi cynhaliwyd Ffeiriau’r Glas ledled y wlad, a bu Laura, ein Swyddog Marchnata, allan yn hyrwyddo ymgyrch Arwyr Traveline i fyfyrwyr newydd, gan gyflwyno ein gwasanaethau iddynt. Mae Ffeiriau’r Glas yn gyfle gwych i annog myfyrwyr newydd a’r sawl sydd eisoes yn fyfyrwyr i ddefnyddio’r drafnidiaeth gyhoeddus sydd o’u cwmpas wrth iddynt ymgartrefu yng Nghymru. Roedd yr ymateb a gafwyd yn nigwyddiadau’r Glas yn wych – cafodd dros 4,000 o fagiau llawn nwyddau a gwybodaeth eu dosbarthu, a chafwyd llawer o geisiadau gan fyfyrwyr ar gyfer cystadleuaeth Arwyr Traveline. Roedd hon yn ffordd wych o gael myfyrwyr i ddechrau ymwneud â’r cwmni a darganfod holl fanteision trafnidiaeth gyhoeddus.

Ym mis Medi gwelwyd y galw am ein gwybodaeth am deithio’n cynyddu i’w lefel uchaf erioed drwy ein gwefan, ein canolfan alwadau a’n gwasanaethau ar gyfer ffonau symudol. Roedd hynny’n rhannol oherwydd llwyddiant digwyddiadau’r Glas a’r ffaith bod llawer o bobl yn defnyddio ein apiau rhad ac am ddim ar gyfer ffonau symudol Android ac iPhone, a arweiniodd at gynnydd o 62% yn y wybodaeth a gyrchwyd, rhwng mis Medi 2012 a mis Medi 2013. Mae’r galw am wybodaeth a geir yn gyflym wrth deithio wedi cynyddu’n sylweddol, ac rydym yn disgwyl i hynny barhau yn y flwyddyn newydd.

Yn 2013 bu i ni ddechrau gweithio gydag amrywiaeth o fusnesau, gan gynnwys HSBC, Newport Bus, Working Links a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sydd wedi elwa o ddefnyddio ein gwasanaethau, er mwyn creu cyfres o astudiaethau achos ysgrifenedig ac astudiaethau achos ar ffurf fideo. Roedd y rhain yn llwyfannau gweledol ardderchog i’r cwmnïau ddangos sut y mae ein gwasanaethau ni, megis ein cynlluniwr taith y mae modd ei lawrlwytho, wedi bod o fudd iddyn nhw a’u gweithwyr yn eu swyddi o ddydd i ddydd. Gallwch weld yr astudiaethau achos hyn yn fanylach drwy ymweld â’r dudalen astudiaethau achos sydd ar ein gwefan yma.

Yn ogystal, rydym wedi ychwanegu mwy o amrywiaeth at ein cynlluniwr taith, sydd bellach yn cynnwys yr opsiwn i gynllunio taith ar feic. Wrth ddefnyddio’r cynlluniwr taith, mae modd erbyn hyn i chi ddewis yr opsiwn ar gyfer beicio’n unig, a fydd yn darparu cyfarwyddiadau ysgrifenedig ar gyfer eich llwybr yn ogystal â map. Drwy ychwanegu mwy o amrywiaeth o ran dulliau teithio at ein cynlluniwr taith, rydym yn gobeithio y gallwn barhau i annog ein defnyddwyr i ddefnyddio dulliau mwy cynaliadwy o deithio, gan gynnig dulliau amrywiol o wneud hynny iddynt.

Yn nes ymlaen yn y flwyddyn, bu i ni gyflwyno ein gwasanaeth darganfod prisiau ar y wefan ac ar ein apiau ar gyfer ffonau symudol. Dyma’r cam nesaf o ran sicrhau bod ein cynlluniwr taith yn wasanaeth mwy defnyddiol i’n cwsmeriaid, sy’n sicrhau bod yr holl wybodaeth y mae arnynt ei hangen ar gael mewn un man. Lansiwyd y gwasanaeth yn swyddogol yng Nghasnewydd gan y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, ac roedd yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn. Yn ystod y lansiad bu Tansy, Goruchwylydd y Prosiect, yn esbonio sut y dechreuodd y gwasanaeth, a chafwyd ychydig eiriau gan Iolo Williams, ein llysgennad, a fu’n annog pobl i deithio gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Gan ein bod yn dwlu ar bopeth sy’n ddigidol, roedd lansio’r blog newydd hwn ym mis Hydref yn ddigwyddiad cyffrous iawn. Mae’r blog wedi ennill ei blwyf erbyn hyn, a byddwn yn parhau i’w ddiweddaru â straeon newydd, y wybodaeth ddiweddaraf am ein staff a llawer, llawer mwy. Felly, sicrhewch eich bod yn parhau i fwrw golwg arno er mwyn darllen y cynnwys diweddaraf!

Mae diwedd y flwyddyn yn prysur nesáu, ac rydym wedi sylwi bod y tywydd oer wedi dechrau gafael. Mae hynny’n golygu bod yr adeg honno o’r flwyddyn wedi cyrraedd pan fydd ein gwasanaethau ar eu gorau, wrth i bobl chwilio am wybodaeth sy’n newid yn ystod y gwyliau. Mae ein tudalen Teithio dros y Nadolig yn dal ar y wefan. Mae’n cynnwys yr holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen ynghylch pa wasanaethau sy’n cael eu darparu dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, er mwyn i chi allu cynllunio eich teithiau o flaen llaw heb orfod poeni. Rydym hefyd wedi bod yn defnyddio Real Radio i hyrwyddo rhif ein canolfan alwadau fel ffordd ardderchog o gael gwybodaeth am deithio dros yr ŵyl! Mae croeso i chi ffonio ein staff cyfeillgar ar 0871 200 22 33 os bydd gennych unrhyw ymholiadau, a byddwn yn fwy na pharod i’ch helpu. Llais y dyn ei hun, Iolo Williams, yw’r llais a glywch yn ein hysbyseb, ac mae’r hysbyseb wedi cael ei chwarae ar Real Radio gydol mis Rhagfyr.

Hoffem ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch, gan ddiolch i chi am fod yn rhan o’n taith. Rydym wedi cael blwyddyn arbennig yn 2013, ac edrychwn ymlaen at barhau i ddarparu ein gwasanaethau yn y flwyddyn newydd.

Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.




Pob blog Rhannwch y neges hon