Blog

Walk to work week

Wythnos Cerdded i’r Gwaith

15 Mai 2014

‘Dewch i weld i ble y gallwch fynd wrth gerdded’. Mae’r Wythnos Cerdded i’r Gwaith wedi bod yn mynd rhagddi’r wythnos hon yn rhan o’r Mis Cerdded Cenedlaethol sydd wedi’i drefnu gan Living Streets. Mae’r elusen genedlaethol yn gweithio i helpu i greu strydoedd diogel a dymunol a fydd yn denu pobl i ddechrau cerdded yn rhan o drefn arferol eu diwrnod. Bwriad yr Wythnos Cerdded i’r Gwaith yw helpu pob un ohonom i ddarganfod manteision cerdded, er enghraifft:

- Clirio eich pen. Mae’r awyr iach y byddwch yn ei chael o fynd am dro yn gallu gwneud gwyrthiau, ac efallai y gwelwch chi eich bod yn teimlo’n fwy effro ac yn fwy parod i fwrw at eich diwrnod gwaith.
- Arbed arian. Nid yw gwario’r arian yr ydych wedi gweithio’n galed i’w ennill ar betrol a chostau parcio’n deimlad braf iawn. Yn ogystal ag arbed arian i chi, gallai cerdded yn lle defnyddio’r car unwaith yr wythnos eich helpu i leihau eich ôl troed carbon hefyd.
- Cadw’n heini.
- Darganfod lleoliadau newydd nad ydych efallai’n gwybod amdanynt.

Mae’r ymgyrch yn ffordd wych o roi cynnig ar ddefnyddio rhai llwybrau cerdded yn eich ardal, a gweld a allwch chi ddechrau cerdded i’r gwaith yn lle defnyddio dulliau eraill o deithio.

Wrth ymuno â Living Streets, gallwch gymryd rhan yn rhad ac am ddim yn her yr elusen ar gyfer gweithleoedd, sy’n rhoi cyfle i chi gofnodi’r pellter yr ydych yn ei gerdded bob dydd er mwyn gweld faint o galorïau yr ydych wedi’u llosgi. Mae’n ffordd hwyliog o gystadlu â’ch cydweithwyr a gweld sut y gallwch chi gynnwys rhywfaint o gerdded yn eich diwrnod gwaith, boed drwy gerdded i’r gwaith, cerdded i gyfarfod neu gerdded i’r dref i gael coffi. Weithiau, efallai na fydd cerdded i’r gwaith yn ymarferol i’r rhai hynny ohonoch sydd â thaith hirach i’r gwaith, felly gallwch gymryd rhan yn y ffordd sydd fwyaf addas i chi. Efallai y gwelwch chi fod yr ymgyrch yn ddigon i’ch cymell i ddechrau cerdded o amgylch eich ardal leol neu fynd am dro gyda’ch cydweithwyr yn ystod amser cinio.

Drwy gydol yr wythnos, mae Living Streets hefyd wedi bod yn cynnig ysbrydoliaeth a syniadau gwych ynglŷn â chynnwys gweithgareddau cerdded yn eich diwrnod gwaith, ar ffurf pod-ddarllediadau sy’n sôn am gerddwyr brwdfrydig a phrofiadol, ambell air o gyngor, a straeon diddorol am bobl sy’n cymryd rhan. Cawsom lawer o fwynhad yn darllen y neges ar flog yr elusen a oedd yn rhestru’r saith cam ar gyfer bod yn gerddwr llwyddiannus, er enghraifft cael cyfarfodydd gwaith wrth gerdded er mwyn eich helpu i feddwl yn fwy creadigol.

Waeth beth fo trefn eich diwrnod, bydd cyfleoedd bob amser i wneud mwy o ymarfer corff a cherdded, boed wrth deithio i’r gwaith neu yn ystod eich amser hamdden. Efallai y dewch chi ar draws rhai lleoedd newydd ar y ffordd! Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am sut y gallwch chi ddechrau cerdded, ewch i’n tudalen Teithio ar Feic neu ar Droed i weld rhai dolenni cyswllt defnyddiol a rhywfaint o wybodaeth am gerdded ac am ddechrau beicio. Mae gan Gymru rai llwybrau beicio sydd â golygfeydd hynod o hardd, a allai hwyluso’r daith i’r gwaith ar gyfer y rhai hynny ohonoch sy’n byw ymhellach i ffwrdd, a gall beicio fod yn ffordd yr un mor ddymunol o deithio i’r gwaith. Drwy ddechrau gwneud rhai newidiadau bach i’n taith ddyddiol i’r gwaith, gyda’n ffrindiau neu’n cydweithwyr, mae digon o fwynhad a digon o fanteision i’w cael a allai helpu i droi’r newidiadau yn ymrwymiad tymor hwy.

Gallwch ymuno â’r sgwrs yn ystod gweddill yr wythnos ar #WalkToWorkWeek, a dod o hyd i bobl eraill sy’n cymryd rhan yn yr ymgyrch ac sydd wedi anfon lluniau ohonynt eu hunain yn cerdded i’r gwaith neu luniau o bethau y maent wedi’u gweld ar y ffordd.

I’r rhai hynny ohonoch sydd ar Pinterest, gallwch ddilyn ein Bwrdd Cerdded hefyd a rhannu eich syniadau cerdded â ni!

Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.


Pob blog Rhannwch y neges hon