Blog

CILT Award win

Traveline Cymru yn cipio un o wobrau cenedlaethol y Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth (CILT) 2014

29 Mai 2014

Mae’r gwaith o gyflwyno ein prosiect gwybodaeth am brisiau tocynnau wedi cyrraedd pen ei daith o’r diwedd, ac mae wedi golygu llawer o waith caled gan ein tîm yn ogystal â chymorth gan gwmnïau bysiau ac awdurdodau lleol. Ddydd Gwener 9 Mai, roeddem yn bresennol yn y seremoni i gyflwyno Gwobrau Cenedlaethol Trafnidiaeth a Logisteg 2014 CILT yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, ac rydym yn falch iawn o fod wedi ennill y wobr ar gyfer Rhagoriaeth mewn Gwella Profiadau Cwsmeriaid, am gyflwyno ein gwasanaeth gwybodaeth am brisiau tocynnau.

Sefydlwyd y gwobrau 12 mlynedd yn ôl, ac maent yn cydnabod y sawl sydd wedi cael effaith gadarnhaol a pharhaol ar wasanaethau yng Nghymru. Trefnwyd y seremoni gan Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth Cymru, ac fe’i mynychwyd gan lawer o bobl. Roedd tipyn o gyffro yn yr aer wrth i bawb aros i enwau’r enillwyr gael eu cyhoeddi. Wrth groesawu’r gwesteion i’r seremoni, meddai Dr Andrew Potter, Cadeirydd CILT Cymru, “Mae’r gwobrau yn cynrychioli rhagoriaeth ym maes trafnidiaeth a logisteg, gan sefydliadau neu unigolion, ac nid yw eleni wedi bod yn eithriad o safbwynt ansawdd y ceisiadau a ddaeth i law.”

Cafodd y categori Rhagoriaeth mewn Gwella Profiadau Cwsmeriaid ei noddi gan New Adventure Travel Limited, ac roeddem yn wynebu cystadleuaeth gan Fysiau Arriva Cymru am y Gwasanaeth Saffir 1 a gan Fro Morgannwg am y llwybr bysiau 303/304. Roedd yn wych cael ein hystyried ochr yn ochr â chynifer o ymgeiswyr teilwng ac rydym yn falch iawn o fod wedi ennill y wobr, oherwydd mae’n atgyfnerthu’r angen i ni ddarparu gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus sy’n ymateb i’r galw gan gwsmeriaid ac sy’n ei fodloni.

Ein Rheolwr-gyfarwyddwr, Graham Walter, yn derbyn y wobr.

(O’r chwith) Yr Athro Stuart Cole, Rheolwr-gyfarwyddwr Traveline Cymru Graham Walter, Rheolwr-gyfarwyddwr New Adventure Travel Kevyn Jones.

Ar ôl gwrando ar adborth gan bobl sy’n teithio yng Nghymru, roedd yn ymddangos mai’r prif beth yr oedd teithwyr am ei wybod oedd faint y byddai eu taith yn ei gostio. Roeddem yn teimlo bod cynnig gwasanaeth cynllunio teithiau heb gynnig gwybodaeth am brisiau tocynnau yn debyg i gael archfarchnad lle nad oes prisiau ar y nwyddau. Cynnig gwybodaeth am brisiau tocynnau oedd y cam nesaf o safbwynt darparu gwasanaeth cyflawn, llawn gwybodaeth i’n cwsmeriaid, a fyddai’n helpu i wneud y gwaith o gynllunio eu teithiau gymaint yn fwy hwylus.

Roedd yn wych cael adborth da gan feirniaid gwobrau CILT. Yn ôl y beirniaid, “Enillodd Traveline Cymru y wobr hon am fynd i’r afael â phrosiect cymhleth a heriol a oedd yn deillio o angen amlwg gan gwsmeriaid. Daliodd y cwmni ati yn wyneb pob anhawster y daeth ar ei draws, gan osod targedau heriol i’w hun a gafodd eu mesur a’u gwerthuso’n onest. Mae’r prosiect yn arweinydd yn ei faes, ac mae’n cynnig her i gyrff eraill sy’n darparu gwybodaeth. Roedd cais Traveline Cymru hefyd yn enghraifft wych o gyflwyno gwybodaeth yn eglur.”

Meddai ein Rheolwr-gyfarwyddwr Graham Walter wrth dderbyn y wobr, “Mae’n braf iawn bod ein gwaith ar y prosiect hwn yn cael ei gydnabod. Ni fyddem wedi gallu cynnig gwybodaeth am brisiau tocynnau ar draws ein gwasanaethau heb gymorth holl gwmnïau bysiau a holl awdurdodau lleol Cymru, ac rydym yn diolch iddynt am hynny. Rydym yn diolch hefyd i’n staff sydd wedi gweithio’n galed dros y tair blynedd diwethaf i wireddu’r prosiect hwn.”

Mae’r wobr bellach yn cael ei harddangos mewn lle amlwg yn ein swyddfa, ac edrychwn ymlaen at barhau i ymateb i anghenion ein cwsmeriaid yn y dyfodol.

 


Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.



Pob blog Rhannwch y neges hon