Blog

Sut mae defnyddio’r Cynlluniwr Taith

Sut mae defnyddio’r Cynlluniwr Taith

30 Mehefin 2014

Gan mai’r Cynlluniwr Taith yw un o nodweddion amlycaf ein gwefan, rydym wedi penderfynu darparu canllaw cam wrth gam i chi ar sut i’w ddefnyddio, er mwyn eich galluogi i wneud yn fawr ohono. Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael er mwyn i chi allu teilwra eich canlyniadau wrth gynllunio eich taith, a bydd yr holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen i gyflawni eich taith yn cael ei chyflwyno mewn un man. Gwyliwch ein canllaw cam wrth gam ar ffurf fideo isod, neu dilynwch y cyfarwyddiadau i ddarganfod y ffordd orau o ddefnyddio’r Cynlluniwr Taith!

Mae’r Cynlluniwr Taith i’w weld ar ochr chwith ein hafan, neu dan y tab ‘Eich Taith’ sydd ar frig y dudalen.

1. Yn gyntaf, nodwch fan cychwyn eich taith a phen eich taith (gall fod yn enw neu’n god post) a byddwch yn cael rhestr o leoliadau i ddewis ohonynt. Yna, dewiswch yr amser a’r dyddiad yr ydych am deithio, a chliciwch ar ‘Cynllunio fy Nhaith’.

Select Location

2. Yna, byddwch yn gweld y dudalen ganlyniadau ar gyfer eich taith. Bydd y tabiau gwyrdd sydd uwchben y dewisiadau, er enghraifft ‘Uniongyrchol’, ‘Bws/Coets yn unig’ ac ati, yn fodd i hidlo eich canlyniadau er mwyn eu gwneud yn fwy perthnasol i’r modd y byddech yn hoffi teithio. Gallwch glicio ar ‘Manylion y daith?’ wrth ymyl y llwybr y byddech yn hoffi ei ddefnyddio, er mwyn gweld y wybodaeth lawn ar gyfer y llwybr hwnnw.

Mode of Transport

3. Bydd y dudalen ganlyniadau yn rhoi’r holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen i gyflawni eich taith, gan gynnwys:

- Rhif y gwasanaeth ac enw’r darparwr.

- Y prisiau tocynnau sydd ar gael ar gyfer y rhan honno o’ch taith.

- Amserlen lawn y gwasanaeth yr ydych wedi’i ddewis.

- Map sy’n dangos pob rhan o’r daith - map byw y gallwch fynd iddo i weld llwybr eich taith.

- Yr amser y bydd pob dull o deithio’n ei gymryd, er enghraifft os bydd cynllun eich taith yn cynnwys rhywfaint o gerdded, bydd yn rhoi amcangyfrif i chi o’r amser y bydd yn ei gymryd i gyflawni’r rhan honno o’r daith.

Results Page

4. Os yw’r cyfan yn taro deuddeg ac os hoffech chi gadw’r manylion er mwyn eu defnyddio rywbryd eto, gallwch glicio ar yr eicon melyn ‘Arbed Taith?’ a bydd manylion y daith benodol honno’n cael eu cadw yn y blwch gwyrdd ‘Teithiau cadwedig’ erbyn y tro nesaf y byddwch yn ymweld â’r Cynlluniwr Taith.

 

Llwybrau beicio:

Gall y rheini ohonoch a fyddai’n hoffi beicio ddefnyddio’r Cynlluniwr Taith i gynllunio llwybr beicio hefyd. Pan fyddwch chi wedi cyrraedd y brif dudalen ganlyniadau, dewiswch yr opsiwn ‘Beicio’n Unig’ o blith y tabiau gwyrdd. Yna, byddwch yn cael manylion y llwybrau sydd ar gael a bydd modd i chi nodi eich cyflymder beicio a nodi a oes yn well gennych ddefnyddio ffyrdd tawelach yn hytrach na ffyrdd prysur. Bydd hynny’n eich galluogi i deilwra eich llwybr yn fwy penodol fyth i’ch anghenion unigol.

Cycle Route

Rhowch wybod i ni sut yr ydych yn dod i ben â’r Cynlluniwr Taith, a mwynhewch y teithio!

Pob blog Rhannwch y neges hon