Blog

Bad weather updates from Traveline Cymru

Torri’r iâ…

13 Chwefror 2015

Dyna ni – mae’r Nadolig wedi dod a mynd unwaith yn rhagor ac rydym yn gobeithio ein bod ni wedi gweld diwedd ar y tywydd oer hefyd! Er ein bod ni i gyd yn dyheu am yr haf, mae’n siŵr y bydd yn rhaid i ni ddygymod â chyfnod o dywydd oer eto. Gall eira a rhew achosi pob math o broblemau, ond yn waeth na dim, gallant achosi pob math o helynt ar y ffyrdd, felly byddwch yn ofalus bawb. Dyma rai o’n syniadau ni yn Traveline i’ch helpu i ymdopi â’r cyfnod gaeafol hwn.

Rhybuddion teithio

Cyn dechrau ar unrhyw daith, gwiriwch y sefyllfa o flaen llaw! Dyna’r ffordd orau o gynllunio taith ac osgoi unrhyw broblemau teithio neu broblemau traffig. Mewngofnodwch i’n gwefan a chliciwch ar y ddolen gyswllt Rhybuddion teithio. Mae hynny’n mynd â chi at dudalen sydd wedi’i chynllunio’n benodol i rybuddio teithwyr ynghylch unrhyw broblemau y gallent eu hwynebu wrth deithio. Sicrhewch eich bod yn cadw llygad ar y dudalen hon wrth deithio er mwyn gweld a oes unrhyw newyddion neu newidiadau. Yn ystod tywydd gwael iawn mae gennym dudalen arbennig ar gyfer teithio adeg eira hefyd, er mwyn i chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl rybuddion o ran y tywydd.


Problemau â’ch car

Mae ceir yn gallu bod yn bethau anwadal, ond mae’n anos fyth cynnal a chadw car yn ystod tywydd gwael. Sicrhewch eich bod yn cynnal gwiriadau diogelwch rheolaidd, yn enwedig o ran yr olew, y dŵr, y teiars a’r dŵr golchi ffenestr. Mae’n syniad da cadw rhai pethau yng nghist y car i’w defnyddio mewn argyfwng, megis potel o ddŵr, hylif dadmer iâ, tortsh, a hyd yn oed blanced. Mae’r rhain yn bethau y dylech eu cario gyda chi bob amser; efallai y gallech greu bocs argyfwng bach, ac mae bob amser yn syniad da cael pecyn cymorth cyntaf bach yn y car. Pwy a ŵyr  pryd y gallai’r rhain fod yn ddefnyddiol!


Ffyrdd rhewllyd

Mae iâ du yn un o’r prif broblemau wrth yrru yn yr amodau hyn, ac mae eira’n gwaethygu’r sefyllfa hyd yn oed yn fwy. Haenen glir o iâ sy’n ffurfio ar y ffordd yw iâ du, a rhaid i yrwyr sicrhau eu bod yn ymwybodol ohono. Os byddwch yn teimlo bod eich car yn llithro, peidiwch â brecio, tynnwch eich troed oddi ar y sbardun, peidiwch â throi’r olwyn lywio’n ormodol a cheisiwch ei chadw’n llonydd. Yn ogystal ag effeithio ar eich taith chi, gall iâ du achosi oedi a dargyfeiriadau i drafnidiaeth gyhoeddus hefyd. Dylech ganiatáu amser ychwanegol i gerdded, ac os ydych yn cynllunio taith hir dylech gadw golwg ar y wybodaeth am dywydd a thraffig a allai fod yn berthnasol i chi. Mae ein ffrwd Twitter yn cael ei chadw’n gyfredol, a gallwch ein dilyn ar @TravelineCymru, lle byddwn yn rhannu unrhyw newyddion neu’r wybodaeth ddiweddaraf am dywydd os oes angen. Yn ogystal, gallwch ddefnyddio ein tudalen Gwybodaeth am deithio neu’n tudalen Rhybuddion teithio ar ein gwefan i ddod o hyd i wybodaeth am eich ardal chi.


Cynllunio llwybr mwy diogel

Mae problemau teithio’n gyffredin pan fydd y tywydd yn arw. Ond yn hytrach na defnyddio’r car a gorfod gyrru mewn amodau gwael iawn, mae’n llawer mwy diogel defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus megis y system reilffyrdd. Gallwch ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith i’ch helpu i gyrraedd pen eich taith. Fel arall, gallwch lawrlwytho ein ap neu ffonio ein Canolfan Gyswllt. Bydd staff wrth law er mwyn helpu i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych am deithio, felly cadwch ein rhif 0871 200 22 33 yn eich ffôn rhag ofn y bydd ei angen arnoch. (Mae galwadau’n costio 10c y funud, ac unrhyw gostau rhwydwaith).

Cadwch lygad allan am broblemau, ac os nad ydych chi’n siŵr beth yw’r sefyllfa bydd yr holl wybodaeth ddiweddaraf yr ydym yn ymwybodol ohoni ar y dudalen Rhybuddion teithio. Ceisiwch gadw mor ddiogel ag sy’n bosibl wrth deithio mewn tywydd garw a mwynhewch eich teithiau, i ble bynnag y byddwch chi’n mynd!

Pob blog Rhannwch y neges hon