
Gwobrau mawr mis Mai! Hoffech chi ennill taleb gwerth £30?
01 Mai 2015I ddathlu bod ein gwefan newydd yn cael ei lansio, mae gennym dalebau gwerth £30 i’w rhoi i bum person lwcus yn ystod mis Mai!
Hoffech chi ennill un?
Y cyfan y mae’n rhaid i chi ei wneud yw cofrestru i agor cyfrif ar ein gwefan newydd yn ystod mis Mai, a byddwn yn dewis pum person ar hap i ennill talebau gwerth £30!
Bydd y gystadleuaeth yn dod i ben ddydd Sul 31 Mai a bydd y pum enillydd lwcus yn cael gwybod drwy ebost yr wythnos ganlynol eu bod wedi ennill.
Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn cofrestru i agor cyfrif?
Drwy gofrestru i agor cyfrif, byddwch yn gallu:
- Cadw eich hoff deithiau, amserlenni ac arosfannau bysiau. Yna, bydd y rhain i’w gweld yn eich cyfrif er mwyn i chi gael gafael arnynt yn gyflym ac yn hawdd.
- Gweld y problemau teithio sy’n berthnasol i’ch hoff wasanaethau. Drwy gadw eich hoff lwybrau, byddwch yn gallu gweld ‘Y problemau teithio sy’n berthnasol i mi’, a fydd yn dangos y problemau teithio sy’n gysylltiedig â’r teithiau yr ydych wedi’u cadw yn unig.
- Dewis cael gwybodaeth am y problemau teithio sy’n effeithio ar eich hoff lwybrau, drwy e-bost neu neges destun, neu’r ddau os ydych yn dymuno.
Drwy gofrestru i agor cyfrif gyda ni, rydym yn gobeithio y bydd eich profiad o ddefnyddio ein gwefan yn brofiad llawer mwy personol a fydd wedi’i deilwra ar eich cyfer, ac y bydd yn eich helpu i ddod o hyd yn hwylus ac yn hawdd i’r wybodaeth y mae arnoch ei hangen.
Sut y gallaf gofrestru i agor cyfrif?
Cliciwch ar y botwm ‘Mewngofnodi’ yn y gornel dde ar frig y wefan hon. Yma, fe welwch chi’r opsiwn ‘Cofrestru’. Cliciwch ar y botwm i fynd i’r dudalen gofrestru. Llenwch y ffurflen a chliciwch ar ‘Anfon’!
Rydym yn gobeithio y cewch chi i gyd wyliau wrth eich bodd dros benwythnos Gŵyl y Banc. Pob lwc! :)