Blog

What to do in Wales this May Bank Holiday Weekend

Pethau i’w gwneud dros benwythnos Gŵyl y Banc mis Mai

22 Mai 2015

Efallai fod ein penwythnos hir diwethaf yn teimlo megis ddoe, ond mae Gŵyl y Banc arall wedi cyrraedd yn awr! Ac er ei bod hi braidd yn oer o hyd y tu allan, does dim byd fel Gŵyl y Banc i’n cymell i godi pac a gwneud yn fawr o’r diwrnod ychwanegol o wyliau.

Felly, rydym wedi llunio rhestr o’r prif bethau sydd i’w gwneud yng Nghymru dros benwythnos Gŵyl y Banc! Cymerwch gip ar ein rhestr i weld a oes unrhyw beth yn tynnu eich sylw.

 

Gŵyl y Gelli, Bannau Brycheiniog, 21 - 31 Mai 2015

Mae Gŵyl y Gelli yn dod ag awduron o bob cwr o’r byd ynghyd i drafod a rhannu straeon. Mae’n ddathliad blynyddol o ysgrifennu gwych gan feirdd, nofelwyr, awduron geiriau a mwy, ac mae’r cyfan yn digwydd ym Mharc Cenedlaethol hyfryd Bannau Brycheiniog. Mae’r rhaglen ar gyfer eleni’n edrych yn hynod o gyffrous, ac mae Stephen Fry, Michael Morpurgo a Jacqueline Wilson ymhlith y gwesteion.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Gŵyl y Gelli.

 

How The Light Gets In, Y Gelli Gandryll, 21 - 31 Mai 2015

Gyda 650 o ddigwyddiadau, 200 o siaradwyr, 270 o berfformwyr a 9 llwyfan, How The Light Gets In yw gŵyl athroniaeth a cherddoriaeth fwya’r byd, a bydd yn cael ei chynnal yn ardal odidog y Gelli Gandryll. Gall y gwesteion fynd i wrando ar drafodaethau a dadleuon amrywiol a diddorol a fydd yn archwilio’r thema ar gyfer eleni, sef Ffantasi a Realiti. Erbyn hyn, mae’r rhaglen gerddorol yn cael ei chynnal ar ddau safle ac yn rhoi llwyfan i gerddorion, DJs, digrifwyr a ffilmiau.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan How The Light Gets In.

Os byddwch yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, cliciwch yma i gael gwybodaeth am wasanaethau lleol sy’n gallu mynd â chi i safleoedd yr ŵyl.

 

Urdd National Eisteddfod, Llancaiach Fawr, Caerphilly, 25 – 30 May 2015

Bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, sy’n un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop i ieuenctid, yn cael ei chynnal eleni yn Llancaiach Fawr ger Nelson yng Nghaerffili rhwng 25 a 30 Mai.

Mae’r ŵyl yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, a bydd dros 15,000 o bobl dan 25 oed yn cymryd rhan mewn ystod eang iawn o gystadlaethau a fydd yn cynnwys cystadlaethau canu, dawnsio a pherfformio.

Mae’r ŵyl yn gynnyrch gwaith caled gan wirfoddolwyr lleol, a bydd digon o bethau i’w mwynhau drwy gydol y digwyddiad, o ffair i fandiau byw a sioeau i blant.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ŵyl, ewch i wefan Eisteddfod yr Urdd.

 

 

Ble bynnag yr ydych yn bwriadu mynd y penwythnos hwn, mae digon o ffyrdd o gyrraedd yno. Gan fod cysylltiadau ardderchog o ran trafnidiaeth gyhoeddus i’w cael o gwmpas y wlad, beth am i chi a’ch ffrindiau neu’ch teulu adael eich ceir gartref am y dydd a dewis teithio ar y bws neu’r trên?

Os hoffech ddarganfod pa lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael, ewch i’n Cynlluniwr taith yma i weld yr opsiynau. Gallwch hefyd ddewis argraffu eich cynllun taith er mwyn gallu mynd ag ef gyda chi ar y dydd.

Cofiwch y bydd gan rai gweithredwyr amserlenni arbennig ar gyfer dydd Llun 26 Mai – mae unrhyw fanylion yr ydym yn ymwybodol ohonynt wedi’u rhestru ar ein tudalen ar gyfer Gŵyl y Banc mis Mai yma, felly cofiwch fwrw golwg ar y dudalen cyn mynd allan!

Os bydd angen unrhyw help arnoch pan fyddwch yn mynd o le i le, mae croeso i chi ein ffonio unrhyw bryd rhwng 7am ac 8pm ar 0871 200 22 33 a bydd ein tîm o weithwyr cyfeillgar wrth law i’ch helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych am eich taith. I’r sawl sydd â dyfeisiau Android neu iPhone, efallai eich bod hefyd wedi sylwi ein bod wedi diweddaru ein ap ar gyfer dyfeisiau symudol yn ddiweddar. Rhowch wybod os yw wedi eich helpu i fynd o le i le!

Rydym yn gobeithio y cewch chi amser wrth eich bodd dros Ŵyl y Banc, ble bynnag y penderfynwch chi fynd! Rhannwch eich teithiau â ni ar @TravelineCymru ar Twitter ac ar ein tudalen Facebook – byddem yn dwlu clywed gennych.



Pob blog Rhannwch y neges hon