Blog

Traveline Cymru Pinterest

Beth sy’n eich ysbrydoli i deithio...? Ymunwch â’n Byrddau Grŵp ar Pinterest!

15 Mehefin 2015

Mae aelodau ein tîm yn Traveline Cymru yn mwynhau defnyddio cyfryngau cymdeithasol ac yn hoff o rannu eu hoff luniau ar Pinterest. Yw hwn yn rhywbeth newydd i chi? Gwefan rhannu lluniau yw Pinterest lle gallwch bori, hoffi a rhannu lluniau o unrhyw beth ar eich proffil, er mwyn i’ch ffrindiau a defnyddwyr eraill gael eu gweld!

Yma yn Traveline Cymru, rydym yn mwynhau defnyddio Pinterest i rannu ein holl syniadau â chi ynghylch teithio o le i le ar drafnidiaeth gyhoeddus ac ymweld ag ardaloedd cyfagos mewn modd cynaliadwy. Efallai eich bod yn teithio’n rheolaidd ar y bws neu’r trên er mwyn cyrraedd eich man gwaith. Neu efallai eich bod yn cerdded neu’n beicio o gwmpas eich hoff leoedd ar benwythnosau. Does dim gwahaniaeth beth sy’n eich ysbrydoli i roi cynnig ar ddulliau newydd o deithio, mae ffyrdd gwych ar gael o deithio’n gynaliadwy ac o gynnwys y dulliau teithio hynny’n raddol yn eich bywyd o ddydd i ddydd. Efallai y byddwn yn sylwi hefyd ar y manteision i’n hiechyd a’n cyfrif banc wrth i ni wneud yn fawr o gyfleoedd i grwydro o amgylch ein hardaloedd lleol!

I’r rhai hynny ohonoch sy’n mwynhau Pinterest, hoffem eich gwahodd i ymuno â’n dau Fwrdd Grŵp newydd sydd ar ein proffil Pinterest isod.

 

Ein hoff leoedd

Ar y bwrdd hwn, rydym wedi bod yn rhannu lluniau o’n hoff leoedd o gwmpas Cymru! Pa leoedd yw eich hoff leoedd chi i ymweld â nhw? Rhannwch nhw ar ein bwrdd, ac efallai y gwelwch chithau rai lleoliadau newydd nad ydynt mor bell ag yr oeddech yn ei feddwl!

 

Beth sy’n eich ysbrydoli i deithio?

Ydych chi’n mwynhau teithio er mwyn bod ar eich pen eich hun a chael llonydd? Efallai fod gennych hoff albwm neu lyfr y gallwch ymgolli ynddo ar daith hir, neu efallai eich bod yn mwynhau edrych ar y golygfeydd godidog wrth i chi deithio. Waeth beth sy’n eich cymell i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, byddem yn hoffi gweld yr hyn sy’n eich ysbrydoli!

 

Wrth gwrs, os yw pori drwy Pinterest wedi eich ysbrydoli i wneud yn fawr o’r gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus sydd yn eich ardal chi, rydym bob amser wrth law i ateb unrhyw ymholiadau a allai fod gennych ynghylch trafnidiaeth. Gallwch ddefnyddio ein cynlluniwr taith i chwilio am y llwybr mwyaf cyfleus ar y bws neu’r trên, a gallwch ei ddefnyddio hefyd i weld mapiau o’ch taith a gwybodaeth am amserlen eich gwasanaeth.

Er mwyn gwneud y broses o gynllunio eich taith ychydig yn haws ac yn fwy cyfleus, gallwch gofrestru cyfrif gyda ni yma ar ein gwefan erbyn hyn. Bydd hynny’n eich galluogi i gadw eich hoff deithiau, amserlenni ac arosfannau bysiau fel bod y wybodaeth y mae ei hangen arnoch amlaf ar gael ar flaenau eich bysedd. Os oes gennych ddiddordeb, cliciwch ar y botwm ‘Mewngofnodi’ sydd ar y dde ar frig y dudalen hon i gael rhagor o wybodaeth!

Rhowch wybod i ni os ydych wedi dechrau defnyddio Pinterest ac os ydych yn mwynhau’r wefan rhannu lluniau. Edrychwn ymlaen at weld eich hoff luniau chi!

Dilynwch ni ar pinterest.com/TravelineCymru

Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.


Pob blog Rhannwch y neges hon