Blog

Royal Welsh Show 2014

Ambell air o gyngor ynghylch teithio dros yr haf!

20 Gorffennaf 2015

Mae tymor yr haf bob amser yn un o uchafbwyntiau ein calendr yma yn Traveline Cymru, wrth i ni alw heibio i rai o ddigwyddiadau mwyaf y wlad a helpu i roi gwybodaeth ddefnyddiol i bobl am drafnidiaeth.

Ar hyn o bryd mae aelodau o’n tîm yn gweithio yn y Sioe Frenhinol a gynhelir bob blwyddyn yn Llanfair-ym-Muallt, a byddant yno drwy’r wythnos o ddydd Llun 20 Gorffennaf i ddydd Iau 23 Gorffennaf. Digwyddiad blynyddol i ddathlu amaethyddiaeth yw Sioe Frenhinol Cymru, ac mae’n arddangos cynnyrch gorau Cymru o safbwynt da byw, bwyd a diod. Mae amrywiaeth enfawr o bethau i’w profi yn ystod y Sioe, o weithgareddau ym maes coedwigaeth, garddwriaeth, crefftau a chwaraeon i stondinau arddangos, neuadd fwyd a rhaglen 12 awr o adloniant cyffrous bob dydd.

Bydd ein stondin ni yn Neuadd Arddangos De Morgannwg, felly galwch heibio i ddweud helo os byddwch yn digwydd pasio! Bydd llawer o nwyddau ar gael gennym, yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol am drafnidiaeth gyhoeddus a chyfle i ennill iPod Shuffle!

 

Ydych chi’n barod i fynd?

Os ydych chithau, fel ninnau, yn teithio i’r Sioe Fawr yr wythnos hon, mae rhai gwasanaethau ardderchog ar gael o safbwynt trafnidiaeth i’ch hebrwng i faes y Sioe, hyd yn oed os byddwch yn cyrraedd yn eich car! Mae gwasanaethau parcio a theithio a gwasanaethau bysiau gwennol ar gael i fynd â chi i’r maes, a gallwch weld gwybodaeth am y cyfan yma.

Os nad ydych yn siŵr ble i barcio ar y diwrnod, gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch ble i barcio a sut i gyrraedd maes y Sioe yma.

Cawsom lawer o hwyl yn y Sioe Fawr y llynedd, ac rydym yn gobeithio y bydd yr haul yn gwenu unwaith eto drwy’r wythnos!

Waeth ble’r ydych yn bwriadu mynd dros yr haf, gall fod yn gyfle gwych i chi deithio mewn modd mor gynaliadwy ag sy’n bosibl. Gan fod yr ysgolion bellach wedi cau ar gyfer yr haf, mae’r ffyrdd eisoes yn llawer mwy prysur. Felly, gallech weld bod neidio ar y trên yn llai o straen wrth i chi eistedd yn ôl, ymlacio a gwylio’r byd yn mynd heibio – y dechrau delfrydol i’ch taith dros yr haf!

Ambell air o gyngor gennym

#1. Dim cynlluniau gennych ar gyfer yr haf? Mae rhywbeth cyffrous yn digwydd yng Nghymru drwy’r amser, felly mae’n siŵr y dewch chi o hyd i rywbeth i’w wneud. Os oes angen ysbrydoliaeth arnoch, ewch i’n tudalen Digwyddiadau i weld beth sydd ymlaen!

#2. Pan fyddwch yn gwybod i ble’r ydych yn mynd, gall trafnidiaeth gyhoeddus fod yn ffordd wych o gyrraedd yno. Beth am brynu tocyn trên i’r teulu a mynd â’r plant allan am y dydd i Ŵyl y Caws Mawr, Caerffili y penwythnos hwn? Mae Stagecoach yn cynnig disgownt arbennig i deuluoedd sy’n mynd i’r ŵyl, ac mae’r manylion i’w gweld isod!

#3. Fodd bynnag, os yw’n well gennych ddefnyddio’ch car neu os yw’n anodd i chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, efallai y gallech rannu car â chriw o ffrindiau sydd am fynd i un o’r gwyliau bwyd sy’n cael eu cynnal. Gall rhannu car fod yn ffordd wych o rannu costau petrol â’ch ffrindiau (er mwyn gallu gwario mwy’n nes ymlaen) ac mae hefyd yn ddull o deithio sy’n llawer mwy cyfeillgar i’r amgylchedd. Os ydych yn teithio ar eich pen eich hun, mae Share Cymru yn cynnig gwasanaeth rhannu ceir lle gallwch gofrestru eich teithiau unigol neu reolaidd a dod o hyd i bobl eraill sy’n mynd i’r un man â chi. Dyma ffordd ddelfrydol o wneud ffrindiau newydd a lleihau eich ôl troed carbon ar yr un pryd.

Rydym yma i’ch helpu i ddod o hyd i’r llwybrau gorau o ran trafnidiaeth ar gyfer eich teithiau dros yr haf, ble bynnag yr ydych yn mynd. Rhowch wybod i ni ble’r ydych yn bwriadu treulio eich haf!

Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.



Pob blog Rhannwch y neges hon