Blog

Back to College with Traveline Cymru

’Nôl i’r coleg? Eich tasg gyntaf: dod i ddeall pob dim am deithio!

04 Medi 2015

Gall diwedd gwyliau’r haf olygu sawl peth gwahanol: mae’r gaeaf ar y gorwel ac mae’r wythnosau braf o haf heb ysgol yn dechrau mynd yn angof. Serch hynny, i lawer ohonom mae diwedd gwyliau’r haf yn ddechrau pennod newydd – blwyddyn newydd sbon yn yr ysgol, y coleg neu’r Brifysgol!  Efallai bod gwyliau’r haf wedi dod i ben, ond gall dechrau’n ôl yn y coleg fod yn adeg gyffrous gan ei fod yn gyfle i gwrdd â hen ffrindiau unwaith eto, gwneud ffrindiau newydd, ac wrth gwrs dechrau ar eich cyrsiau newydd.

Os hon yw eich blwyddyn gyntaf mewn coleg newydd, efallai y byddwch yn gweld mai dal y bws yw’r ffordd ddelfrydol o deithio o amgylch eich campws a’ch tref newydd. Mae’n ffordd wych o fod yn fwy annibynnol ac osgoi defnyddio tacsi Mam a Dad!

A gallwch ddefnyddio’r bws i wneud mwy na theithio’n ôl ac ymlaen i’r coleg; gallech chi a’ch ffrindiau neidio ar y bws i fynd i’r dref yn ystod eich amser rhydd! Yn ogystal â bod yn ffordd wych o leihau eich ôl troed carbon, gallai hefyd fod yn rhatach na defnyddio eich car eich hun.

Waeth ble y byddwch chi’n mynd ym mis Medi, rydym ni yma i’ch helpu i wneud eich teithiau a dod o hyd i’r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch am drafnidiaeth! Edrychwch ar rai o’n cynghorion isod i sicrhau eich bod yn gwybod pob dim am deithio!

 

Lawrlwythwch ap Traveline Cymru ar eich ffôn 

Gallwch weld yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch wrth fynd o le i le drwy lawrlwytho ein ap ar gyfer teclynnau symudol sydd newydd gael ei ddiweddaru! Gallwch ddefnyddio’r ap i ddod o hyd i wybodaeth am lwybrau cludiant cyhoeddus ar gyfer eich taith, gweld amserlenni, cadw eich hoff arosfannau bysiau a llawer mwy!

I lawrlwytho’r ap ar ddyfeisiau Android ewch i siop Google Play neu cliciwch yma.
I lawrlwytho’r ap ar eich iPhone ewch i siop Apple neu cliciwch yma.

Peidiwch â phoeni os nad oes gennych ffôn clyfar, gallwch hefyd ddefnyddio ein gwasanaeth negeseuon testun i ddod o hyd i’r amseroedd bysiau y mae eu hangen arnoch! Gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch am ein ap a’n gwasanaeth testun drwy glicio yma.

 

Ydych chi rhwng 16 ac 18 oed? 

Os felly, rydych chi’n bobl lwcus iawn! Ewch i wefan fyngherdynteithio, sef cynllun newydd sbon gan Lywodraeth Cymru a gafodd ei lansio’r wythnos hon. Bydd pobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed sy’n dangos fyngherdynteithio ar y bws yn cael 1/3 oddi ar bris eu tocyn bws. Fel person ifanc yn ei arddegau, efallai y byddwch yn gweld mai teithio ar y bws yw’r ffordd hawsaf o fynd o le i le, yn enwedig os nad ydych yn gallu gyrru neu os nad oes gennych eich car eich hun. At hynny, mae’r cerdyn ar gael yn rhad ac am ddim!

A hoffech chi gael fyngherdynteithio? Ewchwww.fyngherdynteithio.gov.uk i wneud cais am y cerdyn ar-lein, neu ffoniwch dîm fyngherdynteithio ar 0300 200 22 33 i ddechrau arni.

...neu a ydych ar fin dechrau yn y Brifysgol?

Os ydych yn ei bwrw hi am ddinas newydd i ddechrau astudio am eich gradd, cadwch lygad allan amdanom ni oherwydd byddwn yn galw heibio i sawl campws Prifysgol a Choleg yn ystod ffeiriau’r glas drwy gydol mis Medi! 

Byddwn yn mynd i hwyl wythnos y glas a byddwn yn barod i sgwrsio â chi a rhoi rhywfaint o wybodaeth am deithio i chi a allai fod yn ddefnyddiol i’ch helpu i fynd o gwmpas eich dinas newydd. Edrychwch ar y rhestr isod i weld ble byddwn ni a gweld a fyddwn ni’n dod i’ch Prifysgol chi!

Dydd Mercher 9 Medi:
Coleg y Cymoedd, campws Nantgarw

 

Dydd Mawrth 15 Medi:
Coleg Caerdydd a’r Fro, campws Caerdydd

 

Dydd Iau 17 Medi:
Coleg Caerdydd a’r Fro, campws y Barri

 

Dydd Llun 21 Medi:
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Caerdydd
 

Dydd Mawrth 22 Medi:
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Abertawe
Prifysgol De Cymru, campws Trefforest

 

Dydd Mercher 23 Medi:
Prifysgol Abertawe
Prifysgol Bangor

 

Dydd Iau 24 Medi:
Prifysgol Bangor

 

Rhowch wybod i ni ble byddwch chi ym mis Medi; rydym yn edrych ymlaen at gael mynd ar daith a siarad â chi i gyd, gan ddymuno’n dda i chi ar gyfer y tymor newydd!

Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.


Pob blog Rhannwch y neges hon