Blog

Six Nations Transport Information

Gair o gyngor i sicrhau bod eich ymweliad â Chaerdydd ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn un bythgofiadwy

12 Chwefror 2016

Fyddwch chi’n teithio i Stadiwm Principality i weld Pencampwriaeth y Chwe Gwlad? Gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen am drafnidiaeth ac am y ffyrdd a fydd ar gau ar ddiwrnodau gemau, er mwyn i chi allu mwynhau’r awyrgylch arbennig!

Mae’n fis Chwefror, sy’n golygu un peth! Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn ei hôl, ac mae cyffro’r rygbi wedi dechrau gafael ynom yn barod wrth i ni edrych ymlaen at gefnogi Cymru drwy gydol y gystadleuaeth!

Os ydych yn byw yng Nghaerdydd, byddwch yn gwybod bod y brifddinas yn fwrlwm i gyd yn ystod y tymor rygbi rhyngwladol wrth i gefnogwyr o bob cwr o’r wlad ddod ynghyd i fwynhau’r gemau. Gan fod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi dechrau’n barod, mae’r cyffro yn cynyddu wrth i Gymru baratoi i herio’r Alban, Ffrainc a’r Eidal yn Stadiwm Principality dros yr wythnosau nesaf.

Gan fod y gemau mor agos, roeddem yn awyddus i roi ambell air o gyngor i chi i sicrhau bod y Bencampwriaeth eleni’n fythgofiadwy!

  1. Sicrhewch eich bod yn cael yr holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen am drafnidiaeth

Ydych chi’n edrych ymlaen at wylio gemau’r Chwe Gwlad yn Stadiwm Principality? Os ydych wedi bod yn ddigon ffodus i gael tocyn i un o’r gemau, rydym yma i wneud yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen am drafnidiaeth i allu teithio o amgylch y ddinas.

Bydd nifer o ffyrdd ar gau yng Nghaerdydd ar ddiwrnodau gemau, ac o ganlyniad bydd rhai gweithredwyr trafnidiaeth yn dargyfeirio eu gwasanaethau bws. Oherwydd bod disgwyl i filoedd o gefnogwyr gyrraedd canol y ddinas, gall neidio ar y bws fod yn ffordd wych o osgoi’r drafferth o ddod o hyd i le parcio da a chael eich dal mewn traffig.

Edrychwch ar ein tudalennau isod ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad i weld y trefniadau a fydd ar waith ar gyfer trafnidiaeth ar bob diwrnod gêm:

Cymru v Yr Alban, Dydd Sadwrn 13 Chwefror
Cymru v Ffrainc, Dydd Gwener 26 Chwefror
Cymru v Yr Eidal, Dydd Sadwrn 19 Mawrth

Byddwn yn ychwanegu gwybodaeth at y tudalennau hyn wrth iddi ein cyrraedd, felly dewch yn ôl yn nes at yr amser i gael y wybodaeth ddiweddaraf!

  1. Dilynwch ni ar Twitter

Mae Twitter yn lle gwych i sgwrsio ar-lein â phobl eraill am y gemau a gweld beth y mae pawb arall yn ei wneud yn y ddinas! Ar ddiwrnod gêm byddwn yn aildrydar y wybodaeth ddiweddaraf gan weithredwyr trafnidiaeth drwy gydol y dydd, er mwyn i chi allu cadw llygad ar yr hyn sy’n digwydd wrth i chi deithio.

Dilynwch ni ar @TravelineCymru i weld ein ffrwd, a chofiwch chwilio am yr hashnodau #ChweGwlad a #SixNations i weld newyddion a lluniau gan bobl eraill yn ystod y gemau!

  1. Ddim yn siŵr am unrhyw newidiadau? Ffoniwch ni

Os ydych yn teithio o’r tu allan i Gymru ac ardal Caerdydd, neu os ydych yn ymweld o dramor i gefnogi eich gwlad, gallai’r dargyfeiriadau a’r ffaith bod ffyrdd ar gau ei gwneud yn anodd i chi wybod ble y mae angen i chi fod. Os oes angen help arnoch i gynllunio eich taith, neu os oes angen eglurhad arnoch ynghylch unrhyw rai o’r ffyrdd sydd ar gau, bydd yr asiantiaid cyfeillgar a dwyieithog yn ein Canolfan Gyswllt wrth law i’ch helpu!

Ffoniwch ni ar 0871 200 22 33* a bydd ein tîm ar gael rhwng 7am ac 8pm.

  1. Ddim yn mynd i gemau’r Bencampwriaeth? Dewch i fwynhau’r awyrgylch!

Wedi methu â chael tocynnau? Hen dro! Ond fel y bydd llawer o gefnogwyr rygbi’n gwybod, mae’r awyrgylch yn rhan o’r profiad ac mae digon o gyfle i’w gael y tu allan i gatiau’r stadiwm i gael amser da’n dathlu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae Caerdydd yn fwrlwm o weithgarwch ar ddiwrnodau gemau, a bydd llawer o dafarnau’n dangos y gêm ar y teledu; mae’n gyfle i neidio ar y bws a mwynhau diod fach i ddathlu wrth fwynhau’r gêm!

Os nad oes chwant arnoch fynd i dafarn, mae’n werth dod i ganol y ddinas i weld y cefnogwyr yn eu gwisgoedd Cymreig ac yn mynd i hwyl yr achlysur. Beth am ddal y bws neu’r trên i ganol y ddinas er mwyn crwydro o amgylch y siopau neu wylio’r adloniant y tu allan i un o gaffis Caerdydd?

Waeth beth yw eich cynlluniau ar gyfer diwrnodau gemau, mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad bob amser yn uchafbwynt bendigedig yng nghalendr digwyddiadau Cymru, ac rydym yma i roi’r wybodaeth ddiweddaraf y bydd arnoch ei hangen am drafnidiaeth er mwyn sicrhau bod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni’n fythgofiadwy!

 

*Mae galwadau’n costio 12c y funud ynghyd â ffi mynediad eich cwmni ffôn.

 

 

Pob blog Rhannwch y neges hon