Blog

snap happy cym

Mwynhau marathon tynnu lluniau Traveline Cymru

06 Ebrill 2016

Tynnu lluniau a chael cyfle i ennill taleb siopa gwerth £100

I ddathlu’r ffaith bod ei wefan myndibobmanfelmyfyriwr wedi’i lansio ar gyfer staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe, mae Traveline Cymru yn trefnu marathon tynnu lluniau ddydd Sadwrn 23 Ebrill 2016 a fydd yn cynnig cyfle i chi ennill taleb siopa gwerth £100.

Beth yw e’?

Cystadleuaeth ffotograffiaeth ychydig yn wahanol i’r arfer yw marathon tynnu lluniau. Dros gyfnod o 12 awr rhaid i chi dynnu 12 llun sy’n seiliedig ar 12 pwnc penodol.

Beth fydd yn digwydd?

Bydd y pynciau’n cael eu cyhoeddi bob pedair awr drwy gydol y dydd drwy sianelau Traveline Cymru ar gyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio’r hashnod #myndibobmanabertawe neu #myunijourneyswansea. Y cyfan y bydd yn rhaid i chi ei wneud yw ceisio meddwl yn greadigol a thynnu llun yr ydych yn credu ei fod yn cyfleu’r pwnc hwnnw (gan ddefnyddio eich ffôn neu gamera).

Ar ddiwedd y dydd, pan fyddwch wedi tynnu eich 12 llun, bydd angen i chi greu montage lluniau gan ddefnyddio ap megis flipagram, a’i rannu drwy gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #myndibobmanabertawe neu #myunijourneyswansea.

Beth yw’r meini prawf? 

  • Rhaid bod modd i chi brofi eich bod yn fyfyriwr neu’n aelod o staff ym Mhrifysgol Abertawe
  • Rhaid bod y lluniau wedi’u tynnu ar dir Prifysgol Abertawe – ar y naill gampws neu’r llall neu ym mhentref y myfyrwyr
  • Rhaid i chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn teithio o gwmpas i dynnu’r lluniau.

Beth galla’ i ei ennill?

Ar ôl diwrnod y marathon tynnu lluniau, bydd pob un o’r montages yn cael eu casglu a’u beirniadu gan banel a fydd yn cynnwys Jayne Cornelius o Brifysgol Abertawe a Laura Thomas o Traveline Cymru er mwyn dewis yr enillwyr. Caiff dwy wobr eu cynnig – taleb Love2Shop gwerth £100 am y gyfres orau o 12 llun a thaleb Love2Shop gwerth £50 am y llun gorau.

I gael rhagor o wybodaeth a chofrestru eich diddordeb mewn cymryd rhan, ebostiwch marketing@traveline.cymru gan nodi ‘Marathon tynnu lluniau #myndibobmanabertawe’ neu ‘#unijourneyswansea photomarathon’ fel pwnc yr e-bost. Fel arall, anfonwch neges atom drwy ein sianelau ar gyfryngau cymdeithasol @travelinecymru or /travelinecymru gan ddefnyddio’r un hashnod.

Pob blog Rhannwch y neges hon