Blog

Sustrans Cymru Travel Challenge

Sustrans Cymru yn lansio her deithio ar-lein newydd sbon

03 Mai 2016

Mae Natasha Withey, Swyddog Cyfathrebu Sustrans Cymru, yma i rannu manylion yr Her Teithiau Iach a sut y gallwch chi gymryd rhan!

Mae’r Her Teithiau Iach yn rhedeg o 6 i 23 Mai, 2016 ac mae’n ffordd newydd wych o wneud mwy o deithiau ar droed, ar feic, ar drafnidiaeth gyhoeddus neu drwy rannu car.

Nod yr her yw cael cynifer o bobl ag sy’n bosibl i deithio’n gynaliadwy wrth deithio’n lleol. Mae’n llawer o hwyl a bydd Sustrans Cymru yn cyflwyno llawer o wobrau ar hyd y ffordd. Gallwch gymryd rhan fel gweithle, yn rhan o dîm adrannol neu ar eich pen eich hun. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw cofrestru a dechrau cofnodi eich teithiau. Y nod yw rhoi llai o bwyslais ar ddefnyddio’r car wrth deithio i’r gwaith, a rhoi mwy o bwyslais ar ddulliau teithio iachach, rhatach a mwy gwyrdd.

 

Workplace%20Travel%20Challenge.jpg


Pa deithiau sy’n cyfrif?

Nod yr her yw lleihau nifer y teithiau sy’n cael eu gwneud mewn car gan un person sy’n teithio ar ei ben ei hun, a thrwy hynny cael pobl i wneud mwy o ymarfer corff. Gellir cofnodi unrhyw daith yn ystod yr her er mwyn gwella cyfanswm eich tîm. Gallai’r teithiau hyn gynnwys eich taith i’r gwaith, mynd â’r plant i’r ysgol, taith i’r siopau neu daith yr ydych yn ei gwneud yn eich amser hamdden. Mae pob taith yn cyfrif!

 


Pam cymryd rhan?

Mae’r her yn rhoi’r cyfle i chi ddod ynghyd fel gweithle neu adran i ryngweithio â chyfeillion, cydweithwyr a gweithleoedd eraill yng Nghymru. Yn ogystal ag arbed amser ac arian i chi, byddwch yn cynnwys mwy o ymarfer corff yn rhan o’ch trefn arferol o ddydd i ddydd. Gall teithio egnïol (cerdded, rhedeg neu feicio) wella eich lefelau egni, a bydd yn gwella eich iechyd a’ch lles. Byddwch hefyd yn gwneud eich rhan dros yr amgylchedd drwy leihau llygredd a thagfeydd pan fyddwch yn teithio mewn modd mwy cynaliadwy.

Ewch i Her Teithiau Iach neu dilynwch @SustransCymru ar Twitter i gael gwybod mwy.

Pob blog Rhannwch y neges hon