Blog

Green Transport Week

Wythnos Trafnidiaeth Werdd 2016

14 Mehefin 2016

Mae’r wythnos hon yn Wythnos Trafnidiaeth Werdd – y fenter a gaiff ei rhedeg gan y Gymdeithas Trafnidiaeth Amgylcheddol. Cafodd yr Wythnos Trafnidiaeth Werdd ei chyflwyno gan y Gymdeithas Trafnidiaeth Amgylcheddol am y tro cyntaf yn 1993 mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth o’r rhan sydd gan drafnidiaeth i’w chwarae ym maes diogelwch personol, ansawdd bywyd ac iechyd, yn ogystal â’i heffaith ehangach ar ein hamgylchedd yn fyd-eang.

Mae’r Wythnos Trafnidiaeth Werdd yn gyfle i ddathlu trafnidiaeth gynaliadwy ac yn gyfle i bob un ohonom ystyried sut yr ydym yn teithio. Mae’n gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth mewn ysgolion ac yn ein gweithleoedd o’r berthynas rhwng trafnidiaeth a’r amgylchedd, ac i ddangos sut y gallwn gydweithio i wneud newidiadau i’n dulliau teithio, a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Wyddech chi?

  • Ar sail y pellter yr ydym yn ei deithio, mae teithio mewn car yn cyfrif am 81% o’n teithiau ac mae cerdded yn cyfrif am 3% yn unig a beicio’n cyfrif am 0.5%.*
  • Mae’r car yn cael ei ddefnyddio’n llawer mwy ar gyfer teithiau byrrach, ac mae 24% o deithiau mewn car yn llai na 2 filltir o hyd ac mae 58% ohonynt yn llai na 5 milltir o hyd.*


Er cymaint y byddai pob un ohonom yn hoffi gwneud newidiadau gwell, rydym yn deall y gall fod yn haws dweud na gwneud pan ddaw’n fater o newid ein dull o deithio. Mae pob un ohonom yn dueddol o lynu at ein trefn arferol, ac weithiau efallai mai mynd yn y car fydd y dewis mwyaf ymarferol, yn enwedig ar gyfer teithiau hwy. Ond drwy ddechrau gwneud newidiadau i deithiau byrrach, rydym yn credu y gallwch ddechrau cynnwys dulliau newydd o deithio yn nhrefn arferol eich diwrnod, sy’n addas i chi. Efallai y gallech ddal y trên i’r gwaith, neu fynd â’r plant i’r ysgol ar y bws? Drwy gymryd camau bach i ddechrau, gallech ddod o hyd i ffordd haws o deithio nad oeddech wedi’i hystyried o’r blaen.

 

girls%20on%20train%20platform.jpg

 

Felly, gyda’r Wythnos Trafnidiaeth Werdd yn ei hanterth, beth am eich herio eich hun yr wythnos hon i adael y car gartref am un diwrnod a theithio ar y bws, y trên neu’r beic, neu gerdded hyd yn oed, os ydych yn teimlo’n ddewr? Yn Traveline Cymru, rydym yma i’ch helpu i ddod o hyd i’r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus – o ddarparu cynlluniau teithiau wedi’u personoli, i amserlenni bysiau, mapiau o lwybrau a llawer mwy. Ewch i’n hafan i ddechrau arni, neu rhowch gynnig ar ddefnyddio ein cynlluniwr taith yma.

Beth sy’n eich ysbrydoli i deithio?

Weithiau, mae cael ychydig o ysbrydoliaeth yn ddigon i wneud i ni roi cynnig ar bethau newydd. Mae aelodau ein tîm yn mwynhau defnyddio Pinterest i rannu ein syniadau â defnyddwyr eraill, a rhannu’r hyn sy’n ein cymell i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac ymweld ag ardaloedd newydd, waeth a ydym yn mynd oherwydd y tywydd neu er mwyn cael amser i ni’n hunain i ddarllen neu wrando ar gerddoriaeth a gwylio’r byd yn mynd heibio.

Cymerwch gip ar y byrddau Pinterest yr ydym wedi cydweithio i’w creu er mwyn gweld beth y mae pawb yn ei rannu a gweld a gewch eich ysbrydoli i roi cynnig ar ddull newydd o deithio’r wythnos hon!

   

 

Sut mae cymryd rhan?

Hoffech chi gymryd rhan? Mae hynny’n newyddion gwych! Os hoffech gael gwybod mwy am yr Wythnos Trafnidiaeth Werdd, gallwch fynd i wefan y Gymdeithas Trafnidiaeth Amgylcheddol yma a chysylltu â’r tîm i gael cymorth, cyngor ac adnoddau, a help i hyrwyddo eich gweithgaredd ar y wefan.

Os ydych yn credu y gallech ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle’r car ambell dro’r wythnos hon, rhowch gynnig ar ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith i ddechrau arni; nodwch fanylion eich taith a bydd gwybodaeth am yr holl deithiau sydd ar gael ar drafnidiaeth gyhoeddus i’w gweld, gan gynnwys yr amseroedd, yr arosfannau a mapiau o’r llwybr.

Ydych chi wedi dod o hyd i’r gwasanaeth bws y mae ei angen arnoch? Os ewch chi draw i’n tudalen Amserlenni yma, gallwch ddod o hyd i’r amserlen lawn ar gyfer eich gwasanaeth a lawrlwytho’r fersiwn PDF er mwyn mynd â hi gyda chi ar eich taith.

Fyddwch chi’n rhoi cynnig ar ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yr wythnos hon? Rhowch wybod i ni ar Twitter ar @TravelineCymru ac ymunwch â’r sgwrs gan ddefnyddio’r hashnodau #WythnosTrafnidiaethWerdd a #GreenTransportWeek!

 

 

*Ffeithiau a gafwyd gan y Gymdeithas Trafnidiaeth Amgylcheddol.

 

Pob blog Rhannwch y neges hon