Blog

Freshers Week Photo Competition

Cyfle i ennill cerdyn teithio 16-25 am flwyddyn yn ein cystadleuaeth ffotograffiaeth!

20 Medi 2016

I ddathlu’r ffaith bod gwefan myndibobmanfelmyfyriwr wedi’i lansio, rydym yn rhoi cyfle i bob myfyriwr newydd ennill cerdyn teithio 16-25 am flwyddyn, diolch i National Rail, drwy lansio ein cystadleuaeth ffotograffiaeth!

I gael cyfle i ennill, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw rhannu llun o unrhyw deithiau newydd yr ydych yn eu gwneud yn eich prifysgol newydd, gan ddefnyddio’r hashnod #myndibobmanfelmyfyriwr. Gallwch gynnig cynifer o luniau ag y mynnoch gan ddefnyddio’r hashnod, felly byddwch yn greadigol! Gall fod yn llun o olygfa hardd o ffenestr y bws neu gasglwr tocynnau cyfeillgar ar y trên, neu’n llun ohonoch chi a’ch ffrind cerdded newydd.

I fod yn gymwys i ennill y wobr, rhaid i’r myfyrwyr sy’n rhoi cynnig ar y gystadleuaeth fod yn dechrau mewn prifysgol newydd (rhaid eu bod yn fyfyrwyr blwyddyn gyntaf) a rhaid eu bod rhwng 16 a 25 oed. Gellir lanlwytho’r lluniau ar Facebook, Twitter neu Instagram a rhaid cynnwys yr hashnod #myndibobmanfelmyfyriwr.

Daw’r gystadleuaeth i ben ddydd Gwener 28 Hydref 2016 pan fyddwn yn cysylltu â’r enillydd lwcus.

Pob lwc, a mwynhewch dynnu lluniau!

 


Telerau ac amodau

Wrth gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon rydych yn derbyn rheolau’r gystadleuaeth, sef

  • Rhaid cyflwyno lluniau ar gyfer y gystadleuaeth yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad agor ac sy’n dod i ben ar y dyddiad cau. Ni chaiff unrhyw luniau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau eu hystyried.
  • Mae cystadleuaeth ffotograffiaeth #myndibobmanfelmyfyriwr yn agored i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf mewn unrhyw brifysgol yng Nghymru, ac eithrio unrhyw weithwyr neu unrhyw aelodau eraill o staff Traveline Cymru a’u perthnasau.
  • Nid oes modd trosglwyddo na newid y wobr, sef cerdyn teithio National Rail am flwyddyn, ac nid oes modd cael arian parod yn ei lle.
  • Caiff yr enillydd ei ddewis fel y gwêl Traveline Cymru yn dda, a bydd penderfyniad Traveline Cymru yn derfynol.
Pob blog Rhannwch y neges hon