Blog

Traveline Cymru myunijourney

Dechrau pennod newydd – myndibobmanfelmyfyriwr yn ystod Wythnos y Glas 2016

19 Hydref 2016

Mae wedi bod yn haf prysur arall i ni yma yn Traveline Cymru. Cafodd ein brand newydd ei lansio ym mis Medi, a oedd yn golygu delwedd newydd i’n gwefan a’n apiau ar gyfer dyfeisiau symudol. Yn ogystal cafodd ein rhif Rhadffôn newydd ei lansio, sef 0800 464 0000. (Gallwch ddarllen rhagor yma am lansio ein brand newydd!)

Roedd mis Medi hefyd yn golygu blwyddyn newydd sbon o Ffeiriau’r Glas, a oedd yn gyfle perffaith i ni gyflwyno ein gwasanaethau ar eu newydd wedd i fyfyrwyr diniwed y flwyddyn gyntaf wrth iddynt ddechrau ar eu bywyd newydd yn y brifysgol. Felly, aeth ein tîm ar daith unwaith yn rhagor er mwyn mynychu Ffeiriau’r Glas ym mhob cwr o’r wlad a helpu myfyrwyr i ddod o hyd i’r holl wybodaeth y bydd ei hangen arnynt am drafnidiaeth er mwyn teithio o le i le yn eu dinas neu’u tref newydd.

Dechreuodd ein taith o gwmpas y Ffeiriau ar gampws Prifysgol De Cymru yng Nghaerdydd, Casnewydd a Threfforest, a chyn diwedd yr wythnos roeddem wedi bod yn Ffeiriau’r Glas Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor. Yn ystod ein hail wythnos o ddigwyddiadau, aethom i Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Abertawe ac i gampws Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan ac Abertawe.

Llawer o fyfyrwyr newydd yn Ffair y Glas Prifysgol Bangor
Llun o gyfrif Twitter Prifysgol Bangor

Roedd bwrlwm a naws arbennig ym mhob digwyddiad, ac roedd yn gyfle gwych i ni siarad â llawer o fyfyrwyr newydd a rhannu cynghorion a gwybodaeth am deithio â nhw, a fyddai’n ddefnyddiol wrth iddynt ddechrau ar eu cyrsiau newydd.

Mae Wythnos y Glas bob amser yn brofiad gwych i ni, a thros y blynyddoedd rydym wedi cael gwybod gan y myfyrwyr eu hunain pa wybodaeth sy’n wirioneddol ddefnyddiol iddynt. Roeddem am ddarparu adnodd i fyfyrwyr a fyddai’n eu galluogi i ddefnyddio ein gwasanaethau mewn modd a oedd wedi’i deilwra ar gyfer eu profiad yn y brifysgol. Felly, ar ôl ymgynghori â’n gilydd a gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion ar draws Cymru, aethom ati i lansio’r adnodd myndibobmanfelmyfyriwr.

Email%20artwork.jpg

Mae myndibobmanfelmyfyriwr yn wasanaeth newydd sbon ym maes trafnidiaeth gyhoeddus, a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer myfyrwyr. Wrth fynd i’r wefan myndibobmanfelmyfyriwr, bydd modd i fyfyrwyr ddewis eu prifysgol nhw o’r rhestr er mwyn mynd i’r dudalen sydd wedi’i theilwra ar eu cyfer. Yno, gall myfyrwyr gynllunio teithiau o brif leoliadau’r campws, dod o hyd i arosfannau bysiau defnyddiol a chael cynghorion ynghylch teithio’n lleol, megis gwybodaeth am lwybrau bysiau allweddol a manylion am docynnau i fyfyrwyr.

Meddai ein Swyddog Marchnata, Laura Thomas:

“Drwy fynychu Ffeiriau’r Glas eleni, cawsom gyfle gwych i hyrwyddo myndibobmanfelmyfyriwr i’r holl fyfyrwyr newydd. Mewn tref neu ddinas newydd gall fod yn wirioneddol anodd dod i ddeall trafnidiaeth gyhoeddus, ac oherwydd mai hyn a hyn o arian sydd gan fyfyrwyr maent am ddod o hyd i’r opsiynau gorau ar gyfer prynu tocynnau. Cawsom ymateb cadarnhaol iawn gan y myfyrwyr i’r wefan, ac rydym yn gobeithio y bydd yn ddefnyddiol wrth iddynt ddod i arfer â’u bywyd newydd.

                Mae mis Medi bob amser yn fis prysur i Traveline Cymru wrth i ni gwrdd â myfyrwyr newydd, ac eleni roeddem yn hynod o falch o allu darparu adnodd defnyddiol iddynt sy’n cynnwys gwybodaeth benodol am drafnidiaeth gyhoeddus yn nhref neu ddinas eu prifysgol.”

Wrth greu’r adnodd myndibobmanfelmyfyriwr cawsom gyfle i gydweithio’n agos â nifer o brifysgolion ar draws Cymru, a oedd yn golygu ein bod wedi gallu cyfuno ein gwybodaeth i ddarparu adnodd unigryw y mae modd i fyfyrwyr ei ddefnyddio drwy’r flwyddyn. Ym mis Ebrill 2016 bu i ni lansio myndibobmanfelmyfyriwr yn swyddogol ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe. (Gallwch ddarllen rhagor yma am y digwyddiad lansio!)

Prifysgol Abertawe oedd y brifysgol gyntaf i ni gydweithio â hi i greu microwefan wedi’i theilwra – myndibobmanfelmyfyriwr. Bu modd i ni arddangos y wefan honno yn ystod y lansiad fel enghraifft o’r modd yr oeddem yn rhagweld y gallai gael ei chyflwyno mewn prifysgolion eraill ar draws y wlad.

Sesiwn holi ac ateb gyda Jayne Cornelius!

Gan fod myndibobmanfelmyfyriwr ar waith yn llawn erbyn hyn a bod modd i fyfyrwyr ar draws Cymru ddefnyddio’r adnodd, buom yn sgwrsio â Jayne Cornelius, Cydlynydd Cynllunio Teithio Prifysgol Abertawe, i ddarganfod sut y mae pethau’n dod yn eu blaen ers i’w microwefan fynd yn fyw.

Beth wnaeth eich denu at y cynllun myndibobmanfelmyfyriwr?

Jayne: Mae gan Brifysgol Abertawe berthynas ers amser â Traveline Cymru. Pan gododd y cyfle i gael gwefan a oedd wedi’i neilltuo’n arbennig i faterion teithio ar gyfer myfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe, roeddem yn falch o gymryd rhan yn y prosiect. Dyma ffordd wych o annog myfyrwyr i chwilio am yr holl ddewisiadau sydd ar gael iddynt o ran teithio’n gynaliadwy.

Pa elfennau o’r wefan myndibobmanfelmyfyriwr y bydd myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn elwa fwyaf ohonynt, yn eich barn chi?

Jayne: Y cynlluniwr taith, a’r ffaith bod y wefan yn ffynhonnell gynhwysfawr o wybodaeth am deithio.

A ydych wedi cael unrhyw adborth cadarnhaol gan fyfyrwyr hyd yn hyn?

Jayne: Ydw. Mae’r rhan fwyaf o’r myfyrwyr yn ffafrio cael gwybodaeth ar-lein am deithio neu’n ffafrio cael dolenni cyswllt â gwybodaeth am deithio, felly mae’r adnodd hwn yn ddelfrydol ar eu cyfer.




Jayne Cornelius yn ystod digwyddiad lansio myndibobmanfelmyfyriwr ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe ym mis Ebrill 2016


Cystadleuaeth!

I ddathlu gwefan myndibobmanfelmyfyriwr ochr yn ochr ag Wythnos y Glas, gwnaethom lansio ein cystadleuaeth ffotograffiaeth gyffrous, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr newydd ennill cerdyn teithio 16-25 am flwyddyn, diolch i National Rail!

Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw dydd Gwener 28 Hydref 2016, felly mae cyfle o hyd i gymryd rhan!

 

I gymryd rhan rhowch lun o’ch taith yn y brifysgol ar Facebook, Twitter neu Instagram gan ddefnyddio’r hashnod #myndibobmanfelmyfyriwr. Gallwch gynnig cynifer o luniau ag y mynnoch, boed yn olygfa hardd o ffenestr y bws neu’n llun ohonoch chi a’ch ffrind cerdded newydd!

Cliciwch yma i weld manylion llawn y gystadleuaeth ac i weld y telerau a’r amodau. Pob lwc!

Gan fod Wythnos y Glas drosodd am flwyddyn arall, rydym yn edrych ymlaen at weld myfyrwyr yn cael y cyfle i ymwneud â gwasanaethau myndibobmanfelmyfyriwr wrth iddynt ymgartrefu ar ddechrau tymor newydd sbon. Waeth ble mae angen i chi fynd yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol, rydym yma i’ch helpu ar y ffordd ac i sicrhau bod eich taith yn un i’w chofio! Cofiwch rannu eich profiadau o’r brifysgol â ni drwy ein cyfrif Twitter @TravelineCymru a’n tudalen Facebook gan ddefnyddio’r hashnod #myndibobmanfelmyfyriwr!

Pob blog Rhannwch y neges hon