
Rydym yn chwilio am flogwyr gwadd!
07 Ebrill 2017Ydych chi’n flogiwr brwd sy’n chwilio am gyfle i rannu eich cynnwys a’ch straeon?
Rydym wrthi’n chwilio am flogwyr gwadd i gyfrannu i’n blog am deithio a thrafnidiaeth, sydd i’w weld yma: https://www.cymraeg.traveline.cymru/blog/1
Ychydig bach amdanom ni
Gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yw Traveline Cymru, sy’n darparu gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni trafnidiaeth gyhoeddus – bysiau a threnau – ar draws Cymru yn ogystal â gwybodaeth am lwybrau cerdded a beicio.
Mae gennym ystod o wasanaethau dwyieithog i’ch galluogi i gynllunio taith, sy’n cynnwys ein gwefan, ap rhad ac am ddim ar gyfer dyfeisiau iPhone ac Android, a gwasanaeth rhadffôn ar 0800 464 0000. Ein diben yw helpu pobl i gyrraedd y mannau lle mae angen iddynt fod a’u helpu i ddod o hyd yn hawdd i’r wybodaeth y mae arnynt ei hangen.
Yn 2016 cafodd 5.6 miliwn o atebion i ymholiadau ynghylch teithio eu darparu gennym, ac rydym yn cael 50,000 o ymwelwyr â’n gwefan bob mis ar gyfartaledd. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yn ein fideo isod!
Rydym yn awyddus i gydweithio â blogwyr teithio brwd, myfyrwyr neu sefydliadau neu fudiadau a fyddai â diddordeb mewn cyfrannu i’n blog.
Mathau o gynnwys
Rydym am glywed eich straeon a’ch profiadau chi a byddem yn croesawu unrhyw awgrymiadau sydd gennych, boed yn:
- Straeon yn dilyn eich teithiau yng Nghymru
- Ambell gyngor ynghylch teithio, a’ch hoff leoedd i ymweld â nhw yng Nghymru
- Blogiau gweledol – gall y ffotograffwyr sydd yn eich plith rannu eich lluniau o bob cwr o Gymru
- Blogiau tymhorol
- Unrhyw beth sy’n ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus neu deithio yng Nghymru, gyda’ch stamp personol chi arno!
Mae ein cynulleidfa’n cynnwys unrhyw un yng Nghymru sy’n gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, neu a fyddai’n barod i wneud hynny. Felly, gallwch fod mor greadigol ag y mynnwch o ran y cynnwys.
Beth y byddwch chi’n ei gael?
Gyda phob blog y byddwch yn ei gyfrannu, byddwn yn rhoi eich enw wrth y testun a’r ffotograffau y byddwch yn eu darparu.
Byddwn hefyd yn cynnwys dolenni cyswllt â’ch blog a’ch cyfrifon personol ar gyfryngau cymdeithasol, gyda’ch caniatâd chi.
Mae gennym gynulleidfa fawr a gweithgar ar Twitter a Facebook a byddwn yn rhannu eich blog â’r gynulleidfa honno.
Oes gennych chi ddiddordeb? Cysylltwch â ni!
Byddem yn falch iawn o glywed gennych! Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu i’n blog, ebostiwch ni yn marketing@traveline.cymru a byddwn mewn cysylltiad â chi.