Blog

Cardiff Principality Stadium

Yn ymweld â Chaerdydd ar gyfer Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA? Dyma’r lleoedd y dylech fynd iddynt!

25 Mai 2017

Mae Portia Jones, y blogiwr am deithio a ffordd o fyw, wedi ymuno â ni i rannu ambell gyngor ynghylch y prif leoedd y dylech ymweld â nhw, sydd i gyd o fewn pellter cerdded i ganolbwynt y cyffro yn ystod Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA!

Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr yw un o’r digwyddiadau mwyaf erioed sydd wedi’u cynnal yng Nghymru. Oherwydd maint y digwyddiad, dylech gofio y bydd llawer o ffyrdd ar gau ac y bydd trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei dargyfeirio yng nghanol dinas Caerdydd, Bae Caerdydd a’r cyffiniau. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau teithio, ewch i’n tudalen ar gyfer digwyddiadau Cynghrair y Pencampwyr yma neu dilynwch ni: @TravelineCymru

Dyma Portia!

Fis Mehefin eleni bydd rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn dod i Gaerdydd, prifddinas fywiog a ffasiynol Cymru. Mae Caerdydd wedi tyfu a newid yn gyflym dros y blynyddoedd – roedd yn ganolfan allforio glo lewyrchus iawn ar un adeg, yna aeth drwy gyfnod o ddirwasgiad ar ôl y rhyfel, ac yn awr mae’n codi fel ffenics o’r lludw ac yn gwireddu ei photensial o’r cychwyn i fod yn ddinas odidog, diolch i brosiectau buddsoddi, adfywio ac adeiladu enfawr. Ym mis Mehefin, felly, bydd gan gefnogwyr pêl-droed sy’n ymweld â’r brifddinas lu o bethau i’w gweld a’u gwneud ac amrywiaeth eang o leoedd bwyta ac yfed i fynd iddynt cyn ac ar ôl y gêm yn y ddinas hardd hon. Defnyddiwch fy nghanllaw defnyddiol i fwynhau’r pethau gorau sydd gan Gaerdydd i’w cynnig!


Pethau y dylech eu gweld

Bae Caerdydd

Canolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd

Datblygiad trawiadol Bae Caerdydd yw’r datblygiad mwyaf o’i fath ar lan y dŵr yn Ewrop; mae dociau Caerdydd a arferai fod yn anferth wedi’u trawsnewid yn gyfan gwbl wrth i argae gael ei adeiladu i greu llyn dŵr croyw enfawr. Yr ardal fywiog hon yn y bae yw ein Costa-del-Cardiff ni, gyda’i chaffis ar y palmentydd, ei bariau â lleoedd i eistedd yn yr awyr agored, ei mannau gwyrdd, ei llwybrau beicio a’i bwytai amrywiol. Os yw’r haul yn disgleirio, dyma lle bydd pobl yn dod i fwynhau dos o fitamin D – ar ôl twrio am eu dillad haf gorau – yn un o’r bariau a’r caffis niferus a geir yma.

Wrth grwydro’r bae, fe welwch gymysgedd go iawn o adeiladau hanesyddol sy’n sefyll ochr yn ochr â strwythurau mwy modern. Mae adeiladau amlwg y bae’n cynnwys yr eglwys Norwyaidd, a oedd unwaith yn eglwys i forwyr Sgandinafaidd ond sy’n awr yn gaffi ac yn lleoliad ar gyfer digwyddiadau; ac adeilad y Pierhead, a oedd unwaith yn bencadlys Cwmni Dociau Bute ond sy’n awr yn amgueddfa, yn oriel ac yn lleoliad ar gyfer digwyddiadau. Mae’r adeiladau modern y gallwch ymweld â nhw ym Mae Caerdydd yn cynnwys Canolfan y Mileniwm, sef canolfan enfawr ar gyfer perfformiadau a’r celfyddydau; a chanolfan y Red Dragon, sef canolfan adloniant sy’n cynnwys sinema ac ali fowlio.


Castell Caerdydd

Y tir yng Nghastell Caerdydd

Ychydig o ddinasoedd sy’n gallu ymhyfrydu yn y ffaith bod ganddynt gastell enfawr ynghanol y ddinas, ond gall Caerdydd ymfalchïo yn hynny. Mae Castell Caerdydd wedi goroesi 2,000 o flynyddoedd o hanes sy’n cynnwys goresgyniadau, gwaith ailadeiladu a chyfnodau o fod yn eiddo i uchelwyr amrywiol. Heddiw mae’n atyniad trawiadol i ymwelwyr, lle gallwch fwynhau teithiau o amgylch yr ystafelloedd crand ac ymweld â chaffi a siop. Mae cyffion canoloesol i’w cael ar dir y castell hefyd – y lle perffaith i dynnu hunlun!


Parc Bute

Parc Bute

Ewch i gael seibiant o holl gyffro’r pêl-droed drwy ymweld ag un o’r mannau gwyrdd mwyaf hardd ac eang yng Nghaerdydd, sef Parc Bute. Mae’r parc y tu ôl i Gastell Caerdydd ac o fewn pellter cerdded yn rhwydd i Stadiwm Principality. Yno fe welwch goetir trefol, caeau chwarae, gardd goed, nodweddion garddwriaethol a choridor afon prydferth. Ewch i grwydro’n annibynnol ar hyd y llwybrau gan sylwi ar y gwiwerod a’r cerfluniau. Manteisiwch ar gyfle i fwynhau paned yn un o’r caffis niferus sydd yn y parc a’r cyffiniau, gan fwynhau prynhawn o wylio pobl. A chredwch chi fi, mae rhai cymeriadau go iawn i’w gweld yng Nghaerdydd.

 

Pethau y dylech eu gwneud

Mae Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau i chi ddewis o’u plith – gallwch gerdded drwy’r ddinas neu fynd o le i le ar feic neu gwch. Mae llu o opsiynau chwaraeon i’w cael yn ardal y bae, sy’n cynnwys llwybrau beicio, parc sglefrfyrddio, y pwll nofio rhyngwladol enfawr a’r Ganolfan Dŵr Gwyn sy’n llawn cyffro. Ewch i safle llogi beiciau Pedal Power ym Mhontcanna neu Fae Caerdydd i logi beic dinas, beic llwybr neu gar pedal. Does dim byd yn fwy doniol na gweld oedolion yn eu hoed a’u hamser yn dringo i mewn i gar pedal mawr ac yn pedlo nerth eu coesau yn union yr un fath â’r teulu Flintstone!

Canolfan Dŵr Gwyn Caerdydd

Y ffordd orau o weld y ddinas (yn fy marn i) yw ar gwch, ac yn ffodus mae llawer o opsiynau ar gael i chi. Beth am deithio mewn steil o ganol y ddinas i’r bae ar fwrdd y Princess Katherine, sef bws dŵr â 90 sedd sy’n teithio rhwng Parc Bute Caerdydd a’r bae, ac sy’n cynnig golygfeydd gwych o’r ddinas? Ar ôl cyrraedd y bae, parhewch â’ch anturiaethau ar gwch drwy archebu taith o amgylch y bae ar y bws dŵr. Neu os ydych yn fwy mentrus, ewch i’r Boathouse i logi cwch y gallwch ei yrru eich hun neu gwibiwch ar wyneb y dŵr mewn cwch modur gyda chwmni o’r enw Cardiff Sea Safaris. Ond cymerwch air o gyngor gen i – peidiwch byth â cheisio sefyll fel prif gymeriadau’r Titanic ym mhen blaen cwch modur. Byddwch yn siŵr o gwympo i’r dŵr!

Os yw’n well gennych grwydro ar dir sych, gallech ddysgu mwy am hanes a diwylliant y ddinas drwy ymuno â thaith gerdded dywysedig. Mae gwefan Croeso Caerdydd yn cynnig gwybodaeth am deithiau a thywyswyr a all eich arwain o amgylch y ddinas a rhoi syniad go iawn i chi o’r hyn sy’n mynd â bryd pobl Caerdydd, sef yn gyffredinol hoffter o chwaraeon, tynnu coes a’r dafarn, wrth gwrs.

Efallai y dylai’r sawl sy’n chwilio am weithgareddau mwy anarferol roi cynnig ar un o’r ‘ystafelloedd dianc’ niferus sydd wedi ymddangos yn ddiweddar. Mae llawer o ystafelloedd datrys posau wedi ymddangos yn ddiweddar ledled y DU, gan gynnwys Caerdydd. Mae Escape Reality, Escape Rooms, Breakout Cardiff ac Adventure Rooms Cardiff i gyd yn cynnig cyfle i chi ymgolli mewn pos, mewn ystafelloedd â thema wahanol, a’r unig ffordd o ‘ddianc’ yw drwy dorri codau a datrys posau. Pa ffordd well o dreulio’r prynhawn nag esgus mai chi yw James Bond a bod gennych dasg i’w chyflawni?

Dylai pawb sy’n dwlu ar ddiwylliant fynd i Amgueddfa Caerdydd yn y Ganolfan Ddinesig, sy’n un o ganolfannau dinesig harddaf Ewrop. Yma gallwch edmygu celfyddyd gyfoes, dysgu am esblygiad Cymru a rhyfeddu at y deinosoriaid, sef fy hoff ran i o’r amgueddfa, wrth reswm. Does dim byd gwell nag arddangosfeydd o ddeinosoriaid a model enfawr o famoth gwlanog i fodloni’r rhan honno ohonof sy’n dal yn blentyn. Mae’r amgueddfa hefyd yn cynnwys siop a chaffi hyfryd a rhaglen o ddigwyddiadau rheolaidd i ymwelwyr. Yn ogystal, gallwch ddysgu am hanes Caerdydd a’r modd y mae’r ddinas wedi datblygu a thyfu drwy’r oesoedd yn Amgueddfa Stori Caerdydd, lle gallwch weld y ddinas drwy lygaid y bobl leol gyda chymorth cyfres o arddangosfeydd rhyngweithiol, ffotograffau a ffilmiau. 

Mae canol y ddinas yn gartref i ambell le eiconig – a hynod yn aml – sy’n sicrhau bod Caerdydd yn eithaf eclectig a ffasiynol. Ewch i Farchnad Caerdydd i gael profiad siopa unigryw. Mae’r adeilad hwn o oes Fictoria yn gartref i fasnachwyr sy’n gwerthu popeth – o bysgod i lysiau a ffrwythau, llyfrau, recordiau, cacennau a defnydd – ac mae yno gaffis traddodiadol a stondinau digwyddiadau ac anifeiliaid anwes hefyd. Prin yw’r lleoedd lle gallwch brynu eog, rhôl wy, batri oriawr, cwningen ddof a phice ar y maen, i gyd ar yr un pryd!

Mae Spillers Records, sef siop recordiau hynaf y byd, yn ddarn arall o hanes a diwylliant Caerdydd. Cafodd ei sefydlu yn 1894 gan Henry Spiller, ac er ei bod wedi symud droeon wrth i ganol y ddinas ddatblygu nid yw ethos y siop wedi newid dim. Mae’r siop annibynnol hon yn cynnig dewis enfawr o gerddoriaeth a nwyddau, a bydd unrhyw rai sy’n hoff o gerddoriaeth wrth eu bodd yno am oriau’n edrych ar gynnwys y siop ac yn sgwrsio â’r staff cyfeillgar a hyddysg.

Mae Caerdydd yn enwog hefyd am ei harcedau amrywiol o oes Fictoria, sy’n cynnwys Arcêd Morgan, yr Arcêd Frenhinol, Arcêd y Castell ac Arcêd yr Heol Fawr a Heol y Dug. Mae llawer ohonynt yn adeiladau rhestredig gradd II ac wedi cadw eu nodweddion a’u ffasadau gwreiddiol. Os ydych yma heb eich partner, beth am brynu anrheg yn un o’r siopau annibynnol a siopau nwyddau traddodiadol o safon sydd yn yr arcedau? Gallech brynu peli bath feganaidd o siop foesol Miss Patisserie, nwyddau deli blasus o Wally’s Delicatessen, neu garthen Gymreig foethus gan Felin Tregwynt.

 

Lleoedd bwyta ac yfed y dylech fynd iddynt

Mae’r dewis o leoedd bwyta ac yfed sydd ar gael yng Nghaerdydd wedi cynyddu’n aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac maent yn cynnwys bwytai, bariau, bwytai dros dro a chaffis bendigedig. Yn ystod eich ymweliad, beth am osgoi’r bwytai cadwyn y gallwch fynd iddynt gartref a mynd i gefnogi rhai o’r bwytai lleol ac annibynnol gwych sydd gan y ddinas i’w cynnig? Rwyf wedi rhestru rhai o’m hoff leoedd i ar eich cyfer.


Bwyd

Mae pob cefnogwr pêl-droed yn gwybod mai’r pryd o fwyd perffaith ar gyfer gêm fawr yw cyrri blasus. Dylai’r sawl sy’n chwilio am gyrri cyfoes fynd i Chai Street, sef bwyty Indiaidd ffasiynol sy’n gwerthu bwyd stryd blasus megis Cyw Iâr Thali a pappads bach yn ogystal â’r reis a’r bara naan arferol.

Café Cita

Dylai’r sawl sy’n dwlu ar fwyd Eidalaidd fynd ar eu hunion i fwyty bach a chartrefol Café Citta. Mae’r bwyty Eidalaidd poblogaidd hwn yn paratoi antipasti o’r iawn ryw, a gellid dadlau mai yma y cewch chi’r pasta mwyaf perffaith yng Nghaerdydd. Mae hefyd yn paratoi pitsas blasus wedi’u gwneud â llaw ac wedi’u coginio mewn ffwrn goed.

Os ydych am flasu cig gorau’r ddinas, beth am fwynhau stêcs maethlon a sgiwerau cig crog rhagorol y mae pob un ohonynt wedi’u coginio ar gril siarcol go iawn yn The Meating Place? Bydd y sawl sy’n dwlu ar gig yn eu seithfed nef wrth geisio dewis o’r fwydlen y mae cig yn cael lle mor amlwg arni.

The Grazing Shed

Mae byrgers gorau’r ddinas, a byrgers gorau Cymru yn ôl pleidlais ddiweddar, i’w cael yn The Grazing Shed ac mae eu byrgers ‘Super Tidy’ yn hynod o flasus. Rhowch ychydig o’u saws cartref ar y cyfan, a byddwch yn barod i fwynhau cig eidion heb ei ail.

Caiff pitsas gorau’r ddinas eu paratoi gan un o fwytai dros dro Caerdydd, Dusty Knuckle, sydd newydd symud i’w gartref parhaol yn Nhreganna. Mae Dusty Knuckle Caerdydd yn gweini pitsas bendigedig wedi’u coginio mewn ffwrn goed yn iard drefol ffasiynol y bwyty, yn ogystal â chwrw dethol gan gwmni Crafty Devil Brewing.

Yng Nghaerdydd ceir diwylliant cynyddol o droi lleoliadau’n fwytai dros dro ffasiynol gyda’r nos. Un o’r lleoliadau diweddaraf yw caffi nos Blue Honey, sef bar a chaffi nos sy’n cynnig bwyd gwych, diodydd a cherddoriaeth ac sydd wedi’i leoli yn Sully’s Café, sef caffi traddodiadol sy’n gweini bwyd Prydeinig yn ystod y dydd. Dylai’r sawl sy’n dwlu ar fwyd ymweld hefyd â ‘Let the Beet drop’, sef bwyty gyda’r nos sydd ar agor am gyfnod byr, a gaiff ei redeg gan brif gogydd a rheolwr caffi Milk and Sugar, ar safle’r caffi ym Mhlas Winsor. Ond prynwch eich tocynnau’n fuan, oherwydd dim ond rhwng 30 Mai a 2 Mehefin y bydd y bwyty ar agor.

Coffi yn y Cosy Club

Mae digon o leoedd hefyd lle gallwch gael brecwast yn y ddinas os bydd angen i chi lenwi eich bol er mwyn gwella pen tost. Mae bwydlen y Cosy Club sy’n ffasiynol tu hwnt yn cynnwys danteithion bendigedig i frecwast, megis pancos llaeth enwyn a hash ham, y gellir eu mwynhau ynghanol decor eclectic megis lampau o’r gorffennol, drychau o bob siâp a phennau ceirw ar y waliau.

Os ydych yn chwilio am rywbeth ysgafnach prynwch deisennau a choffi i frecwast yn Nata & Co., sef siop fara Bortwgeaidd annibynnol sy’n gwerthu cacennau a bara bendigedig ynghyd ag amrywiaeth o goffi cryf sy’n siŵr o’ch deffro ar ôl y gêm fawr.

Os ydych yn bwriadu cael noson fawr ar ôl y gêm, byddwn yn eich annog i fynd i un o strydoedd enwocaf Caerdydd ar ddiwedd y nos, sef ‘Chippy Lane’ (neu Stryd Caroline o ddefnyddio ei henw go iawn). Yn Chippy Lane fe welwch lu o siopau sglodion a chebabs sydd ar agor tan yn hwyr, lle gallwch gael cebab cig oen i’w fwyta ar ôl noson drom. Yr hyn sy’n ddiddorol am y stryd yn ystod y nos yw ei bod yn cynnig cyfle i weld holl agweddau’r natur ddynol! Unwaith, clywais ddyn yn ceisio dal pen rheswm fel hyn â staff yn Chippy Lane am 3 y bore: ‘Mae’n flin gen i mod i wedi tynnu ’nhrowsus; ond dwi wir eisie cebab”!

 

Diod

Os ydych yn hoffi peint da, byddwn yn argymell tafarn eiconig y City Arms, sy’n dafarn o’r iawn ryw yn fy marn i. Mae’n bodoli ers yr 1800au ac mae wedi’i haddurno â ffotograffau ac arteffactau hanesyddol sy’n tystio i’w hanes hir. Mae’r City Arms yn boblogaidd ymhlith y sawl sy’n hoffi chwaraeon a’r sawl sy’n hoffi cwrw, fel ei gilydd, ac mae’n gweini amrywiaeth o gwrw go iawn o fragdai lleol a bragdai o bob cwr o’r byd.

Mae’r Tiny Rebel yn ddewis arall gwych i’r sawl sy’n hoffi cwrw crât. Mae’r bar ecsentrig hwn yn rhan o’r fenter cwrw cartref a ddechreuodd mewn garej ac a dyfodd yn gwmni bragu arobryn sy’n allforio i wledydd tramor ac sydd wedi agor dau far. Mae mewn lleoliad delfrydol gyferbyn â’r stadiwm, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio i gael y peint perffaith.

29 Park Place

Ydych chi am ymlacio gyda diod mewn bar cyffyrddus sydd hefyd yn ffasiynol? Wel, beth am alw heibio i 29 Park Place, sef bar trillawr sy’n honni bod yn ‘gartref oddi cartref’ ac sydd hefyd yn llwyddo i greu naws hamddenol? Yma, gallwch fwynhau coctels creadigol a blasus ar soffas moethus mewn amgylchedd cartrefol.  

Nine Yards

Os ydych yn chwilio am rywle ag ychydig o steil, mae’r Nine Yards yn lle hyfryd dros ben sy’n gweini cacennau bach a dewis o prosecco yn ogystal â llawer o ddiodydd eraill. Mae’r bobl yma’n deall mai’r ffordd orau o fwynhau prosecco a diodydd tebyg yw gyda rhywbeth melys i’w fwyta. Mae’r lle ynghanol y ddinas, felly mynnwch sedd yn yr awyr agored a mwynhewch yr awyrgylch cyffrous ag ambell ddiod.

The Dead Canary

Bar tebyg i glwb yfed Americanaidd o’r 1920au yw bar dirgel The Dead Canary, sydd mewn adeilad disylw yn Lôn y Barics. Does gan y bar ddim arwyddion amlwg, a bydd yn rhaid i chi chwilio am symbol wrth y drws i wybod eich bod wedi cyrraedd y man iawn yn hytrach na’r lle golchi dillad. Ar ôl mynd i mewn, mwynhewch amrywiaeth o goctels sydd wedi’u teilwra ac wedi’u creu yn ofalus yn y bar ffasiynol ond dirodres hwn a’i olau gwan.

Mae cynifer o bethau i’w gweld a’u gwneud yng Nghaerdydd, a dim ond cyfran fach o’r lleoedd rhagorol sydd yma yr wyf wedi medru rhoi sylw iddynt. Rhowch wybod i mi pa rai oedd eich hoff leoedd chi – mae bob amser yn braf clywed beth roddodd y boddhad mwyaf i’r sawl sy’n ymweld â’r ddinas.


Portia Jones

Blogiwr am deithio a ffordd o fyw yw Portia Jones, ac mae ganddi ei gwefan ei hun – Pip and the City – lle mae’n cofnodi ei hanturiaethau mewn arddull difyr a mympwyol, fel y’i disgrifir yn aml. Mae hefyd yn ysgrifennu ac yn creu cynnwys ar gyfer nifer o wefannau ac asiantaethau. Fel rheol, gwelir Portia yn teithio, yn gollwng gwin neu’n dangos ei phrydau bwyd yn gyson ar Instagram.

Twitter: @pip_says

Instagram: @pipsays

Blog: www.pipandthecity.com

 

Teithio a thrafnidiaeth

Oherwydd maint y digwyddiad, bydd gwasanaethau trafnidiaeth o amgylch y ddinas yn eithriadol o brysur, yn enwedig ddydd Sul 3 Mehefin. Ewch i’n tudalen ddigwyddiadau yma i gael gwybodaeth am drefniadau bysiau a threnau yn ystod y cyfnod 1 – 4 Mehefin. Yn ogystal, gallwch archebu eich tocynnau trên yn uniongyrchol drwy Trenau Arriva Cymru. Ni chodir tâl arnoch am archebu nac am dalu â cherdyn. www.buytickets.arrivatrainswales.co.uk.

Pob blog Rhannwch y neges hon