Blog

Catch the Bus Week

Wythnos Dal y Bws 2017

06 Gorffennaf 2017

Mae Wythnos Dal y Bws yn ei hôl, ac mae yn ei hanterth unwaith yn rhagor yn dathlu manteision dal y bws ac yn codi ymwybyddiaeth o deithio ar fysiau.

Mae Wythnos Dal y Bws yn fenter a gaiff ei rhedeg gan Greener Journeys ac mae’n gyfle gwych i ni ystyried y modd yr ydym yn teithio. Bydd llawer o ddigwyddiadau cyffrous a chystadlaethau’n cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos, felly bydd llawer o ffyrdd gwych y gallwn ddechrau cynnwys teithio ar fysiau yn ein bywyd pob dydd.

 

Pam y dylwn i ddal y bws?

 

Er mwyn lleihau straen a gwella eich iechyd

Mae pob un ohonom yn gwybod sut deimlad yw bod mewn traffig ar fore prysur ar y ffordd i’r gwaith, neu boeni am ddod o hyd i’r lle parcio delfrydol wrth fynd i’r dref. Drwy ddal y bws gallwch ymlacio a gadael i’r gyrrwr wneud y gwaith caled, a gallwch ddod oddi ar y bws wrth arhosfan o’ch dewis chi.

Er mwyn lleihau eich ôl troed carbon

Wyddech chi..? Pe bai pawb bob mis yn troi un daith mewn car yn daith ar fws, byddai hynny’n golygu un biliwn yn llai o deithiau mewn car ar ein ffyrdd ac yn arbed dwy filiwn tunnell o CO2.*Beth am ddefnyddio Wythnos Dal y Bws yr wythnos hon i weld a allwch droi un o’ch teithiau mewn car yn daith ar fws? Efallai y darganfyddwch chi ddull haws o deithio nad oeddech wedi’i ystyried o’r blaen!

Er mwyn arbed arian efallai

Mae llawer o weithredwyr ar hyd a lled y wlad yn cynnig tocynnau wythnos neu fis, a fydd yn eich helpu i arbed arian wrth deithio’n rheolaidd ar fws.

Ydych chi dros 60 oed? Gallwch wneud cais i’ch cyngor lleol am gerdyn teithio er mwyn cael teithio’n rhad ac am ddim ar fysiau o gwmpas Cymru!


people%20on%20bus.jpg


Sut y gallaf gymryd rhan yn Wythnos Dal y Bws?

Mae Greener Journeys yn galw ar bawb i gymryd rhan yn Wythnos Dal y Bws, ac mae digon o ffyrdd cyffrous o wneud hynny!

  • Dewch at eich gilydd fel criw o ffrindiau neu gydweithwyr i gynnal eich ymgyrch hyrwyddo eich hunain ar gyfer Wythnos Dal y Bws – gallech gynnal cystadleuaeth i weld pwy sy’n gallu defnyddio’r bws amlaf erbyn diwedd yr wythnos?
  • Cysylltwch â’ch cwmni bysiau lleol i gael rhagor o wybodaeth am ei weithgareddau a sut y gallwch gymryd rhan.
  • Ymunwch â’r sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #CTBW a dilynwch @GreenerJourneys ar Twitter i gael y newyddion diweddaraf drwy gydol yr ymgyrch.

I gael rhagor o syniadau a gwybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan, ewch i wefan Wythnos Dal y Bws yma i weld popeth y mae arnoch ei angen i ddechrau arni!

 

Fyddwch chi’n rhoi cynnig ar ddal y bws yr wythnos hon?

Byddwch? Wel, rydych wedi dod i’r man iawn! Mae ein gwasanaethau cynllunio taith wrth law i’ch helpu i ddod o hyd i’r holl lwybrau bysiau y gallwch eu cymryd, manylion am arosfannau ac amseroedd, a map rhyngweithiol o’r daith fel y gallwch weld i ble’n union y mae angen i chi fynd.

Drwy gydol yr wythnos gallwch ddisgwyl gweld digon o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal i ddathlu’r fenter, gan gynnwys cystadlaethau, gweithgareddau, cyfleoedd i gael tocynnau am ddim, a llawer mwy.

Cofiwch edrych i weld pa weithgareddau y mae eich gweithredwyr bysiau lleol wedi’u cynllunio i chi gymryd rhan ynddynt! Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am holl weithgarwch Wythnos Dal y Bws ar gyfryngau cymdeithasol trwy ddilyn yr hashnod #CTBW.

 

* Cafwyd y ffeithiau gan Wythnos Dal y Bws.

Pob blog Rhannwch y neges hon