Blog

Tenby

Ail-greu atgofion plentyndod drwy ein hoff weithgareddau glan môr

10 Gorffennaf 2017

Mae Laura-Simone, y blogiwr am ffordd o fyw a harddwch, wedi ymuno â ni i rannu hanes ei diwrnod yn yr haul yn nhref hardd Dinbych-y-pysgod, lle cafodd gyfle i ail-greu rhai o hoff atgofion ei phlentyndod!

Y diwrnodau pan fyddem yn penderfynu mynd i lan y môr yn sydyn yw rhai o fy hoff atgofion fel plentyn. Rwy’ wedi bod yn ddigon ffodus yn ystod fy mywyd i gael cyfleoedd i deithio i lawer o wahanol drefi glan môr, yma a thramor, ond weithiau y trefi nesaf at adref yw’r rhai gorau. Gan gofio hynny, penderfynodd fy chwiorydd a fi fynd i Ddinbych-y-pysgod i dreulio’r diwrnod yno yn yr haul, ac allen ni ddim bod wedi dewis diwrnod gwell. Penderfynon ni deithio ar y trên, oherwydd roedd yn golygu na fyddai’n rhaid i ni gystadlu â phawb arall am le parcio ac roedd yr un mor gyflym â mynd yno yn y car. Cyn i ni hyd yn oed adael y tŷ, roeddem wedi llunio rhestr o bethau yr hoffem eu gwneud ar lan y môr – rhestr a oedd yn cynnwys yr holl bethau hynny yr oeddem wrth ein bodd yn eu gwneud pan oeddem yn fach. Ar y trên buom yn cynllunio ein diwrnod, yn sgwrsio ac yn rhannu ein newyddion diweddaraf.

Crwydro

Y gweithgaredd cyntaf ar ein rhestr oedd crwydro o amgylch y dref fach fendigedig hon, yn chwilio am y siopau a’r lleoedd hufen iâ gorau ac yn edmygu’r holl olygfeydd hardd! Wrth gwrs, bu’n rhaid i ni stopio ambell dro i dynnu’r lluniau Instagram hollbwysig, cyn mynd ati i groesi’r peth nesaf oddi ar ein rhestr. Mae’r dref yn llawn o adeiladau lliwgar a strydoedd bach cefn, ac mae ganddi harbwr hardd sy’n werth ei weld. Ceir llawer o wahanol boutiques a siopau anrhegion i chwilota ynddynt hefyd os oes arnoch awydd mynd â rhywbeth bach adre gyda chi.

Y traethau

Fyddai’r un daith i lan y môr yn gyflawn heb gyfle i fynd am dro ar hyd y traethau, ac mae digon o’r rheini i’w cael ar hyd yr arfordir. Mae tri i’w gweld yn glir o’r dref, ac mae gan bob un ohonynt dywod euraidd glân a deniadol, dŵr glas clir a digon o le i bawb. Mae rhai o’r traethau hefyd yn cynnwys pyllau glan môr ac ogofâu os ydych yn teimlo’n fwy anturus ac am grwydro ychydig ymhellach, neu gallech fynd ati hyd yn oed i adeiladu ambell gastell tywod.

 

Bwyd a diod

Pan ddaeth hi’n bryd cael cinio, roeddem yn gwybod yn syth bod yn rhaid i ni gael pysgod a sglodion…neu gornet o sglodion yn ein hachos ni. Yn fuan ar ôl dechrau ymlwybro i lawr y strydoedd, daethom ar draws Pipers – siop sglodion sy’n gwerthu prydau i’w bwyta allan neu yn y bwyty. Ar ôl prynu ein sglodion, aethom yn ôl i gyfeiriad y môr a dod o hyd i’r fainc ddelfrydol i eistedd arni. Os nad yw sglodion yn mynd â’ch bryd mae digon o fwytai eraill, siopau coffi, tafarnau a chaffis i ddewis o’u plith, gyda lleoedd i eistedd dan do ac yn yr awyr agored.

 

Danteithion melys

Wrth gwrs, fyddai ein hanturiaethau ar lan y môr ddim yn gyflawn heb hufen iâ. Felly, aethom i lawr i Tenby’s Ice Cream – roeddem yn gwybod bod hwn yn lle poblogaidd ar ôl gweld ciwiau o bobl y tu allan i’r drws drwy gydol y dydd. Mae blasau di-ri i ddewis o’u plith, ac maent yn cynnwys rhywbeth at ddant pawb. Cyn i’r diwrnod ddod i ben, roedd yn rhaid galw heibio i’r siop losin i brynu rhywbeth ar gyfer y daith adref ar y trên. Roedd hi’n anodd dewis o blith yr holl jariau o losin a chyffug a oedd yno, heb sôn am y roc, sef y losin enwocaf ohonynt i gyd.

Os ydych yn chwilio am y diwrnod perffaith allan, byddwn i’n bendant yn argymell Dinbych-y-pysgod! Mae’n cynnwys rhywbeth i bawb o bob oed, mae yno ddigon o bethau i’w gweld a’u gwneud ac mae’n cynnig dewis gwych o leoedd bwyta. Ac yn goron ar y cyfan, mae’r dref wedi’i hamgylchynu gan rai o olygfeydd harddaf y wlad. Cawsom ddiwrnod i’r brenin yn crwydro o amgylch y dref fach hyfryd hon, yn stwffio ein boliau â bwydydd a diodydd blasus ac yn mwynhau oriau o sbort a sbri.

Os hoffech chi fynd i Ddinbych-y-pysgod ar y trên neu’r bws, mae cynlluniwr taith Traveline Cymru yn adnodd perffaith i’ch helpu i drefnu eich taith. Mae’n eich galluogi i gynllunio pob cam o’ch siwrnai a hyd yn oed yn cynnig map i chi o’r llwybr y mae angen i chi ei gymryd, er mwyn gwneud popeth mor hwylus ag sy’n bosibl i chi. Pan fyddwch yn gwybod yn union ble’r ydych am fynd, gallwch brynu eich tocynnau drwy gyfleuster Trenau Arriva Cymru yma. Mae mor rhwydd – rwy’ wedi gwneud hynny fy hunan sawl gwaith; at hynny, does dim rhaid i chi dalu unrhyw ffi ychwanegol i archebu tocyn neu dalu â cherdyn!


Laura-Simone

Blogiwr am ffordd o fyw a harddwch yw Laura-Simone, sy’n rhannu ei meddyliau, ei syniadau a’i safbwyntiau ynghylch popeth o fasgara i fyrgers a mwy! Cymerwch gip ar flog Laura isod a dilynwch hi ar y cyfryngau cymdeithasol.

Blog: www.laura-simone.com

Twitter: @Laurasimoneowen

Instagram: @laurasimoneowen

Sianel YouTube Laura

Pob blog Rhannwch y neges hon