
Ar y ffordd gyda…chlwb cinio Afan Nedd
10 Awst 2017Er mwyn helpu i hyrwyddo ein rhif Rhadffôn, sef 0800 464 0000, buom yn cydweithio ag Age Cymru ar brosiect celfyddydau yn y gymuned ac yn ymweld â chlybiau cinio lleol dros yr haf er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r modd y gall ein rhif Rhadffôn newydd helpu’r sawl y mae arnynt angen cyngor ynghylch teithio.
Buom yn hel atgofion gydag aelodau o glwb cinio Afan Nedd, a fuodd yn ein difyrru â straeon am eu teithiau mwyaf cofiadwy ar fysiau a threnau. Yn ogystal, cawsom gwmni rhai o gantorion dawnus côr o’r enw Splott Local Vocals ar y diwrnod, a fu’n codi canu!
Roedd cael clywed cynifer o straeon diddorol gan y grŵp yn ysbrydoledig, ac roedd gan lawer ohonynt atgofion melys am deithiau gyda theulu a ffrindiau. Dyma rai o’r atgofion a gafodd eu rhannu â ni yn Afan Nedd:
“Ro’n i’n arfer teithio ar y trên o Bort Talbot i Ynys y Barri yn yr haf; un tro cymerodd fy chwaer ormod o amser i baratoi a chollodd y trên, gan ein gadael ni i ofalu am y plant i gyd! R’yn ni’n credu iddi gymryd gormod o amser yn bwrpasol er mwyn gallu cymryd ei hamser i ddod yn barod a chael llonydd i wisgo ei cholur.” (Audrey, 83)
“Ro’n ni’n arfer mynd ar y trên i Barc Aberdâr i fwynhau’r pwll nofio awyr agored. Ro’n ni’n arfer creu ein pop sherbet ein hunain drwy gymysgu sherbet o Woolworths â dŵr. Roedd yn hyfryd o felys a blasus!” (Dienw)
“Fy hoff daith i oedd taith annisgwyl i Landudno a drefnwyd gan fy ngŵr i ddathlu ein pen-blwydd priodas. Roedd wedi trefnu bod fy merch yno fel syrpréis i mi. Roedd yn ddiwrnod bendigedig!” (Dienw)
“Rwy’n cofio teithio ar fws deulawr yng nghanol yr haf gyda’r ffenestri ar agor; ro’n ni’n teithio ar hyd lôn gul heibio i ffermydd a chaeau gwair – daeth chwythwm mawr o wynt i lawr y lôn ac ar draws y caeau a gorchuddio’r holl deithwyr o’u pen i’w sawdl â gwair a llwch! Dim ond 7 neu 8 oed oeddwn i!” (Dienw)
“Rwy’n cofio’r swyddogion yng ngorsaf drenau Caerdydd, a oedd mor barod i helpu. Fe wnaethon nhw fy helpu pan ddes i oddi ar y trên gan feddwl bod angen i mi ddal trên arall i fynd i Portsmouth. Buan y gwnaethon nhw fy helpu drwy ddweud bod angen i mi aros ar yr un trên. Rwy’n un o 11 o blant, felly ro’n i’n arfer dilyn fy mrodyr hŷn! Ro’n i’n teithio ar fy mhen fy hun i Portsmouth.” (Joan)
“Ro’n i’n arfer teithio ar fws o Cascade yng Nghwm Rhymni i Ynys y Barri, a byddwn yn mwynhau crwydro o’r naill gaffi i’r llall dan y bwâu sy’n edrych dros y traeth. Rwy’n defnyddio fy sgwter i fynd o le i le erbyn hyn.” (Yvonne)
“Roedd fy nhad yn löwr, a phan oedd e’n ddi-waith a phan oedd bywyd yn anodd byddai’r pwyllgor lles lleol yn mynd â’r wyth ohonon ni blant ar drip i Bort Einon, a byddem yn cael pop a brechdanau i’w mwynhau.” (Joan, 88)
“Byddem yn aml yn mynd i Fae Baglan ar y trên, a byddai ’nhad yn gofyn i’r swyddog stopio’r trên yn arbennig i ni wrth ymyl y traeth, fel na fyddai’n rhaid i ni gerdded ymhell. Rwy’n credu ei fod yn adnabod y swyddog yn dda, oherwydd dwi ddim yn credu bod y trên i fod i aros yno!” (Dienw)
“Ro’n ni’n arfer dal bws o Fargam i Bort Talbot. Dim ond ceiniog roedd e’n ei gostio!” (Rita, 88)
Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Age Cymru am bob cymorth a gafwyd ar y diwrnod. Cofiwch, os oes angen gwybodaeth arnoch am drafnidiaeth gyhoeddus, gallwch ein ffonio’n rhad ac am ddim ar 0800 464 0000. Mae ein Canolfan Gyswllt ar agor bob dydd rhwng 7am ac 8pm.