Blog

Your Ultimate Six Nations Travel Guide!

Eich Canllaw Teithio ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad!

08 Mawrth 2018

Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ei hanterth, a bydd Cymru yn herio’r Eidal a Ffrainc yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd y mis hwn. Byddwn yma i ddarparu’r holl wybodaeth a’r holl gyngor y bydd arnoch eu hangen am drafnidiaeth er mwyn gallu teithio’n hwylus o amgylch Caerdydd ar y diwrnod!

Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad bob amser yn un o uchafbwyntiau’r calendr chwaraeon, a bydd cefnogwyr rygbi o bob cwr o’r wlad yn tyrru i Gaerdydd ar ddiwrnodau gemau i gefnogi eu tîm a mwynhau awyrgylch cyffrous y ddinas.

Bydd Caerdydd yn brysur tu hwnt, felly bydd nifer o ffyrdd ar gau a bydd trefniadau dargyfeirio ar waith, a fydd yn effeithio ar y modd y byddwch yn teithio. Felly, p’un a ydych yn dod o Gaerdydd neu’n ymweld â’r ddinas, rydym wedi llunio Canllaw Teithio ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad fel bod yr holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen gennych wrth law.


Cynlluniwch eich taith ymlaen llaw

Os ydych yn ddigon ffodus i fod wedi cael tocyn ar gyfer y gêm, neu os ydych yn bwriadu mynd i ganol y ddinas am y dydd, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio eich taith ymlaen llaw fel na fydd unrhyw newidiadau sydd ar waith yn achosi trafferth i chi.

Mae’r holl drefniadau y bydd arnoch eu hangen ar gyfer trafnidiaeth i’w gweld ar ein tudalennau isod ar gyfer diwrnodau gemau. Byddwn yn ychwanegu gwybodaeth wrth iddi gyrraedd, felly cofiwch ailwirio’r trefniadau ar gyfer eich taith cyn gadael y tŷ!

Cymru v Yr Eidal, Dydd Sul 11 Mawrth

Cymru v Ffrainc, Dydd Sadwrn 17 Mawrth

Yma gallwch hefyd weld dolenni cyswllt â’n cynlluniwr taith, ein hamserlenni a’n chwiliwr arosfannau bysiau er mwyn dod o hyd i’r llwybrau gorau ar gyfer eich taith a chael gafael ar yr holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen.


 

Cadwch ein rhif a ffoniwch ni

Os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw newidiadau sydd ar waith, ffoniwch ni ar ein rhif Rhadffôn 0800 464 0000 a bydd ein tîm dwyieithog, cyfeillgar wrth law i’ch helpu gyda’ch ymholiadau!

Os nad ydych yn dod o Gaerdydd neu os ydych yn ymweld â’r ddinas o wlad dramor, gallai’r dargyfeiriadau ei gwneud yn anodd i chi wybod ble’n union y mae angen i chi fod. Mae ein tîm wrth law i egluro unrhyw wybodaeth a rhoi tawelwch meddwl i chi!


Dilynwch ni ar Twitter i gael y manylion diweddaraf

Mae Twitter yn lle gwych i drafod y gemau â chefnogwyr eraill a gweld beth sy’n digwydd o amgylch y ddinas. Ar ddiwrnodau gemau, byddwn yn aildrydar y manylion diweddaraf gan weithredwyr er mwyn i chi allu cadw golwg ar y wybodaeth ddiweddaraf wrth i chi fynd o le i le ar y diwrnod. Dilynwch ni ar @TravelineCymru!

Yn olaf ond nid yn lleiaf, mwynhewch yr awyrgylch!

Os ydych yn dod o Gaerdydd, byddwch yn gwybod yn iawn bod y ddinas yn deffro yn ystod y tymor rygbi. I’r cefnogwyr mae’r awyrgylch yn rhan annatod o’r profiad, a chan fod cymaint o bethau’n digwydd yng Nghaerdydd ar y diwrnod mae yna rywbeth a fydd yn siŵr o fod at ddant pawb.

Beth os nad ydych yn mynd i’r gêm? Beth bynnag yw eich cynlluniau ar gyfer y penwythnos, fyddwch chi ddim yn gallu dianc rhag holl fwrlwm y ddinas. Rydym yma i roi’r wybodaeth ddiweddaraf y bydd arnoch ei hangen am drafnidiaeth er mwyn eich helpu i gael penwythnos i’w gofio!

Pob blog Rhannwch y neges hon