Blog

Traveline Cymru mobile app

Ap i’ch gwneud yn h...ap...us! Ein pum cyngor pennaf ynghylch sut i ddefnyddio ein ap cynllunio taith

23 Mai 2018

Fyddwch chi weithiau’n chwilio am wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus wrth i chi deithio o le i le? Mae ein ap RHAD AC AM DDIM ar gyfer dyfeisiau symudol iPhone ac Android yma i’ch helpu i gynllunio eich teithiau’n ddidrafferth. Isod, fe welwch chi’r pum ffordd bennaf y gallwch ddefnyddio ap Traveline Cymru i fynd o A i B!

  1. Cynllunio eich taith gan ddefnyddio ein cynlluniwr taith

Bydd ein cynlluniwr taith yn eich helpu i ddod o hyd i’r llwybrau sy’n cyd-fynd orau â’r manylion yr ydych wedi’u dewis ar gyfer eich taith. P’un a ydych yn cynllunio taith ymlaen llaw neu wedi cyrraedd yr arhosfan bysiau’n barod, agorwch yr ap a dewiswch eich lleoliad a’r man yr ydych am deithio iddo, ynghyd â’r dyddiad a’r amser teithio yr ydych yn eu ffafrio.

Bydd y canlyniadau yn rhoi’r holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen i gwblhau eich taith, gan gynnwys lleoliadau arosfannau bysiau, prisiau tocynnau, unrhyw broblemau sy’n tarfu ar y gwasanaeth, a mapiau o’r daith fel y gallwch weld i ble’n union y mae angen i chi fynd.

  1. Dod o hyd i’ch amserlenni

Mae ein cyfleuster chwilio am amserlenni yn hawdd i’w ddefnyddio, a bydd yn eich galluogi i weld yr amserlen gyfan ar gyfer gwasanaeth bws penodol.

Pan fyddwch wedi dod o hyd i’ch amserlen, fe welwch chi fod modd i chi ddewis y diwrnod yr hoffech weld amseroedd ar ei gyfer, ynghyd â map fel y gallwch weld ble’n union y mae’r arosfannau.

  1. Dod o hyd i’ch arhosfan bysiau a chadw eich hoff arosfannau!

Drwy glicio ar ein chwiliwr arosfannau bysiau, gallwch chwilio am eich lleoliad er mwyn gweld yr arosfannau bysiau agosaf yn syth ar fap.

Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw clicio ar un o’r eiconau coch ar gyfer arosfannau bysiau er mwyn gweld pa fysiau ddylai gyrraedd yr arhosfan hwnnw nesaf. Yna, gallwch gynllunio taith yn uniongyrchol o’r arhosfan hwnnw i fan yr hoffech deithio iddo.

Ydych chi’n defnyddio’r arhosfan bysiau dan sylw’n rheolaidd? Pwyswch y botwm ‘Hoff arosfannau bysiau’ i gadw’r arhosfan yn eich rhestr o hoff arosfannau bysiau – mae’r botwm i’w weld ar brif ddewislen yr ap. Bydd cael gwybodaeth am eich arhosfan bysiau rheolaidd wrth law wrth i chi deithio o le i le yn ddelfrydol!



  1. Cael y wybodaeth ddiweddaraf am broblemau teithio

Peidiwch â gadael i newidiadau i’ch gwasanaeth darfu ar eich cynlluniau’n annisgwyl! Byddwn yn rhannu gwybodaeth am unrhyw broblemau yr ydym yn gwybod amdanynt ar y ddewislen ‘Problemau teithio’ ar yr ap.

Wrth gynllunio taith drwy’r ap, fe welwch chi eicon baner felen ar unrhyw wasanaethau sydd â hysbysiad ynghylch problemau teithio, fel y gallwch weld yr holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen cyn dechrau ar eich taith.

  1. Ein dilyn ar Twitter er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf wrth i chi fynd o le i le

Pwyswch yr eicon Twitter ar y brif ddewislen er mwyn dilyn ein ffrwd lle’r ydym yn aildrydar y manylion diweddaraf gan weithredwyr am drafnidiaeth yn rheolaidd wrth iddynt ymddangos. Bydd modd felly i chi deimlo’n hyderus bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf.

Sicrhewch fod yr holl wybodaeth angenrheidiol gennych wrth law drwy lawrlwytho ein ap rhad ac am ddim heddiw o siop apiau iTunes a siop Google Play.

Os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw wybodaeth, cofiwch y gallwch ein ffonio ni’n RHAD AC AM DDIM ar 0800 464 0000 gydag unrhyw ymholiadau ynghylch teithio. Mae aelodau ein tîm cyfeillgar, dwyieithog ar gael bob dydd rhwng 7am ac 8pm a byddant wrth law i helpu i ateb eich cwestiynau!

Pob blog Rhannwch y neges hon