Blog

Gweithgareddau rhad i’r teulu yn ystod hanner tymor mis Hydref

26 Hydref 2018

Er eich bod, efallai, yn teimlo mai dim ond newydd anfon eich plant yn ôl i’r ysgol yr ydych chi ar ôl chwe wythnos o wyliau haf crasboeth, mae hanner tymor mis Hydref wedi cyrraedd. Wrth i’r diwrnodau oeri a thywyllu, gall fod yn anodd dod o hyd i weithgareddau i’r teulu cyfan eu mwynhau heb wario gormod yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Rydym wedi creu rhestr o weithgareddau rhad y gallwch eu gwneud ledled Cymru sy’n siŵr o’ch cadw chi a’r plant yn brysur trwy gydol yr wythnos. P’un a ydych yn chwilio am rywbeth cartrefol a hydrefol i’w wneud, yn dymuno dathlu Calan Gaea’ neu’n awyddus i gael rhywfaint o awyr iach, dyma restr o bethau y gallwch eu gwneud yn ystod hanner tymor mis Hydref heb fynd i gostau mawr.

 

Mynd am dro a mwynhau golygfeydd prydferth Cymru

Er y gallech gael eich temtio i adael i’ch plant aros yn y tŷ a chwtsio o flaen y teledu yn ystod y gwyliau hanner tymor, mae’n bwysig sicrhau eu bod yn gwneud ymarfer corff ac yn cael rhywfaint o awyr iach hefyd. Ar ddiwrnodau hydrefol braf, beth am wisgo’n gynnes a mynd am dro i fwynhau rhai o’r golygfeydd syfrdanol sydd gan Gymru i’w cynnig? Gallwch wneud y rhan fwyaf o’r teithiau cerdded hyn yn rhad ac am ddim, ond efallai y bydd hi’n syniad prynu ambell beth bach i’w fwyta ar hyd y ffordd i roi digon o egni i’r plant (a’r oedolion).

Yn ein blog blaenorol buom yn disgrifio amrywiaeth o lwybrau cerdded hyfryd y gallwch ymweld â nhw yn y de – o brydferthwch Castell Coch i’r ardal arbennig o gwmpas Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston. Os ydych yn dymuno cael taith ychydig yn fwy heriol, beth am geisio concro Pen-y-fan ym Mannau Brycheiniog? Gallwch ddarllen y blog llawn yma.

Yn ogystal, ceir llu o lwybrau cerdded i’w harchwilio yn y gogledd. Mae Llwybr y Gogledd yn 60 milltir o hyd (er efallai na fydd y plant yn dymuno cerdded y cyfan!) ac mae’n ymestyn o Fangor i Brestatyn. Mae hefyd yn cynnig golygfeydd ysblennydd y bydd eich plant yn siŵr o fod am eu postio ar Instagram. Gallwch ddarganfod rhagor o lwybrau ar wefan Croeso Cymru.

 

Mynd i’r sinema

Pan fydd y tywydd yn llai ffafriol, mae trip i’r sinema yn siŵr o ddiddanu eich plant (a’u cadw’n gynnes!) Gall mynd i’r sinema fod yn gostus, felly mae’n sicr yn werth cadw’ch llygaid ar agor am unrhyw gynigion arbennig sydd ar gael.

  • Mae sinema Vue yn cynnal boreau i blant bach (Mini Mornings) ar ddiwrnodau penodol o’r wythnos. Gallwch brynu tocynnau am £2.99 i oedolion a phlant ar gyfer rhai ffilmiau. 
  • Yn sinemâu Odeon mae oedolion yn talu pris tocyn plentyn gyda’r Tocyn Teulu. Yn ogystal, cynigir pris arbennig ar gyfer rhai ffilmiau i blant ar fore dydd Sadwrn a dydd Sul, a phob dydd yn ystod gwyliau’r ysgol. 
  • Mae Premier Cinema yng Nghaerdydd hefyd yn cynnig Tocyn Teulu. Mae’r tocyn hwn yn rhoi mynediad i 4 person (hyd at 3 o blant) am £3.50 yr un!

 

Creu pethau blasus a brawychus

Mae hwn yn amser da o’r flwyddyn i bobi. Beth well na chlywed arogl bisgedi a chacennau blasus yn crasu yn y popty ar ddiwrnod oer o hydref? Gan fod Calan Gaea’ yn digwydd cwympo yn ystod hanner tymor eleni, mae hynny’n rhoi’r esgus perffaith i chi greu pethau blasus brawychus.

Rydych yn siŵr o gael hwyl yn creu’r ‘Pelenni Llygaid Iasoer’ – maent yn hwyl ac yn hawdd i’w creu heb gymryd gormod o amser. Ni fyddwch yn gallu cadw eich dwylo (na’ch llygaid) oddi arnynt! Dim ond 5 cynhwysyn sydd yn y rysáit hon, a gallwch eu prynu yn eich siop neu archfarchnad leol. Gallwch hefyd adael i’r plant ychwanegu unrhyw addurniadau eraill atynt. Mae’r rysáit a’r rhestr lawn o’r cynhwysion ar wefan y BBC.

          

Os hoffech greu tamaid sydd ychydig yn iachach, beth am roi cynnig ar yr ‘Ysbrydion Banana Iasoer’ yma? Bydd angen siocled gwyn, bananas a blawd cnau coco arnoch. Mae’r bwganod bach hyn yn ffordd rwydd o sicrhau bod eich plant yn cael un o’u 5 y dydd. Gallwch hefyd eu cadw yn y rhewgell i’w bwyta yn nes ymlaen (os na fyddant i gyd yn diflannu ar unwaith). 

Mae llawer o ddanteithion eraill sy’n addas ar gyfer Calan Gaea’ ar wefan ‘Good Food’ y BBC – rhowch gynnig arnynt. 

 

Mynd i noson tân gwyllt

Bydd nosweithiau tân gwyllt yn cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru yn ystod penwythnos olaf hanner tymor (2-4 Tachwedd). Bydd arddangosfeydd addas i blant yn cael eu cynnal ar ddechrau llawer o’r digwyddiadau hyn, a bydd sawl un hefyd yn cynnig tocynnau teulu neu docynnau rhatach i blant. Fodd bynnag, mae’r digwyddiadau hyn ychydig yn ddrutach felly efallai y byddwch am i hwn fod yn achlysur arbennig i nodi diwedd hanner tymor!

Sparks in the Park Caerdydd  

Mae Sparks in the Park, a gynhelir ar Gae Blackweir, Parc Bute, yn cynnwys arddangosfeydd tân gwyllt anhygoel ac adloniant carnifal i’r teulu cyfan. Mae’r arddangosfa i blant yn dechrau am 5:45pm, a bydd y prif ddigwyddiad am 7pm. Mae mynediad am ddim i blant dan 3 oed, ac mae tocynnau i blant 3-16 oed yn costio £5. Mae’n costio £10 i oedolion fynychu, er bod modd prynu tocyn teulu am £25.

Tân Gwyllt Clydach, ger Abertawe 

Mae’r arddangosfa tân gwyllt flynyddol hon, a gynhelir ar 4 Tachwedd ym Mharc Waverly, yn ffefryn gyda’r trigolion lleol. Yn ogystal â’r brif arddangosfa tân gwyllt am 7pm, bydd bwyd, diod a reidiau ffair ar gael i’r plant eu mwynhau. A’r peth gorau? Mae mynediad am ddim! Mae’r trefnwyr yn gofyn am gyfraniadau i Gronfa Gymunedol Clydach.

The Big Sparkle Merthyr Tudful 

Cynhelir The Big Sparkle ym Mharc Cyfarthfa ddydd Gwener 2 Tachwedd. Bydd llond y lle o gerddoriaeth, stondinau bwyd, reidiau ffair ac ymddangosiadau gan fasgotiaid arbennig. Mae’r gatiau’n agor am 5:30pm a bydd arddangosfa tân gwyllt arbennig yn dechrau am 7:30pm. Mae mynediad am ddim i blant dan 3 oed, ac mae tocyn teulu (i 4 person) yn costio £12.

Noson Tân Gwyllt Bynea yn Gateway Resort  

Bydd y digwyddiad hwyliog hwn yn Gateway Resort, Bynea, yn dechrau am 6pm nos Sadwrn 3 Tachwedd. Ochr yn ochr â’r brif arddangosfa tân gwyllt am 7pm, bydd yr ardal chwarae dan do hefyd ar agor nes 9pm a bydd y Clwb Plant ar agor o 6pm. Mae mynediad am ddim i blant dan 3, ac mae tocynnau i blant 3-17 oed yn £3. Mae tocynnau i oedolion yn £5 yr un.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am nosweithiau tân gwyllt eraill a gynhelir yng Nghymru yma. 

 

Os hoffech deithio i unrhyw un o’r gweithgareddau hyn ar drafnidiaeth gyhoeddus, gallwch ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf cyfleus a chael gafael ar fanylion am amseroedd a gwasanaethau.

Os hoffech ddod o hyd i amserlen bws, ewch i’n tudalen Amserlenni. Yma, gallwch chwilio am lwybr bysiau penodol neu chwilio am eich lleoliad er mwyn gweld amserlenni gwasanaethau yn yr ardal. Gallwch argraffu’r amserlen berthnasol er mwyn mynd â hi gyda chi ar y diwrnod hefyd.

Os byddai’n well gennych ein ffonio, mae croeso i chi ffonio ein Canolfan Gyswllt ddwyieithog yn rhad ac am ddim ar 0800 464 0000 a siarad ag un o’n hymgynghorwyr cyfeillgar. Mae’r Ganolfan ar agor o 7am tan 8pm a bydd y staff ar gael i’ch helpu i gynllunio eich taith.

Gallwch hefyd lawrlwytho ap Traveline Cymru i ddod o hyd i wybodaeth am deithio wrth fynd.

Pob blog Rhannwch y neges hon