Blog

Six Nations 2019

Eich Canllaw Teithio ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019!

06 Chwefror 2019

Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad bob amser yn ddigwyddiad poblogaidd yng nghalendr chwaraeon Cymru, a disgwylir y bydd Pencampwriaeth 2019 yn ddathliad gwych o agweddau gorau’r gamp. Bydd miloedd o gefnogwyr yn tyrru i Gaerdydd ar ddiwrnodau’r gemau wrth i Gymru geisio curo Iwerddon, y pencampwyr presennol, a chipio tlws y Bencampwriaeth.

Bydd diwrnodau’r gemau yn brysur tu hwnt yn y brifddinas, felly bydd nifer o ffyrdd ar gau a bydd nifer o newidiadau’n cael eu gwneud i drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd y newidiadau hynny’n cynnwys dargyfeirio bysiau, addasu gwasanaethau a chyflwyno systemau ciwio mewn gorsafoedd trenau. Rydym wedi llunio canllaw sy’n cynnwys yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch er mwyn teithio’n hwylus yn ôl ac ymlaen i Gaerdydd a’r cyffiniau ar ddiwrnodau’r gemau.

 

1. Cynlluniwch ymlaen llaw!

Bydd Cymru yn chwarae yn Stadiwm Principality ar y dyddiadau canlynol:

Er mwyn osgoi newidiadau annisgwyl i’ch taith, gorau oll os gallwch gynllunio ymlaen llaw. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth gan amryw weithredwyr trafnidiaeth, sy’n egluro pa wasanaethau y byddant yn eu rhedeg ar ddiwrnodau’r gemau (ac unrhyw newidiadau i’w llwybrau), ar ein tudalen Problemau Teithio. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon wrth i unrhyw wybodaeth newydd gan weithredwyr ddod i law.

Os bydd y newidiadau hyn neu unrhyw broblemau teithio eraill yn effeithio ar eich taith, bydd rhybudd yn ymddangos ar eich sgrîn wrth i chi chwilio am eich llwybr ar ein Cynlluniwr Taith neu ar ein tudalen Amserlenni. Bydd y rhybudd yn cael ei amlygu gan driongl melyn.

 

Sut mae defnyddio’r Cynlluniwr Taith?

Gallwch gael gafael ar ein Cynlluniwr Taith ar wefan Traveline Cymru neu ar ein ap. Teipiwch eich man cychwyn a’r man yr hoffech deithio iddo, er enghraifft Stadiwm Principality, cod post y gwesty yr ydych yn aros ynddo, neu enw gorsaf drenau. Yna, dewiswch pryd yr hoffech ymadael neu gyrraedd a’r math o drafnidiaeth gyhoeddus yr ydych yn ei ffafrio, a chliciwch ‘Anfon’! Yn ogystal, os ydych yn dymuno, gallwch bennu nifer y newidiadau yr ydych am eu gwneud yn ystod eich taith, a nodi eich cyflymder cerdded (er mwyn rhoi syniad mwy cywir i chi o’r amser y bydd eich taith yn ei gymryd).

Yna, bydd y Cynlluniwr Taith yn nodi’r llwybr cyflymaf a fydd yn eich galluogi i gyrraedd pen eich taith, a bydd yn darparu canllaw cam wrth gam a fydd yn egluro pob rhan o’r daith i chi. Bydd yn nodi’r amser y bydd angen i chi adael y tŷ, yr amser y bydd yn ei gymryd i chi gerdded i’r arhosfan bysiau neu’r orsaf drenau, a’r amser y disgwylir i chi gyrraedd pen eich taith – byddwn yn cynnwys pob manylyn! Cofiwch chwilio am y triongl melyn ar y dudalen a fydd yn dangos y canlyniadau, er mwyn cael rhybuddion ynghylch unrhyw broblemau a allai effeithio ar eich taith.

 

Ble mae cael gafael ar y dudalen Amserlenni?

Os ydych eisoes yn gwybod pa wasanaeth bysiau y mae angen i chi ei ddefnyddio, ewch yn syth i’n tudalen Amserlenni. Gallwch gael gafael ar y dudalen ar y bar top ar dudalennau Traveline Cymru ar y we, ac ar ein ap.

Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw teipio rhif y gwasanaeth yr ydych am ei ddefnyddio, a dewis eich llwybr o’r rhestr sy’n ymddangos ar y sgrîn. Yna, byddwch yn gallu gweld yr amserlen ar gyfer y llwybr hwnnw – ond sicrhewch eich bod yn clicio ar amserlen ‘Dydd Sadwrn’ ar gyfer diwrnodau’r gemau! Gallwch hefyd glicio a gweld fersiwn PDF o’r amserlen, y gellir ei hargraffu, ar dop y sgrîn.

 

 

2. Sicrhewch eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio ar ein tudalen Twitter.

Byddwn yn aildrydar diweddariadau a chyhoeddiadau gan weithredwyr ar @TravelineCymru rhwng 7am ac 8pm ar y diwrnod, er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw ddargyfeiriadau, unrhyw oedi o ran traffig, neu unrhyw newidiadau i wasanaethau. Mae Twitter hefyd yn lle gwych i ymuno yn y sgwrs â chefnogwyr rygbi eraill wrth edrych ymlaen at y gêm. Cofiwch gymryd rhan!

P’un a ydych yn mynd i’r gêm, yn ei gwylio yn y dafarn neu’n crwydro o amgylch Caerdydd, byddem yn eich cynghori hefyd i adael digon o amser ar gyfer eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus, oherwydd mae’n debygol y bydd llawer o draffig ledled y ddinas ac y bydd gwasanaethau’n fwy prysur nag arfer.

 

3. Angen help? Ffoniwch un o’n cynghorwyr cyfeillgar yn rhad ac am ddim!

Os oes angen unrhyw help arnoch i gynllunio eich taith cyn y gêm, neu wrth grwydro o le i le yng Nghaerdydd ar y diwrnod, bydd un o’n cynghorwyr cyfeillgar wrth law i’ch helpu. Gallwch ffonio ein rhif Rhadffôn ar 0800 464 00 00 rhwng 7am ac 8pm i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am drafnidiaeth gyhoeddus. Mae hefyd yn syniad cadw’r rhif hwn yn eich ffôn rhag ofn na fydd gennych ddata neu gyfleuster WiFi y gallwch ei ddefnyddio.

 

 

4. Gofalwch am eich eiddo personol.

Pan fyddwch yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ac yn ymlwybro drwy’r torfeydd ar eich ffordd i’r gêm ac wrth adael wedyn, mae’n bwysig cadw eich eiddo personol yn saff bob amser. Cyn gadael y gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus yr ydych yn ei ddefnyddio, cofiwch fwrw golwg ar y man lle’r ydych wedi bod yn sefyll neu’n eistedd er mwyn sicrhau nad ydych wedi gadael eich ffôn, eich bag, eich allweddi neu unrhyw eiddo personol arall yno. Os byddwch yn colli unrhyw eiddo, gorau oll os gallwch gysylltu’n uniongyrchol â gweithredwr y bws neu’r trên. Mae rhestr o weithredwyr i’w chael ar ein tudalen ‘Dolenni cyswllt defnyddiol’, ynghyd â dolenni cyswllt â’u gwefannau lle gallwch ddod o hyd i’w manylion cyswllt.

 

5. Dewch i gymryd rhan, hyd yn oed os nad ydych yn mynd i’r gêm!

Mae Caerdydd ar ddiwrnod gêm yn brofiad unigryw. Mae’r awyrgylch yn drydanol ac yn rhywbeth y dylech ei brofi drosoch eich hun, hyd yn oed os nad ydych wedi llwyddo i gael tocynnau ar gyfer y gêm.

Bydd tafarnau a bariau ledled y ddinas yn dangos y gêm fel y mae ar y teledu. Beth am gysylltu â’ch ffrindiau, gwisgo eich crys Cymru gyda balchder a mynd i Gaerdydd am y diwrnod? Os ydych yn ddigon agos i’r stadiwm, efallai y byddwch hyd yn oed yn gallu clywed bonllefau’r dorf! Mae Traveline Cymru wrth law i sicrhau eich bod yn cael yr holl fanylion y bydd eu hangen arnoch am drafnidiaeth, er mwyn helpu i wneud eich penwythnos yn un bythgofiadwy. 

Pob blog Rhannwch y neges hon