Blog

Welshpool and Llanfair Light Railway

Uchafbwyntiau hanner tymor mis Chwefror: Beth sydd ymlaen yn y canolbarth?

14 Chwefror 2019

Mae gwyliau’r Nadolig wedi hen basio erbyn hyn, ac mae’n siŵr eich bod chi a’r plant yn edrych ymlaen at gael seibiant haeddiannol yn ystod hanner tymor mis Chwefror. I’ch helpu i wneud yn fawr o’r gwyliau, rydym wedi creu rhestr o weithgareddau difyr y gall y teulu cyfan eu mwynhau ar draws y de, y canolbarth a’r gogledd.

Bydd ein hail erthygl am ‘Uchafbwyntiau hanner tymor mis Chwefror’ yn dweud wrthych ble y gallwch roi cynnig ar bobi bara, gweld enillydd y gystadleuaeth Britain’s Got Talent – Lost Voice Guy – yn perfformio’n fyw, a syllu ar y sêr mewn planetariwm rhyngweithiol yn y canolbarth.

 

Hanner tymor mis Chwefror yn Llanerchaeron, Ceredigion:

Mae gan ystâd ysblennydd Llanerchaeron rywbeth at ddant pawb yn ystod y gwyliau hanner tymor! P’un a ydych am roi cynnig ar arddio, coginio neu hyd yn oed wneud papur wal, bydd Llanerchaeron yn cynnal gweithgareddau rhad ac am ddim bob dydd i chi eu mwynhau, o 23 Chwefror tan 3 Mawrth.   

Ai chi fydd y Paul Hollywood nesaf? Ymunwch ag un o wirfoddolwyr yr ystâd yng nghegin y Fila i ddangos eich doniau pobi bara. Rhowch gynnig arni! Bydd y gweithdai hyn yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn 23 Chwefror a dydd Sadwrn 2 Mawrth rhwng 11:30am a 2:30pm.

Os yw’n well gennych ymwneud â byd natur, gallai gweithgaredd ‘Potiau Papur a Phys Pêr’ (ddydd Llun 25 Chwefror a dydd Sul 3 Mawrth) yr ystâd fod yn ddelfrydol i chi! Dysgwch gan arddwr yr ystâd sut y mae hau eich pys pêr eich hun er mwyn mynd â nhw adref gyda chi a’u tyfu. Gallwch ddarganfod hefyd pa bryfed sy’n bwyta casgliadau’r ystâd a sut y maent yn cael eu trin, yn ystod y Diwrnod Pryfed (ddydd Iau 28 Chwefror).

Mae rhestr lawn o weithgareddau’r wythnos i’w chael ar wefan Llanerchaeron.

Mae gwasanaeth T1, a weithredir gan First Cymru, yn rhedeg rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin. Mae’r gwasanaeth yn rhedeg bob awr ar ddiwrnodau’r wythnos ac mae’n aros ½ milltir i ffwrdd o fynedfa Llanerchaeron, wrth ymyl y New Forge Inn. Mae gwasanaeth i’w gael ar benwythnosau hefyd.

 

 

Trenau Twym y Gaeaf yn Rheilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion:

Cafodd Rheilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion ei hagor gyntaf yn 1903 i gysylltu tref farchnad y Trallwng â chymuned wledig Llanfair Caereinion, ac erbyn hyn mae’n atyniad gwych i ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn.

I ddathlu hanner tymor mis Chwefror a Dydd Gŵyl Dewi, gall ymwelwyr deithio yng ngherbydau cynnes y trên stêm traddodiadol hwn, ar daith gron o Lanfair Caereinion i Gastell Caereinion. Yn ogystal, gallwch fwynhau rhai o’r danteithion blasus sydd i’w cael yn yr ystafell de gartrefol yn Llanfair Caereinion. Mae tocynnau dwyffordd yn costio £9.00 i oedolion a £4.00 i blant rhwng dydd Sul 17 Chwefror a dydd Sadwrn 2 Mawrth.

I archebu eich tocynnau a mwynhau golygfeydd godidog Ystâd Castell Powis (a gweld llawer o fywyd gwyllt gwych ar y ffordd!), ewch i wefan y Rheilffordd.

Mae gorsaf Raven Square y Trallwng ym mhen gorllewinol y dref, oddeutu milltir i ffwrdd o orsaf y brif reilffordd (Amwythig - Machynlleth - Aberystwyth / Pwllheli). Dylai teithwyr sy’n cyrraedd ar y brif reilffordd fynd i gyfeiriad canol y dref a mynd yn syth yn eu blaen wrth y groesffordd. Mae’r orsaf wrth ymyl y gylchfan yn Raven Square.

 

 

Sioe Blanetariwm: Cysawd yr Haul yng Nghwm Elan ddydd Sul 24 Chwefror

Ydych chi erioed wedi meddwl sut y mae’r ddaear yn edrych o’r gofod? Neu ydych chi erioed wedi dymuno gweld wyneb y lleuad yn agos? Dewch i syllu ar y sêr yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan yn Rhaeadr Gwy ddydd Sul 24 Chwefror, a gweld rhyfeddodau ein bydysawd yn y planetariwm hollgwmpasog hwn.

Ewch ar daith o gwmpas Cysawd yr Haul gyda Martin Nelmes a’i dîm o Brifysgol Aberystwyth. Bydd y tîm wrth law i ateb eich holl gwestiynau am y gofod ac i daflu goleuni ar y ffyrdd cymhleth y mae pob lleuad a phlaned sydd yn ein bydysawd yn gweithio.

Bydd pedair sioe rad ac am ddim yn cael eu cynnal am 11am, 12pm, 2pm a 3pm. Dim ond nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly ffoniwch 01597 810880 i gadw lle!

Mae Cwm Elan ym Mhowys yn y canolbarth – taith ychydig oriau’n unig o Birmingham a Chaerdydd. Gellir cyrraedd y lleoliad yn hawdd o dref Rhaeadr Gwy gerllaw, a gaiff ei gwasanaethu’n dda gan drafnidiaeth gyhoeddus. Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 81 yn mynd heibio i’r Ganolfan Ymwelwyr hefyd! 

 

 

Lost Voice Guy yn perfformio yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth nos Wener 22 Chwefror

Daeth y Lost Voice Guy (sef Lee Ridley) yn enwog ar ôl dod i’r brig yng nghystadleuaeth Britain’s Got Talent 2018, ac mae’r comedïwr yn dod i Aberystwyth yn awr yn rhan o’i daith o amgylch y DU.

Lee yw’r comedïwr cyntaf i ddefnyddio cymorth cyfathrebu, ac erbyn hyn mae’n un o enwau mawr y byd comedi yn y DU.

Yn ogystal ag ennill Britain’s Got Talent, Lee hefyd yw seren ac awdur cyfres gomedi Radio 4 y BBC, ‘Ability’. Mae wedi perfformio yn rhai o wyliau comedi mwyaf poblogaidd y DU, gan gynnwys Gŵyl Ymylol Caeredin a Gŵyl Gomedi Nottingham.

Gellir prynu tocynnau ar gyfer y gig, sydd ar gyfer pobl 14+ oed, ar wefan Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Peidiwch ag oedi gormod! Mae’r tocynnau yn mynd yn gyflym.

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn agos i nifer o arosfannau bysiau ar gyfer gwasanaethau lleol, gan gynnwys gwasanaethau 512, X28 a T2. Yn ogystal, mae trenau’n mynd yn uniongyrchol i Aberystwyth o Birmingham, Amwythig, y Drenewydd a Machynlleth, bob 1-2 awr.

 

 

Yr Amgueddfa Seiclo Genedlaethol, Llandrindod:

Yn galw ar blant a phobl ifanc sy’n dwlu ar seiclo! Os yw gweld Geraint Thomas yn ennill y Tour de France y llynedd wedi gwneud i’ch plentyn ymddiddori mewn seiclo, yna dylech ddod draw am dro i’r Amgueddfa Seiclo Genedlaethol yn Llandrindod.

Dewch i weld drosoch eich hun sut y mae’r beic wedi datblygu yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf ac wedi cyrraedd y siâp yr ydym yn gyfarwydd ag ef heddiw. O feiciau tandem i feiciau peni-ffardding a beiciau tair olwyn, mae pethau wedi newid gryn dipyn ers i’r beic cyntaf ymddangos!

Yn ogystal, gallwch ddysgu am ambell record byd a record Olympaidd anhygoel yn y byd seiclo, a dysgu ble a phryd y cawsant eu creu. Mae yna gwis difyr, rhad ac am ddim i’w gael fel y gall plant ddangos eu gwybodaeth am seiclo, ac mae gan yr amgueddfa siop anrhegion lle gallwch brynu rhywbeth i gofio am eich ymweliad.

Mae mynediad yn £5 i oedolion, yn £4 i’r sawl sy’n gymwys i gael gostyngiad ac yn £2 i blant. Dim ond ag arian parod ar ddiwrnod eich ymweliad y gallwch brynu tocynnau. Ewch i wefan yr Amgueddfa i gael gwybod mwy.

Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli i fynd ar eich beic? Bydd Cynlluniwr Beicio Traveline Cymru yn dangos pa lwybr yw’r un cyflymaf ar gyfer eich taith, faint o amser y bydd y daith yn ei gymryd, faint o galorïau y byddwch yn eu llosgi a pha mor brysur yw’r llwybr.

Mae gwasanaeth 48 o Landrindod i Lanfair-ym-Muallt, a gaiff ei weithredu gan Celtic Travel, yn aros y tu allan i fynedfa’r Amgueddfa. Mae gwasanaethau X47, 461 a T4 hefyd yn aros bellter cerdded byr i ffwrdd.

 

Ydych chi am wybod beth sydd ymlaen yn y de a’r gogledd ? Gallwn ni eich helpu. Cliciwch yma i ddarganfod rhai o’r ffyrdd y gallwch dreulio eich hanner tymor yno.

 

Os oes angen unrhyw help arnoch i gyrraedd y lleoliadau y cyfeirir atynt, mae Traveline Cymru ar gael i’ch helpu.

 

Trafnidiaeth gyhoeddus

Os ydych am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf cyfleus, manylion y gwasanaethau sy’n rhedeg a’u hamseroedd.

Os hoffech ddod o hyd i amserlen fysiau, ewch i’n tudalen Amserlenni. Yma, gallwch chwilio am lwybr bysiau penodol neu’ch lleoliad er mwyn gweld amserlenni gwasanaethau yn eich ardal. Yn ogystal, byddwch yn gallu argraffu’r amserlen er mwyn mynd â hi gyda chi ar eich taith.

 

Cerdded a beicio

Gallwch hefyd ddefnyddio ein cynlluniwr taith i ddod o hyd i lwybrau cerdded a beicio er  mwyn cyrraedd eich digwyddiad. Os ydych yn byw’n agos, gall cerdded fod yn ffordd wych o weld y golygfeydd a mwynhau’r awyrgylch cyn y digwyddiad!

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Beicio a Cherdded.

 

Rydym yn cynnig gwasanaeth rhadffôn hefyd. Bydd un o’n cynghorwyr cyfeillgar wrth law i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych am drafnidiaeth gyhoeddus ac i’ch helpu i gynllunio eich taith. Ffoniwch ni ar 0800 464 00 00 yn rhad ac am ddim!

 

Mae ein ap yn ffordd wych o gynllunio eich taith wrth i chi fynd o le i le. Gallwch ddefnyddio ein hadnodd Cynlluniwr Taith, chwilio am amserlenni a dod o hyd i’ch gorsaf fysiau agosaf – y cyfan mewn un man. Os oes gennych iPhone gallwch lawrlwytho’r ap ar iTunes, neu os oes gennych ddyfais Android gallwch lawrlwytho’r ap ar Google Play. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y dudalen ynghylch yr ap ar ein gwefan.

Pob blog Rhannwch y neges hon